Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ad-dalu credydau treth sydd wedi'u gordalu

Os ydych wedi cael gormod o gredydau treth efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r arian ychwanegol yn ôl. Bydd Cyllid a Thollau EM naill ai'n lleihau eich taliadau presennol os ydych yn dal i gael credydau treth, neu'n gofyn i chi wneud taliad uniongyrchol - un taliad ar gyfer y swm llawn. Y naill ffordd neu'r llall bydd help ar gael os nad ydych yn gallu fforddio talu.

Os ydych yn dal i gael credydau treth

Os ydych yn dal i gael credydau treth, bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau eich taliadau parhaus er mwyn cael y swm a ordalwyd i chi'n ôl. Fodd bynnag, os nad ydych yn cael credydau treth bellach, neu os ydych wedi gwneud cais newydd ar ôl gwahanu oddi wrth eich partner, byddant yn gofyn i chi wneud taliad uniongyrchol - un taliad ar gyfer y swm llawn.

Lleihau eich taliadau

Os yw Cyllid a Thollau EM wedi talu gormod i chi yn ystod y flwyddyn dreth eleni - neu'r flwyddyn flaenorol - byddant yn lleihau eich taliadau parhau yn awtomatig nes byddwch wedi talu'r arian a ordalwyd i chi'n ôl.

Bydd y swm y byddant yn lleihau eich taliadau'n dibynnu ar p'un a ydych yn cael credydau treth yn llawn, neu ar gyfradd is. Mae Cyllid a Thollau EM yn gwneud y penderfyniad hwn ar sail y wybodaeth a roesoch iddynt am eich incwm. Os bydd eich incwm yn uchel, bydd eich taliadau credyd treth yn cael eu lleihau.

Edrychwch ar eich hysbysiad dyfarniad i weld a ydych yn cael credydau treth ar gyfradd is. Os ydych, dangosir hyn fel 'lleihad o ganlyniad i'ch incwm' yn rhan 2 - 'Sut yr ydym yn cyfrifo eich credydau treth'.

Oni ddangosir gostyngiad - oherwydd bod eich incwm yn isel, y swm uchaf y bydd Cyllid a Thollau EM yn ei gymryd o'ch taliadau fydd 10 y cant. Os byddwch yn cael gostyngiad - oherwydd bod gennych incwm eithaf uchel ac mai dim ond yr elfen deuluol o'r Credyd Treth Plant yr ydych yn ei gael, bydd Cyllid a Thollau EM yn cymryd hyd at 100 y cant o'ch taliadau parhaus yn ôl.

I bawb arall, bydd Cyllid a Thollau EM yn cymryd hyd at 25 y cant o'ch taliadau parhaus yn ôl.

Enghraifft 1

Ar hyn o bryd rydych yn cael yr uchafswm o gredydau treth heb ostyngiad o ganlyniad i'ch incwm. Roedd eich taliadau credyd treth yn £2,613 y flwyddyn, neu £50 yr wythnos. Bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau eich taliadau o 10 y cant - felly byddwch yn dal i gael 90 y cant o'ch arian. Bydd eich taliadau newydd yn £2,352 y flwyddyn, neu'n £45 yr wythnos.

Enghraifft 2

Ar hyn o bryd dim ond yr elfen deuluol o'r Credyd Treth Plant yr ydych yn ei chael gyda gostyngiad o ganlyniad i'ch incwm. Roedd eich taliadau credyd treth yn £545 y flwyddyn, neu'n £10.43 yr wythnos. Bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau eich taliadau o 100 y cant - felly ni fyddwch yn cael mwy o arian nes byddwch wedi talu'r gordaliad yn ôl.

Enghraifft 3

Ar hyn o bryd rydych yn cael Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith gyda gostyngiad o ganlyniad i'ch incwm. Roedd eich taliadau credyd treth yn £1,046 y flwyddyn, neu'n £20 yr wythnos. Bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau eich taliadau o 25 y cant - felly byddwch yn dal i gael 75 y cant o'ch arian. Bydd eich taliadau newydd yn £784.50 y flwyddyn, neu'n £15 yr wythnos.

Os oes angen cymorth arnoch i ddeall sut caiff eich taliadau eu lleihau, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0845 300 3900 neu'r ffôn testun 0845 300 3909.

Gallwch wneud taliadau ychwanegol os hoffech glirio eich gordaliad yn gynt. I wneud hyn ffoniwch Llinell Gymorth Taliad Credyd Treth ar 0845 302 1429.

