Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Pensiwn i Rai Dros 80

Pensiwn y Wladwriaeth yw'r Pensiwn i bobl sy'n 80 oed neu'n hŷn nad ydynt yn derbyn dim neu brin ddim Pensiwn Gwladwriaeth cyffredin. Yn wahanol i Bensiynau eraill y Wladwriaeth, nid yw wedi'i seilio ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Pwy sy'n gymwys?

Cewch hawlio hwn os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol i chi:

  • eich bod yn 80 neu’n hŷn
  • nid ydych chi'n derbyn Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth neu mae eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llai na £57.05 yr wythnos
  • os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban a'ch bod wedi gwneud hynny ers 10 mlynedd neu fwy mewn unrhyw gyfnod di-dor o 20 mlynedd gan gynnwys y diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 80 oed neu unrhyw ddiwrnod wedyn

Faint fyddwch chi'n ei gael?

  • £57.05 yr wythnos os nad ydych chi'n derbyn Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • os ydych chi'n derbyn Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth is - fe gewch y gwahaniaeth rhwng y swm is hwn a £57.05

Sut mae'n cael ei dalu

Telir y Pensiwn i rai Dros 80 oed yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r arian, anfonir siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Mae'r Pensiwn i rai Dros 80 oed, fel sy'n wir am bob pensiwn, yn incwm trethadwy, ac felly, fe all effeithio ar fudd-daliadau eraill a gewch chi sy'n gysylltiedig ag incwm.

Rhaid i chi gynnwys y Pensiwn i rai Dros 80 fel incwm os ydych chi'n hawlio budd-daliadau eraill.

Sut i hawlio

Gofynnwch i'ch Canolfan Bensiynau, eich Canolfan Byd Gwaith neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol i anfon ffurflen hawlio atoch os nad ydych wedi derbyn un o fewn tri mis i'ch pen-blwydd yn 80 oed (a chithau heb fod yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth eisoes).

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Petai eich amgylchiadau'n newid, fe allai hynny effeithio ar eich hawl i gael y Pensiwn i rai Dros 80.

Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch taliadau:

  • os byddwch chi'n mynd i'r ysbyty (neu'n gadael yr ysbyty) neu i gartref gofal a noddir gan yr awdurdod iechyd
  • yn mynd i fyw dramor neu i ymweld

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych fwy o gwestiynau am y Pensiwn i rai Dros 80, ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 606 0265, neu'r linell Gymraeg ar 0845 606 0275. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00 am ac 8.00 pm

Allweddumynediad llywodraeth y DU