Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dewis a defnyddio cynghorydd pensiynau

Os ydych chi'n ystyried cychwyn pensiwn cyfranddeiliaid neu bersonol, gallwch siopa o gwmpas eich hun, ond fe all fod yn syniad da cael cyngor ariannol gan arbenigwr cyn i chi brynu. I gael gwybodaeth am unrhyw bensiwn a gynigir gan eich cyflogwr, rhaid i chi gael sgwrs gyda'ch adran Adnoddau Dynol.

Pwy sy'n gallu cynnig cyngor am bensiynau?

Er mwyn i gwmnïau allu rhoi cyngor i chi am y rhan fwyaf o gynnyrch ariannol megis pensiynau personol, rhaid iddynt gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Golyga hyn eu bod yn gorfod dilyn rheolau a safonau penodol wrth ddelio gyda chi.

Ystyr cyngor ariannol

Pan fyddwch yn cael cyngor ariannol, bydd yr ymgynghorydd ariannol yn edrych ar eich anghenion a'ch amgylchiadau unigol ac yn argymell cynnyrch ariannol a fydd yn eu diwallu.

Dogfennau 'Ffeithiau allweddol' yn disgrifio'r gwasanaeth a chostau

Dan reolau'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, rhaid i ymgynghorwyr ariannol roi dwy ddogfen 'Ffeithiau allweddol' i chi: 'Ynghylch ein gwasanaeth' ac 'Ynghylch cost ein gwasanaeth'. Mae'r rhain yn esbonio:

  • y math o wasanaeth y maent yn ei gynnig (gwybodaeth neu gyngor), cynnyrch o blith pwy y maent yn ei gynnig (y farchnad gyfan, ystod gyfyngedig neu un darparwr yn unig)
  • sut y codir ffi arnoch am y gwasanaeth (ffioedd a/neu gomisiwn)

Dim ond os yw ymgynghorydd ariannol yn argymell cynnyrch o'r farchnad gyfan y gall ddweud ei fod yn cynnig cyngor annibynnol a chynnig yr opsiwn i chi dalu ffi yn hytrach na chomisiwn.

Dogfen 'nodweddion allweddol' yn disgrifio'r pensiwn

Cyn i chi brynu, rhaid i'r ymgynghorydd ariannol roi 'dogfen nodweddion allweddol' i chi hefyd sy'n esbonio manylion pwysig, megis:

  • amcanion a buddion y cynnyrch
  • lefel y risg
  • eglurhad yn dangos sut y gallai'r pensiwn weithio i chi
  • y comisiwn a'r taliadau y bydd rhaid i chi eu talu i ddarparwr y cynnyrch er mwyn iddo reoli'r cynnyrch ar eich rhan

Cyngor sylfaenol am gynnyrch cyfranddeiliaid

Awdurdodir rhai ymgynghorwyr i gynnig 'cyngor sylfaenol' am gynnyrch cyfranddeiliaid, gan gynnwys pensiynau cyfranddeiliaid. Mae pensiynau cyfranddeiliaid yn cyrraedd safonau'r llywodraeth mewn meysydd megis cost isel a hyblygrwydd.

Mae cyngor sylfaenol yn fath symlach, cyflymach a rhatach o gyngor ariannol ar gyfer cynnyrch cyfranddeiliaid yn unig. Bydd yr ymgynghorydd yn gofyn i chi am eich incwm, eich cynilion ac amgylchiadau eraill gan ddefnyddio sgript, ond ni fydd yn asesu'ch anghenion yn llawn.

Os bydd ymgynghorydd yn cynnig cyngor sylfaenol, gwneir hyn yn glir yn y ddogfen Ffeithiau Allweddol 'Ynghylch ein gwasanaethau'.

Os, unrhyw bryd yn ystod y broses hon, y byddwch chi'n teimlo y byddai cynnyrch y tu allan i'r cylch cyfranddeiliaid yn eich gweddu'n well, yna, dylech geisio cyngor llawn.

Sut i gael gwybod a yw cwmni wedi'i awdurdodi

Os ydych am gael gwybod a yw cwmni yr ydych yn delio ag ef wedi'i awdurdodi, ffoniwch Linell Gymorth yr FSA i ddefnyddwyr ar 0845 606 1234. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8 am a 6 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Dewis a defnyddio ymgynghorydd ariannol

Gallwch ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol mewn sawl ffordd. Gallwch:

  • chwilio ar-lein
  • edrych mewn cyhoeddiadau buddsoddi arbenigol
  • siarad â'ch cyfrifydd neu'ch twrnai
  • edrych yn nhudalennau buddsoddi'r papurau newydd mawr
  • cysylltu â chyrff masnach, megis IFA Promotion neu'r Gymdeithas Cyllid Personol

Prynu heb gael cyngor

Gallwch fuddsoddi mewn pensiwn sy'n seiliedig ar 'wybodaeth yn unig', ar ôl chwilio o gwmpas. Ond mae'n bwysig cofio bod gennych lai o hawliau i ganslo neu i gwyno os prynwch chi gynnyrch buddsoddi heb geisio cyngor ariannol. Darllenwch y manylion yn yrtudalennau cysylltiedig.

Cyngor am bensiynau cwmni

Dylai ymgynghorydd ariannol ofyn a yw eich cyflogwr yn cynnig cynllun pensiwn cwmni cyn awgrymu pensiwn personol. Os bydd eich cwmni'n cynnig cynllun, fel arfer, mae'n syniad da ymuno ag ef, yn enwedig os bydd eich cyflogwr yn cyfrannu tuag ato. I gael gwybod mwy, bydd rhaid i chi siarad â'ch adran Adnoddau Dynol. Darllenwch 'Deall pensiynau cwmni' i gael gwybod rhagor.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU