Budd-dal Plant - pa newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl os bydd eich amgylchiadau'n newid. Bydd hyn yn sicrhau y cewch yr holl arian y mae gennych yr hawl i'w gael heb unrhyw oedi, a hefyd nad ydych yn cael gormod o arian ac yna'n gorfod talu rhywfaint ohono'n ôl.
Newidiadau yn ymwneud â chi
Gall rhai newidiadau yn eich amgylchiadau effeithio ar eich hawl i gael Budd-dal Plant. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted â phosibl os bydd unrhyw un o'r canlynol yn newid.
|
Newidiadau teuluol
|
- byddwch chi'n priodi, yn ffurfio partneriaeth sifil, neu'n dechrau byw gyda phartner
- byddwch yn rhoi'r gorau i fyw gyda phartner a bod y ddau ohonoch yn cael Budd-dal Plant
- oes gennych fabi
- bydd plentyn arall yn dod i fyw gyda chi
- byddwch yn dechrau cael eich talu gan awdurdod lleol, neu yng Ngogledd Iwerddon gan Fwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar gyfer plentyn yr ydych yn gofalu amdano
|
|
Newidiadau i gyfrif banc, enw neu gyfeiriad
|
- os ydych am i'r Budd-dal Plant gael ei dalu i gyfrif arall
- os ydych wedi newid eich enw neu gyfeiriad
|
|
Cyfraniadau ar gyfer plentyn yn newid neu'n dod i ben
|
- byddwch yn rhoi'r gorau i dalu arian neu wneud cyfraniadau ar gyfer plentyn nad yw'n byw gyda chi neu sydd yn yr ysbyty am fwy nag 84 o ddyddiau
- byddwch yn mynd i'r ysbyty neu'r carchar am fwy nag wyth wythnos ac rydych yn rhoi'r gorau i wneud cyfraniadau ar gyfer eich plentyn
|
|
Absenoldeb o'r DU
|
- byddwch chi neu'ch partner yn gadael y DU yn barhaol neu am fwy na 52 o wythnosau
- byddwch yn gadael y DU dros dro am fwy nag wyth wythnos, neu fwy na 12 wythnos oherwydd eich bod chi neu aelod o'ch teulu yn sâl, neu wedi marw
- byddwch yn colli'r hawl i breswylio yn y DU UK
|
|
Newidiadau eraill
|
- byddwch chi neu'ch partner yn dechrau talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol, neu'n cael budd-dal nawdd cymdeithasol, gan wlad dramor
- byddwch yn gadael Prydain Fawr i fynd i fyw i Ogledd Iwerddon yn barhaol, neu'n gadael Gogledd Iwerddon i fynd i fyw i Brydain Fawr yn barhaol
|
Newidiadau yn ymwneud â'ch plentyn
Gall rhai newidiadau i amgylchiadau'ch plentyn effeithio ar eich hawl i gael Budd-dal Plant. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted â phosibl am unrhyw un o'r newidiadau canlynol.
|
Newidiadau yn addysg neu hyfforddiant eich plentyn
|
- yn gadael addysg berthnasol ac yn dechrau gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos, a'u bod yn cael cyflog neu'n disgwyl cael cyflog
- yn gadael addysg neu hyfforddiant perthnasol yn gynt na'r dyddiad a roesoch i ni
- yn aros mewn addysg berthnasol ar ôl y dyddiad y rhoesoch wybod i ni y byddai'n gadael
- yn dechrau addysg berthnasol sydd wedi'i darparu gan gyflogwr neu fel rhan o unrhyw swydd neu rôl arall sydd ganddynt
- sy'n 15 oed neu'n hŷn ac nad yw'n gallu mynd i'r ysgol, i'r coleg neu i hyfforddiant perthnasol
- yn cwtogi'r amser y mae'n ei dreulio yn cael astudiaeth dan oruchwyliaeth mewn ysgol neu goleg i 12 awr neu lai
- yn dechrau cwrs addysg uwch sy'n arwain at gymhwyster fel gradd
- yn dechrau cael ei addysgu gartref a'i fod yn 16 oed neu'n hŷn
- yn dechrau ar hyfforddiant perthnasol a ddarperir gan ei gyflogwr
- yn dechrau ar gwrs hyfforddiant nad yw wedi'i gymeradwyo
- yn 19 ac yn dechrau cwrs gwahanol o addysg neu hyfforddiant perthnasol
|
|
Mae eich plentyn oddi cartref
|
- wedi byw oddi cartref am fwy na 56 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 16 wythnos
- wedi cael ei ofalu gan awdurdod lleol (Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon), sefydliad gwirfoddol, neu wedi'i gadw mewn llety heb fod dan glo am o leiaf diwrnod yr wythnos yn ystod yr wyth wythnos diwethaf
- yn gadael y DU yn barhaol neu am fwy na 52 o wythnosau
- yn gadael y DU dros dro am fwy na 12 o wythnosau
- yn gadael Prydain Fawr i fynd i fyw i Ogledd Iwerddon yn barhaol, neu'n gadael Gogledd Iwerddon i fynd i fyw i Brydain Fawr yn barhaol
- mewn ysbyty neu ofal preswyl am 12 wythnos neu fwy oherwydd ei fod yn sâl neu'n anabl ac na fyddwch yn gwario arian arno'n rheolaidd
|
|
Newidiadau eraill
|
- yn newid ei enw
- yn dechrau cael budd-daliadau ei hun
- yn priodi, yn ffurfio partneriaeth sifil neu'n dechrau byw gyda phartner
- mewn carchar am fwy nag wyth wythnos
- yn mynd ar goll
|
Os bydd eich plentyn yn marw
Bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os bydd eich plentyn yn marw. Bydd hyn yn amser anodd i chi ond gallant fel arfer barhau i dalu'r Budd-dal Plant i chi am hyd at wyth wythnos ar ôl y dyddiad y bu farw eich plentyn. Gall hyn helpu gyda'r costau ychwanegol y byddwch yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod hwnnw.
Sut i roi gwybod am newidiadau
Gallwch roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am unrhyw newid yn eich amgylchiadau - neu amgylchiadau eich plentyn, drwy:
- anfon ffurflen ar-lein atom oddi ar ein gwefan
- cysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant
Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os yw'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ein ffonio ar 0845 302 1489, ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch + 44 161 210 3086.
Neu gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM yn:
Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle upon Tyne
NE88 1AA.