Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Credydau treth: pryd a sut i roi gwybod am newidiadau

Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich credydau treth. Os na wnewch chi hyn, efallai y gallwch gael gormod o arian ac y bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl, neu efallai na chewch yr holl arian sy'n ddyledus i chi.

Newidiadau y mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni o fewn mis

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am y newidiadau canlynol o fewn mis oherwydd gallant olygu y bydd eich taliadau credyd treth yn mynd yn is. Os na wnewch chi hyn efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy o hyd at £300. Bydd y gostyngiad yn eich taliadau'n cael eu hôl-ddyddio i'r dyddiad y digwyddodd y newid:

Mae'n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth os gwnaethoch hawlio credydau treth am y tro cyntaf:

  • fel unigolyn – ond eich bod bellach wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil, neu eich bod yn byw gyda rhywun
  • fel rhan o gwpl - ond eich bod wedi gwahanu'n barhaol neu fod eich partner wedi marw

Bydd angen i chi ddweud wrthynt hefyd os byddwch chi neu'ch partner:

  • yn gadael y DU am byth
  • yn mynd dramor am gyfnod byr sy'n para mwy nag wyth wythnos - neu am fwy na 12 wythnos os ydych chi neu aelod o'r teulu yn cael eich trin am salwch, neu os oes rhywun yn eich teulu wedi marw
  • yn colli eich hawl i breswylio yn y DU

Os byddwch yn gweithio llai o oriau

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth os byddwch yn rhoi'r gorau i weithio. Hyd yn oed os ydych yn hunangyflogedig neu os ydych yn gweithio i rywun arall.

Dywedwch wrthynt hefyd os ydych:

  • yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos a bod eich oriau'n gostwng i lai nag 16 awr
  • yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos a bod eich oriau'n gostwng i lai na 30 - os ydych yn gwpl a bod gennych blant, mae oriau gweithio'r ddau ohonoch gyda'i gilydd yn cyfrif tuag at y 30 awr
  • ar streic - a'i bod wedi para mwy na 10 diwrnod gwaith yn olynol

Newidiadau i'r plant yr ydych yn gyfrifol amdanynt

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth os bydd un o'ch plant yn gadael cartref i fynd i fyw at rywun arall. Mae hyn yn cynnwys plentyn:

  • sy'n cael ei roi mewn gofal - neu ei roi i deulu maeth
  • sydd wedi'i ddedfrydu i bedwar mis neu fwy o garchar neu yn y ddalfa

Hefyd bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth os bydd plentyn neu berson ifanc:

  • yn gadael addysg llawn amser neu hyfforddiant cymaradwy hyd at 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed
  • yn dechrau ar hyfforddiant a ddarperir fel rhan o'i swydd
  • yn cael swydd gyflogedig a'u bod yn cael cyflog am weithio 24 awr yr wythnos neu fwy fel arfer
  • yn dechrau hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm neu gredydau treth ei hun

Mae eich costau gofal plant yn gostwng

Os ydych wedi hawlio costau gofal plant mae'n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth os byddwch yn rhoi'r gorau i dalu am ofal plant.

Mae'n rhaid i chi roi gwybod iddynt hefyd os:

  • yw eich costau gofal plant yn gostwng o £10 yr wythnos neu fwy a bod y newid yn para am o leiaf pedair wythnos yn olynol
  • nad yw'r sawl sy'n darparu eich gofal plant wedi'i gofrestru neu'i gymeradwyo bellach

Os byddwch yn dechrau cael talebau gofal plant gan eich cyflogwr

Os ydych wedi hawlio costau gofal plant mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth os byddwch yn dechrau cael talebau gofal plant gan eich cyflogwr i helpu tuag at gost eich gofal plant.

Newidiadau eraill y dylech roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth amdanynt

Mae hefyd yn syniad da rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newidiadau a allai olygu y bydd eich taliadau credyd treth yn codi. Er nad oes angen i chi wneud hynny o fewn mis - byddai'n syniad da ei wneud ar unwaith oherwydd dim ond am hyd at dri mis y gellir ôl-ddyddio taliadau.