Os yw eich taliadau llai yn achosi trafferthion ariannol i chi

Os na allwch fodloni eich costau byw hanfodol fel rhent, biliau nwy neu drydan gall Cyllid a Thollau EM gynnig cyfnod hirach i chi dalu drwy newid y gyfradd yr ydych yn talu'r arian yn ôl. Os bydd Cyllid a Thollau EM yn gwneud hyn, bydd yn cymryd mwy o amser i dalu'r gordaliad yn ôl.

Ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0845 300 3900 neu'r ffôn testun 0845 300 3909 i gael gwybod beth yw eich opsiynau.

Os nad ydych yn dal i gael credydau treth

Efallai na fyddwch yn gallu hawlio credydau treth ar gyfer y flwyddyn dreth hon. Efallai mai'r rheswm am hyn yw oherwydd:

  • bod eich amgylchiadau wedi newid
  • nad ydych wedi adnewyddu eich credydau treth
  • bod eich dyfarniad credyd treth wedi dod i ben - os, er enghraifft, ydych wedi gwahanu oddi wrth eich partner

Os ydych wedi cael gormod o arian ac nad ydych yn cael credydau treth bellach, bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn am daliad uniongyrchol gennych - un taliad ar gyfer y swm llawn.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych yn cael dyfarniad arall o gredydau treth ar gyfer teulu newydd.

Gwneud taliad uniongyrchol

Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon Datganiad Cyfrif atoch yn rhoi manylion y gordaliad. Byddwch hefyd yn cael Hysbysiad i Dalu a fydd yn cynnwys slip talu er mwyn i chi dalu'n ôl. Bydd angen i chi dalu Cyllid a Thollau EM o fewn 30 diwrnod.

Beth os na allaf dalu o fewn 30 diwrnod?

Os na allwch dalu Cyllid a Thollau EM o fewn 30 diwrnod, gallwch drefnu i dalu'r arian yn ôl dros 12 mis.

Os bydd angen mwy o amser arnoch eto i dalu, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM fel gallant drafod eich opsiynau gyda chi. Efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn gallu:

  • lledaenu'r ad-daliad dros gyfnod hwy
  • symud y dyddiad y byddant yn dechrau casglu'r arian sy'n ddyledus iddynt yn ôl

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch y Llinell Gymorth Taliadau Credyd Treth ar 0845 302 1429 cyn gynted â phosibl. Bydd Cyllid a Thollau EM yn gwneud penderfyniad ar sail eich amgylchiadau.

Ad-dalu gordaliad os ydych wedi gwahanu oddi wrth eich partner

Os ydych yn byw gyda phartner, mae'n rhaid i chi wneud cais am gredydau treth ar y cyd, sy'n golygu bod y ddau ohonoch yn gyfrifol am dalu unrhyw ordaliad yn ôl. Bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu at y ddau ohonoch yn rhoi gwybod i chi am y gordaliad.

Os ydych wedi gwahanu oddi wrth eich partner mae'n rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM cyn gynted â phosibl oherwydd bydd unrhyw gais am gredydau treth ar y cyd yn dod i ben. Ni ellir casglu gordaliad o unrhyw gais newydd am gredydau treth, felly bydd yn rhaid gwneud taliad uniongyrchol - un taliad ar gyfer y swm llawn. Os nad oes gan Gyllid a Thollau EM gyfeiriad ar gyfer un ohonoch, byddwn yn ceisio sicrhau dod o hyd i un.

Gallwch chi a'ch cyn bartner gytuno rhyngoch i dalu symiau gwahanol. Er enghraifft:

  • bod y ddau ohonoch yn talu hanner
  • bod y ddau ohonoch yn talu symiau gwahanol
  • bod un ohonoch yn talu'r swm llawn

Oni fydd y cytundeb hwn yn gweithio, bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i'r ddau ohonoch dalu hanner y swm.

Gallwch wneud cais newydd fel person sengl neu gyda phartner newydd ond mae'n rhaid i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM i wneud hynny. Ni allant leihau taliadau eich cais newydd er mwyn casglu gordaliad o ddyfarniad cynharach yn ôl. Bydd yn rhaid i chi wneud taliad uniongyrchol - un taliad ar gyfer y swm llawn

Cysylltu â Chyllid a Thollau EM

Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos ac eithrio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a Dydd Calan).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU