Mae gan eich cynllun pensiwn cwmni ('galwedigaethol') reolau ynghylch pryd y gallwch ymddeol a chael eich pensiwn. Mae'n syniad da holi gweinyddwr eich cynllun pensiwn ynghylch yr opsiynau sydd ar gael ichi. Fodd bynnag, mae rhai elfennau sy'n gyffredin i bob cynllun cwmni.
Eich cwmni sy'n penderfynu ar reolau cynllun eich cwmni, ond mae'n debyg y bydd yn un o ddau fath:
Mae'r pensiwn a gewch yn seiliedig ar eich cyflog a nifer y blynyddoedd yr ydych wedi bod yn y cynllun.
Mae'r pensiwn a gewch gyda chynllun pwrcasu arian yn seiliedig ar faint yr ydych chi a'ch cyflogwr wedi'i gyfrannu a'r llog, neu'r twf, sydd wedi'i ennill. Wrth ymddeol, defnyddir eich cronfa i ddarparu pensiwn ichi, yn aml drwy brynu blwydd-dal (incwm rheolaidd am oes). Cyfrifir faint y bydd eich cronfa'n ei ddarparu drwy ddefnyddio 'cyfradd blwydd-dal' sy'n dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys eich oed a'ch rhyw, a'r cyfraddau llog ar y pryd.
Gallwch ofyn i weinyddwr eich pensiwn am reolau eich cynllun arbennig chi. Er enghraifft, gyda rhai cynlluniau chewch chi ddim cymryd eich buddion tan eich bod yn 65 oed, ond gydag eraill gallwch eu cymryd yn gynt.
Efallai y cewch ddewis cymryd rhan o'ch pensiwn fel taliad unswm di-dreth a derbyn incwm misol llai.
Gallwch ofyn i weinyddwr eich pensiwn am ragolwg o faint y bydd eich pensiwn yn ei dalu pan fyddwch yn ymddeol, neu os yw afiechyd yn eich gorfodi i roi'r gorau i weithio'n gynnar. Gallwch ofyn hefyd pa fuddion y bydd eich dibynyddion yn eu derbyn os byddwch yn marw o'u blaenau.
Pan fyddwch yn ymddeol, gallwch ddewis cymryd rhan o'ch pensiwn fel taliad unswm di-dreth a defnyddio'r gweddill i brynu blwydd-dal (incwm rheolaidd am oes).
Mae sawl math ar y farchnad, ac felly mae'n bwysig cofio unwaith y byddwch wedi prynu un, na fyddwch, yn fwy na thebyg, yn gallu ei newid yn ddiweddarach.
Efallai na fydd yn rhaid ichi brynu blwydd-dal gan y gweinyddwr pensiwn a awgrymir gan gynllun eich cwmni, ond efallai y bydd yn rhaid talu am drosglwyddo'ch cronfeydd, ac felly mae'n syniad da ystyried yr holl opsiynau a chael cyngor proffesiynol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
Os nad ydych eisiau prynu blwydd-dal yn syth, efallai y gallwch ddewis opsiwn 'tynnu incwm' (income withdrawal). Ond, ychydig iawn o gynlluniau galwedigaethol sy'n cynnig hwn fel dewis.
Gall gweinyddwr eich cynllun ddweud wrthych os yw hyn yn bosibl.
Mae'n gadael ichi dynnu incwm o'ch cronfa bensiwn sy'n dal i gael ei buddsoddi yn y cynllun hyd nes y byddwch yn prynu blwydd-dal. Ond, yn wahanol i flwydd-dal, adolygir y swm yr ydych yn ei dderbyn bob 3 blynedd ac fe'i pennir gan reolau Cyllid a Thollau EM a'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Os yw tynnu incwm yn opsiwn sy'n cael ei gynnig gan eich cynllun, gall eich gweinyddwr ddweud wrthych faint o incwm a gewch dan y trefniant hwn
Os nad yw eich cynllun galwedigaethol yn cynnig yr opsiwn tynnu incwm, efallai yr hoffech ystyried trosglwyddo'ch buddion i gynllun pensiwn personol sy'n ei gynnig. Ond yn ddelfrydol, dylech gael cyngor annibynnol cyn gwneud penderfyniad.
Hyd nes Ebrill 2006 gallwch onddefnyddio'r opsiwn tynnu incwm dim ond nes ichi gyrraedd 75 oed, a'r adeg hynny rhaid i chi ddefnyddio'r gronfa sy'n weddill i brynu blwydd-dal. O fis Ebrill 2006, mae'r llywodraeth yn cyflwyno Pensiynau wedi'u Sicrhau mewn Ffordd Arall (Alternatively Secured Pensions - ASPs) a fydd yn gadael i bobl ohirio cymryd blwydd-dal ar ôl 75. Bydd yr ASPs yn debyg i'r opsiwn tynnu incwm, ond gyda therfynau gwahanol i'r symiau.
Ers Ebrill 2006, efallai na fydd yn rhaid ichi adael eich swydd i gael eich pensiwn.
Yn hytrach, yn dibynnu ar reolau'ch cynllun, efallai y gallwch ddewis tynnu rhywfaint neu'r cyfan o'ch pensiwn a chithau'n dal i weithio'n llawn amser neu'n rhan amser i'r un cyflogwr.
Mae'n syniad da cael cyngor am eich pensiwn cwmni cyn gwneud unrhyw benderfyniadau - mae nifer o lefydd yn cynnig cyngor a gwybodaeth.
Dylai cynllun pensiwn eich cwmni fod â gweinyddwr sy'n gallu rhoi cyngor penodol ichi am eich cynllun.
Am wybodaeth gyffredinol am bensiynau cwmni, gallwch gysylltu â'r gwasanaeth uchod.
Os ydych yn poeni ynghylch y ffordd mae cynllun pensiwn eich cwmni'n cael ei reoli, gallwch gysylltu â'r Rheolydd Pensiynau (yr Awdurdod Rheoleiddio Pensiynau Galwedigaethol yn flaenorol).
Gallech hefyd siarad ag Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol am gynllun pensiwn eich cwmni, yn arbennig os ydych yn ystyried trosglwyddo'ch cronfa i bensiwn personol.
Nid yw cael cyngor ariannol yn golygu o anghenraid y bydd yn rhaid talu ffi, ond mae'n werth holi ymlaen llaw.