Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Pan fyddwch yn meddwl faint o arian y bydd ei angen arnoch ar ôl ymddeol, mae'n bwysig ystyried Pensiwn y Wladwriaeth (yn ogystal â phensiynau cwmni neu bensiynau personol a chynilion eraill). Bydd rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi gwybodaeth i chi er mwyn eich helpu i gael trefn ar eich materion ariannol a phenderfynu a fydd angen i chi gynilo mwy.

Beth fydd rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth yn ei ddweud wrthych

Mae rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn cynnwys:

  • Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth (a elwir hefyd yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth ac a elwid yn flaenorol yn Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS))

Rhoddir y wybodaeth ganlynol i chi:

  • nifer y blynyddoedd cymwys sydd gennych ar hyn o bryd (nifer y blynyddoedd yr ydych wedi gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) neu wedi'ch credydu gyda chyfraniadau YG)
  • amcangyfrif o werth presennol y Pensiwn a gewch gan y Wladwriaeth
  • rhagolwg o faint o Bensiwn y gallech chi ei gael gan y Wladwriaeth wedi i chi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, ar sail y wybodaeth gyfredol sydd ganddynt amdanoch a rhagdybiaeth ynghylch y cyfraniadau YG y byddwch yn debygol o'u gwneud neu'r cyfraniadau YG sy'n debygol o gael eu credydu i chi rhwng y dyddiad pan roddir y rhagolwg i chi a'r dyddiad y cyrhaeddwch oed Pensiwn y Wladwriaeth
  • gwybodaeth am sut y gallech wella'r Pensiwn sylfaenol a gewch gan y Wladwriaeth
  • rhagolwg o faint y gallech ei gael trwy ohirio gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth
  • yr effaith ar y Pensiwn ychwanegol a gewch gan y Wladwriaeth os ydych wedi'ch contractio allan, naill ai drwy gynllun pensiwn cwmni (galwedigaethol) neu bensiwn personol
  • syniad o faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael drwy ddefnyddio cyfraniadau YG eich diweddar ŵr/wraig neu bartner sifil, neu gyfraniadau YG eich cyn ŵr/wraig bartner sifil, os gellir defnyddio hyn i roi gwell Pensiwn y Wladwriaeth i chi na’ch cyfraniadau eich hun

Ar hyn o bryd, mae oed Pensiwn y Wladwriaeth yn 65 i ddynion ac yn 60 i ferched a aned cyn 5 Ebrill 1950 neu ar y dyddiad hwnnw. Mae oed Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer menywod yn mynd i godi i 65 rhwng 2010 a 2020. Os ydych chi’n fenyw a aned rhwng 6 Ebrill 1950 a 5 Ebrill 1955 bydd yr oed y byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar eich dyddiad geni. O fis Ebrill 2020 bydd Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yr un fath ag i ddynion. Bydd yn cynyddu i ddynion a merched o 65 oed i 68 oed rhwng 2024 a 2046.

Pwy all gael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth?

Gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth drwy’r post neu dros y ffôn:

  • os ydych yn byw yn y DU ac
  • os ydych fwy na 30 diwrnod i ffwrdd o oed Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein:

  • os ydych yn byw yn y DU ac
  • os ydych yn fwy na phedwar mis i ffwrdd o oed Pensiwn y Wladwriaeth ac
  • os nad ydych wedi cael eich gwneud yn weddw neu os nad ydy eich partner sifil wedi marw

Os ydych o fewn pedwar mis a phedwar diwrnod i oed Pensiwn y Wladwriaeth, dylai eich bod eisoes wedi cael gwahoddiad i hawlio drwy'r post. Os nad ydych, cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn yn syth. Gallwch ffonio'r Gwasanaeth Pensiwn i gael gwybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth ar 0845 60 60 265. Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael hefyd ar 0845 60 60 285. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gwybodaeth y bydd arnoch ei hangen wrth law

Bydd angen gwybodaeth benodol arnoch wrth law pan fyddwch yn cysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol (YG) (a rhif eich partner priod neu bartner sifil os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil)
  • y mathau o gyfraniadau YG yr ydych yn eu talu (mae hyn yn dibynnu, er enghraifft, ar p’un ai cyflogedig ynteu hunangyflogedig ydych chi)
  • manylion unrhyw briodasau, partneriaethau sifil neu ddirymiadau
  • manylion unrhyw gyfnodau yr ydych wedi'u treulio'n gweithio dramor
  • manylion eich cyflog presennol os cewch eich talu gan gyflogwr (yn hytrach na'ch bod yn hunangyflogedig)

Sut mae cael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth

Ar-lein

Gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein yn syth.

