Os ydych chi'n derbyn credydau treth, mae'n bwysig dweud wrth Gyllid a Thollau EM os bydd eich amgylchiadau'n newid. Os na wnewch chi hyn, mae'n bosibl na chewch chi'r holl arian y mae gennych hawl iddo, neu os telir gormod i chi - efallai y bydd rhaid i chi dalu rhywfaint yn ôl.
Bydd faint o gredyd treth gewch chi'n dibynnu'n bennaf ar incwm eich cartref a'r bobl yn eich teulu, felly mae sawl math o newid y mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM amdanyn nhw.
Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM:
Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM:
Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM:
Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM:
Gan fod faint o gredyd treth gewch chi'n dibynnu'n bennaf ar eich incwm blynyddol (neu ar eich incwm ar y cyd os ydych chi'n rhan o gwpwl), dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am y newidiadau i'ch incwm.
Os ydych chi'n disgwyl y bydd eich incwm am y flwyddyn yn llai na'ch incwm yn y flwyddyn flaenorol, mae'n bosib y bydd gennych yr hawl i arian ychwanegol.
Os ydych chi'n disgwyl y bydd eich incwm am y flwyddyn yn fwy na £25,000 yn uwch na'ch incwm yn y flwyddyn flaenorol, mae'n bosib y cewch chi lai o gredyd treth. Os cewch chi ormod o gredyd treth, mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu rhywfaint yn ôl.
Ond, os ydych chi'n disgwyl i'ch incwm codi £25,000 neu lai, does dim rhaid i chi ddweud wrth yr adran oherwydd chaiff hynny ddim effaith ar faint o gredyd treth gewch chi.
Os oes gennych bartner neu bartner sifil, rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am ei hincwm hefyd, hyd yn oed os nad yw wedi newid. Y rheswm dros hyn yw oherwydd bod credyd treth wedi'i seilio ar eich incwm ar y cyd.
Os na ddywedwch chi wrth Gyllid a Thollau EM am y rhain, mae'n bosib na fyddan nhw'n gallu talu i chi.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, gallwch gysylltu â'r llinell gymorth Credydau Treth 0845 300 3900, ffôn testun 0845 300 3909.
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch 0845 603 2000, ffôn testun 0845 607 6078.
Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 8.00 pm.
Bydd angen ychydig bach o amser i ddiweddaru'ch manylion, felly mae'n bosib na welwch chi unrhyw newid am hyd at 36 awr.
Rhowch wybod am unrhyw newid cyn gynted ag y bo modd. Drwy wneud hynny, fe gewch chi'r arian iawn yn gynt, ac mae'n bosib na fydd rhaid i chi dalu dim yn ôl.
Dim ond am hyd at dri mis y gellir ôl-ddyddio cynnydd i gredydau treth, ond bydd unrhyw ostyngiad yn cael ei ôl-ddyddio i'r dyddiad pan ddigwyddodd y newid yn eich amgylchiadau.
Gallwch ffonio'r llinell gymorth Credydau Treth:
(Prydain Fawr) 0845 300 3900, ffôn testun 0845 300 3909
(Gogledd Iwerddon) 0845 603 2000, ffôn testun 0845 607 6078
Desg gymorth gwasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EM 0845 300 3938
Mae desg gymorth gwasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau Em ar agor rhwng 8.00 am a 10.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 10.00 am a 6.00 pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.