Newidiadau i nifer y plant yr ydych yn gyfrifol amdanynt

Dylech ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth os bydd nifer y plant yr ydych yn gyfrifol amdanynt yn newid. Er enghraifft, os:

  • oes gennych fabi
  • bydd plentyn neu berson ifanc yn ymuno â'ch teulu neu'n gadael, efallai oherwydd eich bod yn maethu neu'n mabwysiadu

Newidiadau yn amgylchiadau'r plentyn neu berson ifanc yr ydych yn gyfrifol amdano

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os yw'r plentyn neu'r person ifanc yr ydych yn gyfrifol amdano:

  • yn aros mewn addysg llawn amser - neu'n dechrau cwrs hyfforddiant cymeradwy – ar ôl iddo gyrraedd 16 oed, oni fyddwch yn dweud hynny wrthym, bydd ei gredydau treth yn dod i ben ar 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed
  • yn gadael addysg llawn amser ond yn cofrestru gyda gwasanaeth gyrfaoedd - fel Connexions

Os byddwch yn dechrau talu am ofal plant – neu os bydd eich costau gofal plant yn codi

Dylech ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth os:

  • ydych yn dechrau talu am ddarparwr cofrestredig neu gymeradwy i ofalu am eich plentyn, gallwch gael rhywfaint o help gyda'r costau hyn drwy'r Credyd Treth Gwaith
  • ydych eisoes yn cael help gyda'ch costau gofal plant drwy'r Credyd Treth Gwaith - a bod eich costau'n codi, rhowch wybod i’r Swyddfa Credyd Treth os ydynt yn codi o £10 neu fwy yr wythnos - am o leiaf pedair wythnos

Newid yn eich cyflogaeth

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os byddwch yn newid eich swydd. Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith byddwch yn dal i'w gael ar yr amod nad yw'r bwlch rhwng gorffen un swydd a dechrau'r swydd newydd yn fwy na chwe diwrnod a'ch bod yn gymwys i gael credydau treth yn eich swydd newydd.

Newidiadau i'ch incwm

Mae'n bwysig dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith os bydd eich incwm yn codi neu'n lleihau. Mae faint o gredydau treth y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar faint o incwm sydd gennych yn dod i mewn.

Os disgwylir i'ch incwm ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol fod yn is na'r llynedd, efallai y bydd gennych hawl cael credydau treth ychwanegol.

Os disgwylir i'ch incwm ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol fod £25,000 yn uwch na'ch incwm ar gyfer y llynedd, efallai y cewch lai o gredydau treth.

Os nad ydych yn disgwyl i'ch incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol fod yn fwy na £25,000 yn uwch na'ch incwm y llynedd, ni fydd yn gwneud gwahaniaeth i faint o gredydau treth y byddwch yn eu cael ar gyfer y flwyddyn bresennol. Fodd bynnag, mae'n dal yn syniad da rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am y newid oherwydd bydd y cynnydd yn eich incwm yn cael ei ystyried:

  • yn y flwyddyn ddilynol
  • ar gyfer y taliadau a roddwyd i chi ar ôl mis Ebrill, ond cyn i chi adnewyddu eich cais

Os na fyddwch yn dweud wrthynt nes byddwch wedi adnewyddu eich credydau treth ar ôl diwedd y flwyddyn, efallai y byddant yn gofyn i chi dalu'r arian y maent wedi'i ordalu i chi yn ôl.

Os bydd aelod o'ch teulu'n cael ei roi yn y carchar

Dylech ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith os byddwch chi neu'ch partner yn cael eich dedfrydu i garchar.

Newid cyfeiriad a manylion banc

Cysylltwch â’r Swyddfa Credyd Treth hefyd os byddwch:

  • yn symud tŷ - rhowch eich cyfeiriad newydd iddynt
  • yn newid eich rhif ffôn
  • yn cael cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu gwahanol

Beth sy’n digwydd os na fyddwch chi'n rhoi gwybod am newid?

Mae'n bwysig iawn dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newidiadau ar unwaith. Os na wnewch chi hyn, efallai:

  • y cewch ormod o arian a bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl
  • na fyddwch yn cael yr arian sy'n ddyledus i chi

Os bydd y Swyddfa Credyd Treth wedi talu gormod i chi, byddant naill ai:

  • yn lleihau eich taliadau os ydych yn dal i gael credydau treth, neu
  • yn gofyn i chi dalu'r swm llawn os nad ydych yn eu cael

Mae'n bosibl hefyd y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy o hyd at £300.

Cysylltu â’r Swyddfa Credyd Treth

Gallwch ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid mewn amgylchiadau drwy gysylltu â'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos ac eithrio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a Dydd Calan).

Os ydych dramor gallwch hefyd gysylltu â Chyllid a Thollau EM ar +44 02890 538 192.

Allweddumynediad llywodraeth y DU