Os ydych chi'n ymddeol dramor, neu'n ystyried gwneud hynny, mae'n bwysig edrych ar yr effaith a gaiff hyn ar eich sefyllfa ariannol cyn i chi fynd. Dylai hyn sicrhau eich bod wedi paratoi'n iawn.
Os byddwch chi'n ymddeol dramor, fe allwch chi barhau i dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth gan y DU. Gallwch hyd yn oed drefnu iddo gael ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc dramor, os oes gennych un.
Ond cofiwch, er mwyn derbyn codiadau ym Mhensiwn y Wladwriaeth, mae'n rhaid ichi fyw yn Ardal Economaidd Ewrop neu yn un o'r gwledydd y mae gan y DU gytundeb nawdd cymdeithasol â hwy sy’n sichrau codiadau Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn treulio chwe mis neu fwy bob blwyddyn yn y DU, bydd gennych hawl i gael eich Pensiwn gan y Wladwriaeth - gyda chodiadau blynyddol - wedi'i dalu'n llawn.
Pan fyddwch yn symud dramor, mae'n syniad da rhoi eich cyfeiriad newydd i'r Gwasanaeth Pensiwn cyn gynted â phosibl.
Os ydych mewn cynllun pensiwn cwmni neu bensiwn personol, ni ddylai symud dramor gael unrhyw effaith:
Ond, mae'n bwysig darllen manylion eich cynllun pensiwn yn ofalus cyn ichi symud. Yn benodol, dylech ganfod:
Mae eich hawl i gael budd-daliadau dramor yn dibynnu ar y wlad rydych chi'n mynd iddi.
Efallai y gallwch barhau i gael budd-dal neu wneud cais am fudd-dal os ydych yn mynd i un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop, neu wlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda'r DU. Mae'n bwysig holi ynghylch y cytundeb nawdd cymdeithasol gyda'r wlad yr ydych yn symud iddi cyn ichi adael.
Mae'n syniad da hefyd holi'r awdurdodau yn y wlad arall a allwch hawlio eu budd-daliadau hwy.
Rhaid ichi ddweud wrth eich swyddfa nawdd cymdeithasol (Canolfan Gwaith neu'r Ganolfan Byd Gwaith) eich bod yn symud dramor. Gallant hwy ddweud wrthych sut y bydd hynny'n effeithio ar eich budd-daliadau.
Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa leol ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith neu yn y llyfr ffôn lleol dan Jobcentre Plus.
Gall y rheolau preswylio fod yn gymhleth. Ond yn gyffredinol, os byddwch yn gadael y wlad, byddwch yn cael eich ystyried yn un o breswylwyr y DU at ddibenion treth os byddwch yn treulio naill ai:
Os byddwch yn derbyn incwm o'r DU, tra'ch bod yn byw dramor - er enghraifft o bensiynau, rhenti, buddsoddiadau - bydd rhaid talu treth arno yn y DU.