Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth yw credydau treth?

Taliadau gan y llywodraeth yw credydau treth. Os ydych chi'n gyfrifol am o leiaf un plentyn neu berson ifanc sydd fel arfer yn byw gyda chi, mae'n bosib eich bod yn gymwys i gael Credyd Treth Plant. Os ydych chi’n gweithio, ond ar gyflog isel, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith.

Pwy all gael credydau treth?

Mae naw o bob deg teulu sydd â phlant yn cael credydau treth, ond nid oes angen i chi fod â phlant i fod yn gymwys. Gallwch fod yn gymwys hefyd os ydych yn gweithio ac ar gyflog isel.

Faint fyddwch chi’n ei gael?

Mae faint o gredydau treth a gewch yn dibynnu ar bethau fel:

  • faint o blant sy'n byw gyda chi
  • a ydych yn gweithio - a faint o oriau yr ydych yn eu gweithio
  • os ydych yn talu am ofal plant
  • os oes gennych chi neu unrhyw blentyn sy'n byw gyda chi anabledd
  • Os ydych yn 50 oed neu'n hŷn ac yn rhoi'r gorau i gael budd-daliadau

Mae eich taliadau hefyd yn dibynnu ar eich incwm. Os bydd eich incwm yn isel, byddwch yn cael mwy o gredyd treth.

Enghraifft 1

Mae Mr a Mrs Khan yn gweithio llawn amser. Rhyngddynt, maent yn ennill tua £25,000 y flwyddyn. Mae ganddynt dri o blant. Maent yn cael tua £55 yr wythnos o gredydau treth.

Pe byddai eu hincwm yn uwch, ac y byddai'r ddau'n ennill tua £50,000 y flwyddyn, buasent yn cael tua £10 yr wythnos yn lle.

Enghraifft 2

Mae Jon Barry yn 30 oed, yn ddi-briod ac yn byw ar ei ben ei hun. Mae'n gweithio llawn amser ac yn ennill £10,000 y flwyddyn. Mae'n cael tua £12 yr wythnos o gredydau treth.

Sut mae credydau treth yn gweithio

Os ydych wedi priodi neu'n byw gyda phartner bydd angen i chi wneud cais am gredydau treth ar y cyd. Dim ond cais sengl y gallwch ei wneud os nad oes gennych bartner.

Mae Cyllid a Thollau EM yn talu credydau treth yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu'ch cyfrif Cynilion Cenedlaethol os yw'n derbyn Taliad Uniongyrchol - naill ai bob wythnos neu bob pedair wythnos.

Pwy sy'n cael y taliadau?

Os yw'r ddau ohonoch yn gweithio a bod y ddau ohonoch yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith, chi sy'n penderfynu pwy fydd yn cael y taliadau.

Os ydych yn hawlio Credyd Treth Plant a'ch bod yn gwpl, bydd angen i chi benderfynu pa un ohonoch yw prif ofalwr y plentyn. Os mai chi yw'r prif ofalwr yna bydd yr arian yn cael ei dalu i chi.

Sut mae taliadau credydau treth yn gweithio

Mae'r taliadau credydau treth yr ydych yn eu cael yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol presennol a'ch incwm o'r flwyddyn dreth ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2008. Os ydych yn gwneud cais newydd am gredydau treth bydd eich taliadau fel arfer yn weithredol o ddyddiad eich cais hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth. Er enghraifft, os byddwch yn gwneud cais ar 10 Tachwedd 2008, cyfrifir eich taliadau o'r dyddiad hwnnw tan 5 Ebrill 2009.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu atoch bob blwyddyn yn ystod mis Ebrill, Mai a Mehefin yn gofyn i chi:

  • wirio'r wybodaeth sydd ganddynt am eich amgylchiadau personol
  • cadarnhau'r incwm a gawsoch yn ystod y flwyddyn sydd newydd ddod i ben
  • adnewyddu eich cais

Mae hyn yn helpu Cyllid a Thollau EM i sicrhau bod y taliadau a wnaethant i chi'n gywir. Mae hefyd yn eu galluogi i seilio eich taliadau ar gyfer y flwyddyn i ddod ar y swm cywir o incwm.

Weithiau byddwch wedi cael gormod o arian neu ddim digon. Os bydd hyn yn digwydd bydd Cyllid a Thollau EM yn gwneud addasiad er mwyn sicrhau bod eich taliadau'n gywir. Mae unrhyw daliadau y bydd Cyllid a Thollau EM yn eu gwneud o 6 Ebrill 2009 at y dyddiad y byddwch yn adnewyddu eich cais yn rhai dros dro ac os na fyddwch yn eu hadnewyddu, efallai y gofynnir i chi eu talu'n ôl.

Newidiadau yn eich amgylchiadau gartref ac yn y gwaith

Os bydd eich amgylchiadau'n newid gall effeithio ar faint o arian y dylech fod yn ei gael. Felly cysylltwch â Chyllid a Thollau EM cyn gynted â phosibl i roi gwybod iddynt am unrhyw newidiadau.

Cysylltu â Chyllid a Thollau EM

Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909, ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos ac eithrio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU