Gall pensiynau personol fod yn addas os ydych yn gweithio a heb fod yn rhan o gynllun pensiwn cwmni neu fel ychwanegiad i bensiwn cwmni, yn hunangyflogedig, neu os nad ydych yn gweithio ond yn gallu fforddio rhoi arian o'r neilltu ar gyfer eich ymddeoliad.
Gyda phensiwn personol, rydych yn talu swm rheolaidd, fel arfer bob mis, neu daliad unswm i ddarparwr y pensiwn a fydd yn ei fuddsoddi ar eich rhan. Mae'r gronfa'n cael ei rhedeg fel arfer gan sefydliadau ariannol megis cymdeithasau adeiladu, banciau, cwmnïau yswiriant ac ymddiriedolaethau buddsoddi.
Bydd gwerth terfynol eich cronfa bensiwn yn dibynnu ar faint yr ydych wedi'i gyfrannu a pha mor dda y mae buddsoddiadau'r gronfa wedi perfformio. Mae'r cyrff sy'n rhedeg y pensiynau hyn yn codi tâl arnoch am sefydlu a chynnal eich pensiwn. Tynnir y taliadau fel arfer o'ch cronfa.
Gallwch gynilo faint a fynnoch mewn unrhyw nifer ac unrhyw fath o bensiynau. Hyd at 75 oed, cewch ostyngiad treth ar gyfraniadau o hyd at 100 y cant o'ch enillion bob blwyddyn, yn amodol ar 'lwfans blynyddol' uchaf (£235,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009). Bydd rhaid talu treth ar gynilion sydd dros y lwfans blynyddol.
Pan fyddwch yn ymddeol, cewch gymryd hyd at 25 y cant o werth eich holl gynilion pensiwn o bob ffynhonnell fel taliad unswm di-dreth, hyd at uchafswm o 25 y cant o'r 'lwfans oes'. £1.65 miliwn yw'r lwfans oes ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009, a bydd hyn yn cynyddu'n raddol i £1.8 miliwn erbyn 2010-2011.
Bydd gennych wedyn ddau opsiwn cyffredinol:
Os yw cyfanswm eich cynilion pensiwn yn uwch na'r lwfans oes mae gennych ddau ddewis:
Os oedd cyfanswm eich cynilion pensiwn o bob ffynhonnell yn £16,500 neu lai (un y cant o'r 'lwfans oes') mae’n bosib gallwch gymryd y cyfanswm fel taliad unswm, gyda 25 y cant yn ddi-dreth. Bydd yr uchafswm yn cynyddu'n raddol i £18,000 erbyn blwyddyn dreth 2010-2011.
I gael gwybodaeth am ffyrdd o dynnu'ch pensiwn ewch i wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA).
Bydd eich penderfyniad yn dibynnu ar y canlynol:
Mae faint o Bensiwn gewch chi gan y Wladwriaeth yn dibynnu ar y cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi eu talu, neu yr ydych yn cael eich trin fel petaech wedi'u talu neu yr ydych wedi'ch credydu â hwy yn ystod eich cyfnod gweithio.
Mae faint o Bensiwn ychwanegol gewch chi gan y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich enillion a'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol fel gweithiwr. (Allwch chi ddim cronni hawl i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth pan ydych yn hunangyflogedig.)
Os oes gennych bensiwn cwmni, dylai eich cyflogwr allu dweud wrthych faint y byddwch yn debygol o'i gael.
Gallwch gael pensiwn personol, gan gynnwys pensiwn cyfranddeiliaid, i ychwanegu at bensiwn galwedigaethol. Ond holwch gyntaf a yw eich cyflogwr yn darparu dull mwy cost-effeithiol o ychwanegu at gyfraniadau, trwy 'Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol' (AVCs).
Mae pensiynau personol yn addas ar gyfer:
Fodd bynnag, os ydych chi'n ennill incwm canolig, neu'n meddwl y bydd angen ichi stopio a dechrau taliadau, neu amrywio'r taliadau, efallai yr hoffech ystyried pensiwn cyfranddeiliaid. Math hyblyg o bensiwn personol yw pensiwn cyfranddeiliaid.
Os nad ydych yn sicr a yw pensiwn personol yn iawn i chi, mynnwch gyngor arbenigol gan ymgynghorydd ariannol cyn gwneud penderfyniad. Bydd ymgynghorydd ariannol hefyd yn gallu'ch helpu i benderfynu sut fath o bensiwn personol fydd yn addas i chi
Os ydych yn weithiwr, gallwch ddewis eithrio o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a rhoi'r cyfraniadau Yswiriant Gwladol a fyddai wedi mynd tuag ato mewn pensiwn galwedigaethol neu bersonol (gan gynnwys pensiwn cyfranddeiliaid).