Os ydych eisoes wedi cofrestru gydag un arall o wasanaeth ar-lein y llywodraeth ar gyfer unigolion gallwch ddefnyddio'ch Rhif Defnyddiwr a'ch cyfrinair i gofrestru ar gyfer gwasanaeth rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn syth.

Os dyma’r tro cyntaf i chi ddefnyddio gwasanaeth ar-lein y llywodraeth i unigolion, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein, cael 'Rhif Defnyddiwr' ar y sgrin ac wedyn aros i dderbyn 'PIN Cychwyn' (rhif adnabod personol). Caiff hwn ei anfon drwy'r post o fewn saith niwrnod gan Borth y Llywodraeth (y gwasanaeth cofrestru canolog ar gyfer gwasanaethau ar-lein y llywodraeth). Yna, bydd angen i chi roi'r gwasanaeth ar waith o fewn 28 diwrnod. (Caiff eich Rhif Defnyddiwr ei anfon drwy'r post ar wahân.)

Pam mae angen i chi aros am PIN Cychwyn?

Nod y PIN Cychwyn yw eich amddiffyn drwy sicrhau diogelwch llwyr gyda gwasanaethau ar-lein y llywodraeth. Oherwydd bod y PIN yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad cartref (a fydd ar ffeil yn barod) gall y llywodraeth sicrhau mai dim ond chi fydd yn galluogi'r cyfrif.

I gofrestru ar gyfer gwasanaeth rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, dilynwch un o'r dolenni isod.

(Dim ond unwaith y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein y llywodraeth – gallwch wedyn ddefnyddio'ch Rhif Defnyddiwr i gofrestru ar gyfer faint bynnag o wasanaethau ar-lein i unigolion ag y mynnwch).

Dros y ffôn

Gallwch ofyn am ragolwg drwy ffonio tîm Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth. Byddant yn llenwi'r ffurflen ar eich rhan ac yn anfon rhagolwg atoch yn y post mewn oddeutu 15 diwrnod gwaith.

Gallwch ffonio Tîm Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar 0845 3000 168 (ffôn testun 0845 3000 169). Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Ffurflen gais

Os yw'n well gennych, gallwch lenwi a dychwelyd ffurflen gais (BR19). Mae dwy ffordd o wneud hyn:

  • llwytho ffurflen gais oddi ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn, ei hargraffu, ei llenwi a'i dychwelyd yn y post
  • llwytho ffurflen gais a'i llenwi ar eich cyfrifiadur, ei hargraffu a'i dychwelyd yn y post

Gall gymryd oddeutu 15 diwrnod gwaith i baratoi eich rhagolwg o'r adeg pan dderbynnir eich cais.

Deall eich rhagolwg

Bydd taflen a fydd yn eich helpu i ddeall eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei hanfon gyda'ch rhagolwg. Mae hefyd ar gael ar-lein ar wefan Y Gwasanaeth Pensiwn.

Sut i ychwanegu at eich Pensiwn gan y Wladwriaeth

Ar ôl cael eich rhagolwg, os byddwch am ychwanegu at y Pensiwn a gewch gan y Wladwriaeth, efallai y gallwch wneud Cyfraniadau YG gwirfoddol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os nad ydych wedi talu cyfraniadau yn ystod rhai blynyddoedd, er enghraifft, oherwydd nad oeddech yn gweithio, neu os oeddech dramor. Bydd y manylion yn cael eu cynnwys yn eich rhagolwg os yw hyn yn berthnasol i chi.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU