Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Person Dall

Os ydych chi'n cael eich cyfrif yn ddall a'ch bod ar gofrestr awdurdod lleol o bobl ddall, neu os ydych chi'n byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon ac na allwch wneud unrhyw waith lle mae gallu gweld yn hanfodol, gallwch hawlio Lwfans Person Dall. Os na allwch chi ddefnyddio rhan neu'r cyfan o'ch lwfans, efallai y gallwch ei drosglwyddo.

Sut mae Lwfans Person Dall yn gweithio

Ychwanegir Lwfans Person Dall at eich Lwfans Personol di-dreth - felly mae'n swm ychwanegol o incwm y gallwch ei gael bob blwyddyn heb dalu treth. Os ydych chi ar incwm isel, neu os nad ydych chi'n talu treth o gwbl hyd yn oed, efallai y gallwch drosglwyddo'ch Lwfans Person Dall i'ch cymar neu'ch partner sifil - gweler yr adran am drosglwyddo isod.

Lefel y Lwfans Person Dall

Y Lwfans Person Dall ar gyfer blwyddyn dreth 2009-10 yw £1,890 - does dim cyfyngiadau o ran oed nac incwm. Felly, er enghraifft, os ydych chi'n 58 oed, wedi'ch cofrestru'n ddall gyda'ch awdurdod lleol a bod gennych:

  • gyflog blynyddol o £10,000
  • Lwfans Personol o £6,475
  • Lwfans Person Dall o £1,890

Dim ond ar £1,635 (£10,000 tynnu £6,475 a £1,890) y bydd yn rhaid i chi dalu treth.

Os ydych chi a'ch cymar neu'ch partner sifil yn gymwys i gael Lwfans Person Dall, gall y ddau ohonoch gael lwfans.

Sut y byddwch chi'n cael Lwfans Person Dall

Os ydych chi'n credu y gallech hawlio Lwfans Person Dall cysylltwch â Chyllid a Thollau EM ar eu rhif ffôn blaenoriaeth 0845 366 7887. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Trosglwyddo'ch Lwfans Person Dall i'ch cymar neu'ch partner sifil

Os nad yw eich bil treth yn ddigon uchel i ddefnyddio'ch Lwfans Person Dall i gyd, gallwch ddefnyddio ffurflen 575 'Hysbysiad o drosglwyddo lwfansau Treth Incwm nad oes eu hangen' i drosglwyddo unrhyw lwfans nas defnyddiwyd i'ch cymar neu'ch partner sifil. Os ydych yn gwneud cais am ad-daliad treth ar ffurflen R40, gallwch ofyn am ffurflen 575 hefyd drwy dicio'r blwch priodol.

Os nad ydych chi'n talu treth a bod eich cymar neu'ch partner sifil yn gwneud hynny, gallwch ddal i drosglwyddo'ch lwfans nas defnyddiwyd iddynt.

Os gallwch hawlio Lwfans Pâr Priod, rhaid i chi drosglwyddo unrhyw lwfans nas defnyddiwyd pan fyddwch yn trosglwyddo'ch Lwfans Person Dall nas defnyddiwyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU