Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth yw Budd-dal Plant?

Taliad di-dreth y gallwch ei hawlio ar gyfer eich plentyn yw'r Budd-dal Plant. Fel arfer caiff ei dalu bob pedair wythnos ond mewn rhai achosion gellir ei dalu bob wythnos, ac mae cyfraddau gwahanol ar gyfer pob plentyn. Gall unrhyw un sy'n gymwys hawlio'r taliad, beth bynnag fydd ei incwm neu gynilion.

Pwy all gael Budd-dal Plant?

Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Plant os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • mae eich plentyn o dan 16 oed
  • mae eich plentyn yn hŷn nac 16 oed ac mewn addysg neu hyfforddiant perthnasol
  • mae eich plentyn yn 16 neu'n 17 oed ac wedi gadael addysg neu hyfforddiant perthnasol ac wedi'i gofrestru ar gyfer gwaith, addysg neu hyfforddiant gyda chorff cymeradwyedig

Gallwch hawlio Budd-dal Plant hyd yn oed os nad yw eich plentyn yn byw gyda chi. Fodd bynnag, os yw'n byw gyda rhywun arall, ni allwch hawlio Budd-dal Plant os nad:

  • ydych yn talu tuag at gostau cynnal eich plentyn
  • yw'r hyn yr ydych yn ei dalu o leiaf yr un swm o Fudd-dal Plant yr ydych yn ei gael ar gyfer eich plentyn
  • yw'r sawl sy'n magu eich plentyn yn hawlio Budd-dal Plant ar ei gyfer

Gallwch hefyd hawlio Budd-dal Plant ar gyfer plentyn hyd yn oed os nad chi yw ei riant, ond chi sy'n gyfrifol am sicrhau ei fod yn gymwys.

Faint o Fudd-dal Plant gewch chi?

Mae dau swm gwahanol, gyda swm uwch ar gyfer eich plentyn hynaf (neu'ch unig blentyn). Cewch £18.80 yr wythnos ar gyfer eich plentyn hynaf (yn codi i £20.00 yr wythnos o 5 Ionawr 2009) a £12.55 yr wythnos (yn codi i £13.20 yr wythnos o 5 Ionawr 2009) ar gyfer pob plentyn arall sydd gennych.

Sut caiff y Budd-dal Plant ei dalu?

Gellir talu'r Budd-dal Plant yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, neu Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol. Fel arfer caiff ei dalu bob pedair wythnos, ond gellir ei dalu bob wythnos os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm neu os ydych yn rhiant sengl.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Cynghorydd budd-daliadau ar-lein

Gweld pa fudd-daliadau y mae’n bosib y bydd gennych hawl iddo

Ei wneud ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU