Os ydych chi'n credu bod penderfyniad neu ddyfarniad o du Cyllid a Thollau EM yn anghywir neu'n afresymol, yn aml mae gennych hawl i apelio neu awdurdodi cynghorydd proffesiynol i apelio ar eich rhan.
Mae'r erthygl hon yn delio ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau a dyfarniadau sy'n ymwneud â threth bersonol a materion eraill yr oedd Cyllid y Wlad yn ymdrin â hwy'n flaenorol. Ar gyfer apeliadau sy'n ymwneud â TAW (Treth Ar Werth), tollau cartref a thollau eraill, cliciwch ar y ddolen ar y diwedd.
Mae'r penderfyniadau y gallwch apelio yn eu herbyn o ran treth a meysydd eraill yn cynnwys:
Bydd y nodiadau a anfonir gyda'r ohebiaeth neu'r hysbysiadau sy'n berthnasol i'r uchod yn dweud wrthych a oes gennych hawl i apelio, sut mae apelio ac i ble y dylech anfon yr apêl. Mae'r adrannau canlynol yn rhoi syniad o beth sy'n digwydd wedyn.
Mae gennych hefyd hawl i apelio yn erbyn penderfyniad sy'n ymwneud â chredydau treth.
Fel arfer, rhaid ichi apelio ar bapur o fewn 30 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad neu'r dyfarniad yr ydych yn anghytuno ag ef. Nodir yr amserlen yn y nodiadau a ddarperir gyda'r hysbysiad. Mae ffurflen apelio'n cael ei chynnwys weithiau. Os nad ydych yn derbyn ffurflen, neu os yw'n well gennych, gallwch apelio mewn llythyr.
Does dim rhaid i chi apelio'n bersonol. Gall cyfrifydd neu gynghorydd proffesiynol arall apelio ar eich rhan.
Os ydych yn apelio yn erbyn asesiad treth, gallwch wneud cais i ohirio talu rhan neu'r swm cyfan os ydych yn teimlo bod y swm yn ormodol.
Mae'r rhan fwyaf o apeliadau'n cael eu setlo drwy ddod i gytundeb gyda Chyllid a Thollau EM. Byddant yn ystyried eich rhesymau dros apelio ac yn cytuno gyda chi ynghylch a ddylid a sut y dylid amrywio unrhyw asesiad, newid, penderfyniad neu ddyfarniad.
Yn yr achos hwn, gwrandewir yr apêl gan dribiwnlys annibynnol.
Gwrandewir y rhan fwyaf o apeliadau gan y Comisiynwyr Cyffredinol. Tribiwnlysoedd annibynnol lleol o wirfoddolwyr di-dâl ydynt, y bwriedir iddynt gynrychioli’r bobl a’r amodau yn yr ardal y penodir hwy iddi. Allan nhw ddim dyfarnu costau ond gallant newid penderfyniad os teimlant ei fod yn anghywir.
Cyfreithwyr cymwysedig yw'r rhain, a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor, sy'n ystyried apeliadau mwy cymhleth. Gallant ddyfarnu costau cyfyngedig os teimlant eich bod chi neu Gyllid a Thollau EM wedi gweithredu'n afresymol. Fel arfer, gallwch ddewis (neu 'ethol') i gael y Comisiynwyr Arbennig i wrando ar eich apêl. Os mai dyma'ch dymuniad, fel arfer dylech wneud hynny pan fyddwch yn gwneud eich apêl.
Sut y rhoddir penderfyniadau'r tribiwnlys
Yn aml, bydd y Comisiynwyr Cyffredinol yn rhoi eu penderfyniad ichi yn y gwrandawiad apelio. Mewn unrhyw achos, cewch wybod trwy lythyr o fewn ychydig ddyddiau.
Mae'r Comisiynwyr Arbennig bob amser yn rhoi eu penderfyniad trwy lythyr gryn amser ar ôl y gwrandawiad apelio.
Os yw'r Comisiynwyr yn gwneud penderfyniad yn eich erbyn, fe allwch, mewn rhai amgylchiadau, apelio'n erbyn eu penderfyniad:
I gael gwybod a oes modd cael cymorth cyfreithiol i helpu gyda chostau apelio, cysylltwch â gwasanaeth cyfeiriadur y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 608 1122 (minicom 0845 609 6677). Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.30 pm.
Pan nad oes hawl apelio, eich unig opsiwn cyfreithiol yw gwneud cais am Adolygiad Barnwrol. Gallai hyn fod yn ddrud iawn, felly ceisiwch gyngor cyfreithiol i ddechrau.
I gael gwybodaeth am sut i apelio yn erbyn penderfyniad yn ymwneud â TAW, tollau cartref a thollau eraill, neu i ofyn am ailystyried penderfyniad, cliciwch ar y dolenni isod.