Mae gwybodaeth am y gwahanol fathau o bensiynau ar gael am ddim gan sawl sefydliad. Mae gan rai ohonynt ymgynghorwyr a fydd yn eich helpu i ddeall opsiynau o ran pensiwn. Er mwyn cael cyngor sy'n benodol ar gyfer eich anghenion chi, dylech ystyried siarad ag ymgynghorydd ariannol awdurdodedig.
Mae gwybodaeth gyffredinol am bensiynau ar gael gan y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau Annibynnol, Gwasanaeth Pensiwn y Llywodraeth a'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) sy'n rheoleiddio'r farchnad gwasanaethau ariannol.
Mae'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau'n darparu gwybodaeth am gynlluniau pensiwn cwmni a phensiynau personol. I gael cyngor di-dâl a chyfrinachol, gallwch ffonio'r llinell gymorth neu ymweld â'r gwefan. Mae'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau'n ddefnyddiol iawn os oes gennych guyn am eich trefniant pensiwn ac angen cymorth i ddelio â hwnnw.
Yr FSA sy'n rheoleiddio gwasanaethau ariannol yn y DU. Mae hefyd yn cynhyrchu gwybodaeth ddi-dâl hawdd ei deall am ystod eang o destunau yn cynnwys pensiynau.
Rhaid i gwmnïau sy'n gwerthu ac yn darparu cyngor am bethau megis pensiynau gael eu hawdurdodi gan yr FSA. Gallwch ganfod a yw cwmni wedi'i awdurdodi drwy ddefnyddio gwasanaeth Gwirio Cwmnïau yr FSA.
Cyhoeddir gwefan y Gwasanaeth Pensiwn gan y Llywodraeth ac mae'n darparu ystod eang o gwybodaeth am bensiynau preifat a phensiwn y wladwriaeth a budd-daliadau eraill efallai byddwch â’r hawl i yn ymddeoliad. Mae'u cyhoeddiadau ar gael hefyd drwy'r wefan ac mae ganddynt linellau cymorth.
Gallwch ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am a 8.00pm ar 0845 60 60 265 (0845 60 60 275 i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru) neu ffôn testun 0845 60 60 285 (0845 60 60 295 am Iaith Gymraeg).
Bydd rhai elusennau hefyd yn darparu cymorth ar gyfer deall pensiynau megis:
Bydd gwybodaeth am eich Pensiwn gan y Wladwriaeth yn dibynnu ar ba mor agos yr ydych at ymddeol:
Gallwch ganfod faint o Bensiwn y Wladwriaeth y mae gennych hawl iddo drwy ofyn am ragolwg pensiwn gan y Gwasanaeth Pensiwn. Gall hefyd eich cynghori ynghylch a oes angen ichi wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) ychwanegol er mwyn ichi fod yn gymwys am y swm llawn.
Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn cwmni neu bersonol, gall gweinyddwyr y cynllun ddarparu'r wybodaeth hon ichi.
Dylai'r Gwasanaeth Pensiwn anfon ffurflen hawlio atoch bedwar mis cyn ichi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Os na fyddwch wedi derbyn y ffurflen, neu os oes gennych gwestiynau yn ei chylch, ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 60 60 265 i gael gwahoddiad. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 8.00 pm.
Bydd gan gynllun pensiwn eich cwmni weinyddwyr neu ymddiriedolwyr sy'n gallu rhoi cyngor penodol ichi am eich cynllun. Gallant hefyd roi rhagolwg ichi o'ch pensiwn, a fydd yn rhoi amcangyfrif ichi o werth eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol. Efallai y gallant roi amcangyfrif ichi o beth fydd eich Pensiwn gan y Wladwriaeth hefyd.
Darperir cynlluniau pensiwn personol, gan gynnwys cynlluniau pensiwn cyfranddeiliaid, gan sefydliadau ariannol megis cwmnïau yswiriant, banciau a chymdeithasau adeiladu. Gallwch ofyn i ddarparwr eich cynllun pensiwn personol am wybodaeth benodol am eich pensiwn. Gallwch hefyd ofyn am ragolwg pensiwn, a fydd yn rhoi amcangyfrif ichi o faint eich cronfa bensiwn pan fyddwch yn ymddeol. Efallai y gallant hefyd rhoi amcangyfrif ichi o beth fydd eich Pensiwn gan y Wladwriaeth.
Os oes gennych broblem gyda'ch pensiwn personol, dylech ei thrafod gyda darparwr eich cynllun pensiwn. Os ydych mewn cynllun pensiwn cwmni, dylech ei thrafod gyda gweinyddwyr y cynllun.
Os na fyddwch yn gallu datrys y broblem, neu os bydd angen rhagor o gyngor arnoch, dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau. Mae eu llinellau cymorth yn cael eu staffio gan weithwyr proffesiynol annibynnol ym maes pensiynau ac mae eu gwasanaeth am ddim.
Gall y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau eich cynghori petaech yn mynd â'ch achos at yr Ombwdsmon Pensiynau sy'n ystyried cwynion ac anghydfodau ynghylch y ffordd y cynhelir cynlluniau pensiwn a gallant ddatrys anghydfodau.
Os ydych wedi colli trywydd hen gynllun pensiwn personol neu gwmni ac yn ansicr o'r manylion, fel arfer gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau helpu i'w olrhain.
Os hoffech i'r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau olrhain pensiwn ichi, gallwch eu ffonio ar 0845 6002 537 (mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener), drwy ffôn testun ar 0845 3000 169; rhif rhyngwladol +44 191 218 2466, neu drwy lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn.
Er mwyn cael cyngor sy'n benodol ar gyfer eich anghenion chi, dylech ystyried siarad ag ymgynghorydd ariannol awdurdodedig. Mae rhai ymgynghorwyr yn codi ffi; mae eraill yn derbyn comisiwn gan ddarparwr y pensiwn.
Sicrhewch fod yr ymgynghorydd wedi'i awdurdodi gan yr FSA. Os byddwch yn cymryd pensiwn heb gael cyngor gan ymgynghorydd awdurdodedig, mae gennych lai o hawliau os canfyddwch fod y pensiwn yn anaddas.