Sut i hawlio Budd-dal Plant
Yr unig ffordd i hawlio Budd-dal Plant yw cwblhau ffurflen hawlio Budd-dal Plant a'i hanfon at y Swyddfa Budd-dal Plant gyda thystysgrif geni neu fabwysiadu eich plentyn. Ni allwch hawlio dros y ffôn na'r we.
Mae sawl ffordd o gael ffurflen hawlio. Gallwch wneud y canlynol:
Cyn i chi gwblhau ffurflen hawlio, darllenwch y nodiadau sydd i fynd gyda hi er mwyn eich helpu i'w chwblhau.
Os byddwch yn cael problemau cael gafael ar ffurflen hawlio, a'ch bod yn ffonio o'r DU, cysylltwch â Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os byddai'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ffonio ar 0845 302 1489 ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch + 44 161 210 3086
Ni all Cyllid a Thollau EM ôl-ddyddio eich Budd-dal Plant fwy na tri mis o'r dyddiad y byddant yn cael eich cais. Felly byddai'n well gwneud eich cais ar unwaith er mwyn osgoi colli arian.
Dylech hawlio Budd-dal Plant ar unwaith:
Os yw eich plentyn wedi marw a'ch bod am hawlio Budd-dal Plant ar ei gyfer, dylech wneud hynny o fewn tri mis i'r dyddiad y bu farw eich plentyn.
Gall unrhyw un sy'n magu plentyn hawlio. Y fam sy'n gwneud hyn fel arfer, ond nid yw hyn yn ofynnol.
Bydd angen un o'r tystysgrifau canlynol arnoch ar gyfer eich plentyn pan fyddwch yn hawlio:
Mae'n rhaid cael y dystysgrif wreiddiol, ni dderbynnir llungopïau.
Os nad yw'r dystysgrif gennych, anfonwch eich ffurflen hawlio at Gyllid a Thollau EM beth bynnag. Byddant yn gofyn i chi anfon y dystysgrif nes ymlaen.
Nid oes angen i chi anfon tystysgrifau at Gyllid a Thollau EM ar gyfer unrhyw blentyn arall sydd gennych (neu rywun arall) yr ydych wedi cael Budd-dal Plant ar eu cyfer yn y gorffennol.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich ffurflen hawlio, anfonwch hi, yn ogystal â'r dystysgrif, at:
Child Benefit Office (Washington)
Freepost
NEA 10463
PO Box 133
Washington
NE38 7BR
Darparwyd gan HM Revenue and Customs