Gallwch hawlio credydau treth drwy'r post neu wyneb yn wyneb - ac mae digon o help ar gael i chi os oes ei angen arnoch
Mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen hawlio i gael credydau treth. Gallwch archebu pecyn hawlio credydau treth drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909.
Mae'r llinell gymorth ar agor o 8.00 am tan 8.00 pm bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Gallwch lenwi'r ffurflen eich hun a'i hanfon yn ôl drwy'r post. Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch i gwblhau'r ffurflen gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth a fydd yn fwy na pharod i roi rhagor o gyngor i chi.
Os byddwch yn hawlio budd-daliadau eraill, er enghraifft Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, bydd eich Canolfan Byd Gwaith - neu swyddfa Nawdd Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon - yn eich helpu gyda'r ffurflen hawlio credydau
Os ydych yn byw gyda rhywun fel cwpl mae'n rhaid i chi wneud cais am gredydau treth ar y cyd - ni allwch benderfynu hawlio fel person sengl. Bydd yn rhaid i chi nodi gwybodaeth am y ddau ohonoch ar y ffurflen hawlio a byddwch yn rhannu'r cyfrifoldeb dros sicrhau bod y wybodaeth yn gywir.
Gwnewch gais am gredydau treth cyn gynted ag y credwch eich bod yn gymwys. Os byddwch yn oedi cyn hawlio gallech golli arian oherwydd fel arfer dim ond hyd at dri mis y gellir ôl-ddyddio credydau treth o'r dyddiad y bydd Cyllid a Thollau EM yn cael eich ffurflen hawlio. Er enghraifft, os byddwch yn cael babi ar 12 Mehefin ond na fydd Cyllid a Thollau EM yn cael eich ffurflen hawlio tan 12 Hydref, dim ond at 12 Gorffennaf y byddant yn ôl-ddyddio eich taliadau.
Weithiau gall fod yn ddefnyddiol hawlio hyd yn oed os ydych yn credu bod eich incwm yn rhy uchel i gael unrhyw arian ar hyn o bryd. Mae'n bosibl y byddwch am wneud hyn os ydych yn disgwyl i'ch incwm ostwng yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn, oherwydd eich bod yn colli'ch swydd efallai.
Yn yr un modd, dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os ydych yn gwneud cais am fudd-dal salwch neu anabledd a fyddai'n golygu y byddwch yn cael taliadau credydau treth ychwanegol. Os dywedir wrthych yn ddiweddarach bod gennych hawl i gael y budd-dal, caiff eich taliadau credydau treth ychwanegol eu hôl-ddyddio at y dyddiad cynharaf posibl.
Pan fyddwch yn hawlio bydd angen i chi roi manylion eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf i Gyllid a Thollau EM. Mae blwyddyn dreth yn mynd o'r 6 Ebrill un flwyddyn i'r 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Er mwyn gwneud eich cais efallai y bydd angen i chi gael y wybodaeth ganlynol wrth law:
Byddwch yn cael cyfres o nodiadau gyda'ch ffurflen hawlio a fydd yn eich helpu i'w llenwi. Os bydd angen rhagor o gymorth arnoch, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909.
Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos ac eithrio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a Dydd Calan).
Neu gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM yn:
Tax Credit Office
Preston
PR1 0SB