Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhoi gwybod am newidiadau a allai effeithio ar eich treth

Gall newid yn eich incwm neu amgylchiadau effeithio ar faint o Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu. Mae'n bwysig dweud wrth Gyllid a Thollau EM am unrhyw newidiadau ar unwaith fel y gallant gyfrifo p'un a oes angen i chi dalu mwy o dreth neu lai ai peidio. Drwy gysylltu â hwy yn gynnar gallwch osgoi talu gormod o dreth neu fod mewn dyled ar ddiwedd y flwyddyn.

Newidiadau y mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM

Bydd angen i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os byddwch:

  • yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil
  • yn dechrau cael ail incwm (neu drydydd, neu fwy)
  • yn mynd yn hunangyflogedig neu'n peidio â bod yn hunangyflogedig
  • yn dechrau cael buddiannau gan y cwmni - er enghraifft car cwmni neu yswiriant meddygol
  • yn dechrau cael pensiwn cwmni neu bensiwn personol
  • yn dechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth neu unrhyw fudd-daliadau trethadwy eraill

Bydd yn rhaid i chi roi gwybod iddynt hefyd os bydd unrhyw Incwm arall yr ydych yn ei gael - er enghraifft cynilion neu incwm rhent - yn cynyddu neu'n lleihau.
Gall yr holl bethau hyn a mwy effeithio ar faint o Dreth Incwm y mae'n rhaid i chi ei dalu.

Priodas neu bartneriaeth sifil lle ganed un partner cyn 6 Ebrill 1935

Dywedwch wrth eich Swyddfa Dreth os byddwch yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil ac o leiaf un partner wedi'i eni cyn 6 Ebrill 1935 - efallai y byddwch yn gymwys i gael y Lwfans Pâr Priod os ydych yn talu treth.

Os byddwch yn ysgaru neu os diddymir eich partneriaeth sifil neu os byddwch yn gwahanu a chithau'n cael y lwfans pâr priod, ni fyddwch yn gymwys i'w dderbyn mwyach ac felly bydd angen rhoi gwybod i'ch Swyddfa Dreth.

Marwolaeth partner priod neu bartner sifil

Os bydd eich gŵr, gwraig neu bartner sifil yn marw, bydd angen i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth os yw'r naill neu'r llall o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn hawlio lwfans pâr priod
  • y naill neu'r llall ohonoch yn hawlio Lwfans Person Dall a bod rhywfaint neu'r cyfan o hwn wedi'i drosglwyddo i'r partner priod neu bartner sifil arall

Dechrau/rhoi'r gorau i hunangyflogaeth

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM eich bod yn hunangyflogedig o fewn tri mis ers i chi ddechrau neu gallant roi dirwy o £100 i chi.
Os byddwch yn rhoi'r gorau i fod yn hunangyflogedig dywedwch wrth eich Swyddfa Dreth cyn gynted â phosibl.

Dechrau/rhoi'r gorau i dderbyn buddion cwmni

Os byddwch yn dechrau cael buddion cwmni trethadwy dylech roi gwybod i'ch Swyddfa Dreth ar unwaith fel na fyddwch yn cael bil treth mawr ar ddiwedd y flwyddyn. Does dim rhaid i gyflogwr ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am unrhyw fuddion y byddwch yn eu cael gan y cwmni tan ddiwedd y flwyddyn dreth, onid yw'n gar cwmni.

Byddant yn addasu eich rhif cod ac yn dechrau casglu'r holl dreth ychwanegol yn gynt, neu rywfaint ohono.

Dylech hefyd roi gwybod i'ch Swyddfa Dreth os byddwch yn rhoi'r gorau i gael buddion cwmni trethadwy, gallant newid eich cod treth a sicrhau nad ydych yn talu gormod o dreth.

Dechrau derbyn Pensiwn y Wladwriaeth

Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, dydych chi ddim yn stopio talu Treth Incwm yn awtomatig ond gall eich bil treth leihau. Bydd angen ichi ddweud wrth eich Swyddfa Dreth - ymlaen llaw os oes modd - pan fyddwch yn ymddeol fel na fyddwch yn talu gormod o dreth.

Anfonir copi o ffurflen P161 Ymholiad Pensiwn atoch i'w llenwi, bydd angen i Gyllid a Thollau EM gael gwybod:

  • eich dyddiad geni er mwyn i ni allu rhoi'r lwfansau cywir i chi
  • faint yw eich Pensiwn a'r dyddiad y byddwch yn dechrau'i gael
  • cyfanswm disgwyliedig eich incwm am y flwyddyn dreth y byddwch yn derbyn eich pensiwn am y tro cyntaf

Dechrau/rhoi'r gorau i dderbyn budd-daliadau gwladol

Os byddwch yn dechrau cael budd-daliadau gwladol neu os byddant yn dod i ben, gallai hynny effeithio ar eich bil treth. Gorau po gyntaf y cysylltwch chi â'ch Swyddfa Dreth, ac wedyn byddant yn gallu addasu eich cod treth cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau eich bod bob amser yn talu'r hyn sy'n ddyledus.

Sut mae rhoi gwybod am newidiadau i'ch incwm

Os ydych ar gynllun PAYE (Talu wrth Ennill) ond nad ydych fel arfer yn cwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad

Rhowch wybod i'ch Swyddfa Dreth am unrhyw newidiadau i incwm - hyd yn oed os ydych wedi cael yr incwm y tu allan i'ch swydd neu bensiwn ac nad yw'n cael ei ddelio drwy PAYE, er enghraifft incwm rhent.

Gall Cyllid a Thollau EM newid eich cod treth fel eich bod yn talu'r swm treth cywir. Os byddant yn gwneud hyn byddwch yn cael Hysbysiad Cod PAYE yn egluro'r newidiadau i'ch cod.

Mewn rhai achosion gellir gofyn i chi gwblhau ffurflen dreth a thalu unrhyw dreth ychwanegol drwy'r ffurflen Hunanasesiad.
Os yw eich incwm trethadwy wedi lleihau efallai bod ad-daliad yn ddyledus i chi.

Os nad ydych yn llenwi ffurflen dreth fel arfer ac os nad ydych ar PAYE

Os bydd cynnydd mewn incwm yn achosi i'ch incwm trethadwy fod yn uwch na'ch Lwfans Personol ac unrhyw Lwfans Person Dall y mae gennych hawl i'w gael mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth.
Efallai y bydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus gennych drwy'r ffurflen Hunanasesiad.

Os ydych eisoes wedi llenwi ffurflen dreth

Os cewch ostyngiad sylweddol mewn incwm neu os ydych yn disgwyl gostyngiad o'r fath, gallwch roi gwybod i'ch Swyddfa Dreth yn syth - efallai y gallant addasu'ch 'taliadau ar gyfrif' i adlewyrchu'r swm diwygiedig.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU