Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Deall pensiynau cwmni

Os yw eich cyflogwr yn cynnig cynllun pensiwn cwmni ('galwedigaethol' mae’n meddwl fod y cwmni fel arfer yn cyfrannu tuag at eich pensiwn. Efallai hefyd y gwneir taliadau i bartner priod, partner sifil neu berson dibynnol pan fyddwch yn marw.

Mathau o bensiynau cwmni

Mae rheolau unigol cynlluniau pensiwn cwmni'n amrywio o gwmni i gwmni. Ond mae'n debyg y bydd eich cynllun yn un o ddau fath cyffredinol - cynllun 'cyflog cysylltiedig’ neu gynllun 'pwrcasu arian'.

Cynllun sy'n gysylltiedig â chyflog

Cynlluniau pensiwn cwmni'n amrywio o gwmni i gwmni. Mae eich cynllun yn un o ddau fath cyffredinol - cynllun 'cyflog cysylltiedig’ neu gynllun 'pwrcasu arian'.

Cynllun pwrcasu arian

Gyda chynllun pwrpasu arian, mae'r swm a gewch yn seiliedig ar faint sydd wedi'i dalu i'r cynllun a pha mor dda y buddsoddwyd eich arian.

Wrth ymddeol, defnyddir eich cronfa i ddarparu pensiwn ichi, fel arfer drwy brynu blwydd-dal (incwm rheolaidd am oes). Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar amrywiol bethau megis eich oed, rhyw ac iechyd, a chyda rhai mathau o gynllun, eich statws priodasol neu bartneriaeth sifil.

Cyfrannu at bensiwn cwmni

Gyda chynlluniau pensiwn cwmni mae gofyn ichi fel arfer wneud cyfraniadau rheolaidd sy'n seiliedig ar ganran o'ch cyflog. Gallwch ychwanegu efallai at eich buddion hefyd drwy wneud cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (AVCs).

Rydych yn cael 'gostyngiad treth' ar yr arian yr ydych yn ei dalu i'ch pensiwn - sy'n golygu eich bod yn talu llai o dreth. Y rheswm dros hyn yw bod eich cyflogwr yn tynnu'r cyfraniadau pensiwn o'ch cyflog cyn didynnu treth (ond nid cyfraniadau Yswiriant Gwladol).

Os gwnaethoch chi ymuno â chynllun pensiwn eich cwmni yn ystod neu ar ôl 1989, roedd cyfyngiad ar faint y gallech ei roi yng nghynllun pensiwn eich cwmni.

Fodd bynnag, oherwydd y rheolau pensiwn ers Ebrill 2006 ymlaen, byddwch yn gallu cynilo faint a fynnoch mewn unrhyw nifer a mathau o bensiynau (ni waeth beth yw eich oed) - a chael gostyngiad treth ar gyfraniadau o hyd at 100 y cant o'ch enillion (cyflog ac incwm arall) bob blwyddyn, yn amodol ar 'lwfans blynyddol' uchaf. (Bydd rhaid talu treth ar gynilion dros y lwfans blynyddol a lwfans oes ar wahân.). Bydd y lwfansau hyn yn gyfyngedig os ydych yn mynd yn ddi-waith ac am barhau i dalu mewn i’ch cynllun pensiwn.

Hawlio'ch pensiwn

Bydd pryd y gallwch gymryd eich pensiwn cwmni yn cael ei nodi yn rheolau'r cynllun. Gall gweinyddwr eich cynllun pensiwn roi'r wybodaeth hon i chi.

Cael rhagolwg o'ch pensiwn

Gall gweinyddwr eich cynllun pensiwn roi amcangyfrif ichi o faint y byddwch yn ei gael wrth ymddeol. Gallwch hefyd gael amcan o'r buddion a gaiff pobl fydd yn eich goroesi a all fod yn daladwy a faint a gewch os byddwch yn gorfod ymddeol yn gynnar oherwydd afiechyd.

Tan fis Ebrill 2006, ni allech dynnu eich pensiwn o gynllun cwmni a dal i weithio i'r un cyflogwr. Ers Ebrill 2006 ymlaen, byddwch yn gallu gwneud hyn os yw'r cynllun yn gadael ichi wneud hynny.

Beth os byddwch chi'n gadael eich cwmni?

Er na allwch dalu i gynllun cwmni ar ôl ichi stopio gweithio i'r cyflogwr sy'n gyfrifol am y cynllun, byddwch yn dal yn aelod (sef aelod gohiriedig) o'r cynllun.

Os yw'n gynllun sy'n gysylltiedig â chyflog, bydd eich buddion yn cael eu hailbrisio'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn cadw i fyny â chwyddiant. Os yw'n gynllun pwrcasu arian, bydd eich cronfa'n dal i gael ei buddsoddi a byddwch yn parhau i dderbyn datganiadau blynyddol a rhagolygon o sut mae'n perfformio.

Mae'n bwysig felly dweud wrth weinyddwr eich cynllun pensiwn os byddwch yn newid cyfeiriad.


Fel aelod gohiriedig, efallai na fydd gennych hawl i rai o fuddion y cynllun. Er enghraifft, efallai mai dim ond i aelodau sy'n dal i weithio i'r cwmni y mae buddion 'marwolaeth yr aelod mewn gwaith' yn berthnasol.

Mae’n bosibl trosglwyddo'ch cronfa o gynllun cwmni i gynllun pensiwn personol neu gynllun cwmni gwahanol (os ydych wedi newid cyflogwr), ond efallai y bydd yn rhaid ichi dalu rhai costau gweinyddu.

Ond nid yw gwneud hyn bob amser er lles gorau person gan fod manteision i fod yn aelod gohiriedig. Felly, mae'n werth cael cyngor annibynnol cyn gwneud penderfyniad. Gallech hefyd gysylltu â'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau sy'n cynnig cyngor am ddim am bensiynau.

Os ydych yn poeni am ddyfodol eich pensiwn cwmni

Os ydych yn poeni am ddyfodol eich pensiwn cwmni mae'n syniad da yn y lle cyntaf i siarad â gweinyddwr eich cynllun pensiwn am eich opsiynau. Mae cyngor ar gael am ddim gan y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau hefyd.

Os ydych yn poeni am y ffordd y mae'ch cynllun yn cael ei redeg

Gallwch gael cyngor gan y Rheolydd Pensiynau sy'n rheoleiddio'r ffordd y mae cwmnïau'n rhedeg eu cynlluniau pensiwn, mae'n gallu ymchwilio i broblemau a gorfodi cwmnïau i weithredu.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU