Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn mae'n bosib bod gennych hawl i Gredyd Pensiwn - arian ychwanegol bob wythnos. Mae dwy ran i'r pensiwn - yr elfen 'Credyd Gwarant' a'r elfen 'Credyd Cynilion' (a all fod ar gael pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed).
Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, a chithau'n byw yng ngwledydd Prydain, fe allai fod gennych hawl i'r elfen 'Credyd Gwarant' (sy'n gwarantu lleiafswm incwm i chi os ydych chi ar incwm isel) os yw un o'r rheolau canlynol yn berthnasol i chi:
Yr ydym yn defnyddio ‘partner’ i gyfeirio at eich gŵr, gwraig neu bartner sifil, neu’r person yr ydych yn byw gyda fel pe bai yn ŵr, gwraig neu bartner sifil.
Ond os oes gennych gyfrifoldebau gofalu, eich bod yn ddifrifol anabl neu fod gennych gostau eraill sy'n ymwneud â'ch cartref, fe allech gael mwy o Gredyd Pensiwn.
Os ydych chi neu’ch partner yn 65 oed neu'n hŷn, fe allech fod yn gymwys i gael yr elfen 'Credyd Cynilion' os yw un o'r pethau canlynol yn berthnasol i chi:
I gael cyngor cyffredinol, gallwch ffonio'r llinell gymorth Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234 neu ffôn testun 0800 169 0133, ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Dyma'r incwm sy'n cyfri:
Dyma'r incwm sy'n cael ei anwybyddu:
I gael rhestri llawn, gallwch ffonio'r llinell gymorth Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234 neu ffôn testun 0800 169 0133.
Yn 60 oed neu’n hŷn – yr elfen Credyd Gwarant
Os ydych chi'n sengl, fe gewch y gwahaniaeth rhwng £124.05 a chyfanswm eich incwm wythnosol os yw'n llai na hyn.
Os ydych chi'n byw gyda phartner, fe gewch y gwahaniaeth rhwng £189.35 a chyfanswm eich incwm wythnosol chi'ch dau os yw'n llai na hyn.
Ond os oes gennych gyfrifoldebau gofalu, eich bod yn ddifrifol anabl neu fod gennych gostau eraill penodol sy'n ymwneud â'ch cartref, fe allech gael mwy o Gredyd Pensiwn.
Yn 65 oed neu'n hŷn - yr elfen Credyd Cynilion
Os ydych chi neu’ch partner yn 65 oed neu'n hŷn, mae'n bosib bod gennych hawl i gael credyd gwarant, credyd cynilion neu'r ddau.
Swm mwyaf y credyd cynilion yw:
I weld faint o Gredyd Pensiwn Gewch chi - defnyddiwch y cyfrifiannell Credyd Pensiwn.
Telir y Pensiwn Credyd yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r arian, anfonir siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Os ydych chi'n cael Credyd Pensiwn, mae'n bosibl eich bod hefyd yn gymwys i gael:
Os ydych chi'n cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor mae'n bosibl y cewch chi lai ohonynt os byddwch chi'n derbyn Credyd Pensiwn. Ond dylech chi ddal i fod ar eich elw'n hawlio Credyd Pensiwn.
Gallwch ffonio'r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 99 1234 neu ffôn testun 0800 169 0133 (llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd ymgynghorydd ar gael i'ch helpu i wneud cais am Gredyd pensiwn a rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf.
Gall y Gwasanaeth Pensiwn eich helpu chi hefyd os byddwch chi'n gwneud cais am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor yr un pryd ag y byddwch chi'n gwneud cais am Gredyd Pensiwn.
Gallwch lwytho ffurflen oddi ar y we, ei hargraffu a'i llenwi ac yna'i phostio am ddim i'ch canolfan bensiynau.
Neu llenwch ffurflen gais ar-lein ac yna'i phostio am ddim i'ch canolfan bensiynau.
Soniwch wrth eich canolfan bensiynau os bydd eich amgylchiadau'n newid, er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y swm iawn yn eich Credyd Pensiwn.
Os gwrthodwyd Credyd Pensiwn i chi neu os ydych chi'n meddwl eich bod wedi derbyn y swm anghywir, gallwch ofyn i'r swyddfa a fu'n delio gyda'ch hawliad ailystyried eu penderfyniad. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Apêl Unedig annibynnol.
Mae mwy o wybodaeth am y broses apelio yn llyfryn yr Adran Gwaith a Phensiynau 'Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir'.