Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

TAW - Treth ar Werth

Treth yw TAW yr ydych yn ei thalu pan fyddwch yn prynu nwyddau a gwasanaethau yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), gan gynnwys y Deyrnas Unedig. Os oes TAW i'w thalu, fe'i cynhwysir fel arfer ym mhris y nwyddau neu'r gwasanaethau yr ydych yn eu prynu. Does dim rhaid talu TAW ar rai nwyddau.

Pryd y byddwch yn talu TAW a faint?

Mae gan holl wledydd yr UE eu cyfradd TAW eu hunain. Mae tair cyfradd yn y DU.

Cyfradd safonol

Rydych yn talu TAW ar y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau yn y DU yn ôl y gyfradd safonol, 17.5 y cant ar hyn o bryd. Bydd y gyfradd safonol yn lleihau i 15 y cant o 1 Rhagfyr 2008. Bydd y gyfradd yn aros at 15 y cant tan 1 Ionawr 2010, pan fydd yn mynd yn ôl i 17.5 y cant.

Cyfradd is

Mewn rhai achosion, er enghraifft seddi car plant a thanwydd neu bŵer domestig - rydych yn talu cyfradd is o bump y cant.

Cyfradd Sero

Does dim rhaid i chi dalu TAW ar rai nwyddau, megis:

  • bwyd
  • llyfrau, papurau newydd a chylchgronau
  • dillad plant
  • eitemau eithriedig arbennig - er enghraifft, offer ar gyfer pobl anabl

Sut y cyfrifir TAW?

Pan fydd rhywun yn codi TAW arnoch chi, maent yn lluosi pris gwreiddiol (net) yr eitem neu'r gwasanaeth gyda'r gyfradd TAW er mwyn cyfrifo faint o TAW i'w chodi. Maent wedyn yn ychwanegu swm y TAW at y pris net i roi'r pris 'gros' - y pris y byddwch chi'n ei dalu.

TAW ar filiau a derbynebau

Mae'r rhan fwyaf o brisiau adwerthol ar filiau a derbynebau'n cynnwys TAW - ni chaiff ei dangos ar wahân. Ond efallai y bydd llinell ar rai lle maent yn dangos yr elfen TAW. Nid yw hyn yn golygu eich bod yn gorfod talu swm ychwanegol - yr hyn y mae'n ei wneud yw dangos faint o'r pris sy'n cynnwys treth.

Rhaid i dderbynebau anadwerthol gan gyflenwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW (er enghraifft gan adeiladwyr neu beintwyr ac addurnwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW) ddangos swm ar wahân ar gyfer TAW. Rhaid iddynt hefyd ddangos rhif cofrestru TAW 9 digid y busnes.

Sut i ganfod a yw rhif TAW yn ddilys

I ganfod a yw rhif TAW yn y DU yn ddilys, gallwch ffonio llinell gymorth Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol Cyllid a Thollau EM ar 0845 010 9000. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallwch hefyd edrych ar rifau TAW yr Undeb Ewropeaidd ar-lein.

Os ydych chi'n amau twyll gyda golwg ar TAW

TAW, gallwch eu riportio'n gyfrinachol i linell gymorth Gyfrinachol yr adran Dollau, 0800 595 000, ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Does dim rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw fanylion personol.

Busnesau nad ydynt yn codi TAW

Does dim rhaid i fusnesau gyda gwerthiant blynyddol o £67,000 (2008-2009) neu lai gofrestru ar gyfer TAW (ac felly ni fyddant yn codi TAW), ond gallant dewis i wneud hynny’n wirfoddol. Os na fyddant, gall y pris yr ydych yn ei dalu am eu nwyddau neu wasanaethau fod yn rhatach na phetaech yn prynu'r un nwyddau neu wasanaethau gan gyflenwr sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych gwestiwn, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol Cyllid a Thollau EM ar 0845 010 9000. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Allweddumynediad llywodraeth y DU