Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gweithio'n rhan-amser ar ôl i chi ymddeol

Nid yw cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn golygu bod rhaid i chi roi'r gorau i weithio - boed hwnnw'n waith cyflog neu'n waith gwirfoddol. Cewch ddewis dal i weithio tra'n derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, neu ohirio hawlio'ch Pensiwn a chael mwy yn nes ymlaen. Mae'r llywodraeth hefyd yn cynnig cynlluniau a chymhellion i'ch helpu i ddod o hyd i waith.

Treth ar waith rhan amser ac incwm arall

Mae'r incwm a dderbyniwch o waith rhan amser ar ôl ymddeol yn cyfrif fel 'incwm trethadwy' - ynghyd ag incwm o Bensiwn y Wladwriaeth, pensiynau personol neu bensiynau cwmni (galwedigaethol) ac o rai buddion trethadwy.

Os yw eich incwm cyffredinol yn fwy na'ch lwfansau di-dreth (incwm y gallwch ei ennill heb dalu treth) bydd y gwahaniaeth yn cael ei drethu ar y cyfraddau Treth Incwm arferol. Ond mae eich lwfans personol di-dreth yn fwy hael ar ôl ichi gyrraedd oed ymddeol, sy'n golygu y gallwch ennill mwy cyn gorfod talu treth. Efallai hefyd y byddwch yn gymwys i gael lwfansau eraill a all leihau eich bil treth.

Gweithio a gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Cynigir cymhellion er mwyn ichi gymryd Pensiwn y Wladwriaeth yn hwyrach, yn hytrach na'i gymryd ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ('gohirio' eich hawl). Os ydych yn gohirio eich hawl mae gennych ddau opsiwn posibl:

  • cael mwy o Bensiwn y Wladwriaeth wythnosol am oes yn ddiweddarach
  • cymryd y swm a ohiriwyd gennych fel taliad unswm trethadwy gyda llog ac wedyn cael Pensiwn y Wladwriaeth arferol

Rhaid ichi ohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf bum wythnos i gael pensiwn mwy ac am o leiaf 12 mis olynol i gael y taliad unswm.

Gall gohirio eich hawliad fod yn arbennig o addas os ydych am weithio ar ôl cyrraedd oed ymddeol y Wladwriaeth, gan y byddwch yn llai dibynnol ar Bensiwn y Wladwriaeth. Ond hyd yn oed os nad ydych yn gweithio gallwch barhau i ddewis cael mwy drwy ohirio.

Beth os ydych chi eisoes yn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth?

Os ydych chi eisoes yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ganslo'ch hawliad os cewch y cyfle i wneud rhywfaint o waith a fyddai'n talu digon ar gyfer eich anghenion. Bydd eich pensiwn yn cael ei stopio tan ichi ddewis ei hawlio eto. Wedyn, yn dibynnu ar hyd eich cyfnod heb hawlio, gallwch gymryd naill ai taliad unswm neu fwy o bensiwn. Ond cofiwch mai dim ond unwaith y gallwch ganslo - pan fydd eich pensiwn yn ailddechrau, allwch chi ddim canslo eto.

Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar ôl ymddeol

Mae gennych hawl o hyd i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (ICC) (£5.52 o 1 Hydref 2007) am unrhyw waith yr ydych yn ei wneud ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. I gael cyngor, ffoniwch y llinell gymorth ICC ar 0845 600 0678. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Effaith gwaith gyda thâl ar eich budd-daliadau cyfredol

Cofiwch y gall unrhyw arian y byddwch yn ei ennill ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth effeithio ar fudd-daliadau ar sail incwm megis Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor.

Gall staff eich Canolfan Bensiynau leol ddweud wrthych sut y bydd incwm o waith cyflog yn effeithio ar eich Credyd Pensiwn a budd-daliadau eraill. Gallant hefyd eich cynghori am sut y gallai gohirio derbyn Pensiwn y Wladwriaeth effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau.

Os ydych yn chwilio am waith drwy eich Canolfan Gwaith leol neu swyddfa leol eich Canolfan Byd Gwaith, dylai'r staff yno allu dweud wrthych sut y gall incwm ychwanegol o weithio effeithio ar eich budd-daliadau.

Cynlluniau i'ch helpu chi ddod o hyd i waith ar ôl ymddeol

Os ydych am ddod o hyd i waith, mae gan y llywodraeth nifer o wasanaethau a all helpu.

Y Fargen Newydd i rai dros 50

Gall y cynllun hwn helpu os ydych yn 50 oed a mwy ac wedi cael anhawster dod o hyd i waith, neu waith sy'n talu cyflog teilwng. Mae'r cynllun yn darparu cynghorydd personol a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i waith.

Y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Anabl

Os ydych yn derbyn budd-daliadau iechyd neu anabledd, gall y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Anabl eich helpu. Bydd 'brocer swyddi' yn eich helpu i ddod o hyd i waith addas.

Dod o hyd i waith fel gwirfoddolwr

Gall gweithio fel gwirfoddolwr roi boddhad mawr ichi ar ôl ymddeol. Hefyd, gall eich helpu i ddysgu sgiliau newydd y gallwch eu defnyddio o bosibl yn ddiweddarach ar gyfer gwaith gyda chyflog.

Os hoffech gael gwybod mwy am wirfoddoli, mae nifer o grwpiau a gwasanaethau a all eich helpu. Mae'r rhain yn delio gyda phopeth o helpu mewn ysgolion i waith amgylcheddol.

Dal ati i weithio - mwy o gymhellion ers 2006

Os gwnaethoch chi gyrraedd oedran dechrau hawlio eich pensiwn cwmni ar ôl 1 Ebrill 2006, ni fydd yn rhaid ichi roi'r gorau i weithio er mwyn hawlio. Mae gennych sawl opsiwn, gan gynnwys cymryd rhywfaint o'r pensiwn yr ydych wedi'i gronni a pharhau i weithio i'r un cyflogwr.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU