Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rheolau pensiwn o fis Ebrill 2006

Ers Ebrill 2006 ymlaen, bydd rheolau symlach yn berthnasol i gynlluniau personol a chynlluniau cwmni (galwedigaethol). Mae'r rheolau newydd yn golygu y gall y rhan fwyaf o bobl dalu mwy i'w cynlluniau pensiwn - ac ar delerau mwy hyblyg.

Cynilo mwy yn eich pensiwn

Gallwch nawr cynilo gymaint ag y dymunwch mewn unrhyw gynllun pensiwn. Hefyd, mae'r rheolau ar gyfer hawlio gostyngiad treth ar eich cyfraniadau pensiwn hefyd yn fwy hyblyg, er y bydd yn rhaid talu treth os ewch y tu hwnt i rai lwfansau penodol newydd.

Y terfynau ar gyfraniadau pensiwn a ddiddymir

  • Gallwch nawr dalu gymaint ag y dymunwch i unrhyw nifer o gynlluniau pensiwn (personol a/neu gwmni) bob blwyddyn, ac nid oes terfyn uchaf ar gyfanswm y cynilion y gallwch eu cronni mewn pensiwn.
  • Gostyngiad treth ar gyfraniadau pensiwn

Gostyngiad treth ar gyfraniadau pensiwn o Ebrill 2006

  • bob blwyddyn, byddwch yn derbyn gostyngiad treth ar eich cyfraniadau pensiwn hyd at 100 y cant o'ch enillion (cyflog ac incwm arall a enillir) yn rhwym wrth 'lwfans blynyddol' ac uwchben y swm hwn bydd treth yn cael ei chodi (mwy am hyn isod)
  • os nad oes gennych enillion neu nemor ddim enillion a chithau mewn cynllun 'gostyngiad yn y ffynhonnell', byddwch yn dal i gael gostyngiad treth; am bob £80 y byddwch yn ei gyfrannu mewn blwyddyn dreth, bydd y llywodraeth yn cyfrannu £20 arall hyd nes y bydd cyfanswm gwerth y cyfraniadau yn cyrraedd £3,600 am y flwyddyn

Lwfans blynyddol a threthu cyfraniadau sy'n uwch na'r lwfans hwn

  • Bydd cynilion pensiwn blynyddol a fydd yn uwch na 'lwfans blynyddol' newydd - yn cael eu trethu ar 40 y cant pa un a ydynt wedi'u gwneud gennych chi a/neu eich cyflogwr
  • y lwfans blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill 2006 fydd £215,000 a bydd yn codi bob blwyddyn hyd nes y bydd yn cyrraedd £255,000 yn 2010; wedi hynny bydd y swm yn cael ei adolygu bob pum mlynedd
  • os ewch y tu hwnt i'r lwfans blynyddol, bydd angen ichi ddatgan y cynilion pensiwn ychwanegol a thalu'r tâl lwfans blynyddol drwy Hunanasesiad
  • ni fydd y tâl lwfans blynyddol yn berthnasol yn y flwyddyn y byddwch yn cymryd eich holl fuddion

'Lwfans oes' a thalu treth ar unrhyw symiau sy'n uwch na'r lwfans hwn

 Bydd gennych 'lwfans oes' a bydd cyfanswm gwerth y buddion a gronnwyd yn eich cronfa/cronfeydd pensiwn gennych chi a/neu eich cyflogwr (gan gynnwys twf buddsoddiadau) yn cael ei brofi ar sail y lwfans hwn

  • os bydd gwerth unrhyw gynilion pensiwn yn fwy na'r lwfans oes, bydd rhaid talu 'tâl lwfans oes' arnynt; bydd hwn yn cael ei godi ar ben y Dreth Incwm arferol sy'n ddyledus ar daliadau'r pensiwn
  • y lwfans oes ar gyfer y flwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill 2006 fydd £1.5m a bydd yn codi bob blwyddyn hyd nes y bydd yn cyrraedd £1.8m yn 2010; wedi hynny bydd yn cael ei adolygu bob pum mlynedd
  • os byddwch yn cymryd buddion uwchlaw eich lwfans oes fel pensiwn, bydd y tâl lwfans oes ar y swm dros ben yn 25 y cant
  • os byddwch yn cymryd buddion uwchlaw eich lwfans oes fel taliad unswm, bydd y tâl lwfans oes ar y swm dros ben yn 55 y cant
  • bydd y 'prawf' lwfans oes yn digwydd pan fyddwch yn dechrau derbyn eich buddion neu pan fyddwch yn cyrraedd 75 (yn yr achos hwn, byddai treth yn daladwy fel petaech yn derbyn incwm o'ch pensiwn); chewch chi ddim tynnu taliad unswm unwaith y cyrhaeddwch chi 75 oed)

Os bydd eich pensiwn yn agos at, neu yn fwy na ffigur y lwfans oes cychwynnol, mae'n bwysig cael cyngor arbenigol ynghylch sut y gallech ddiogelu eich pensiwn rhag y tâl lwfans oes. Mae'n bosib cael gwarchodaeth hyd at 5 Ebrill 2009. Gallwch hefyd gael cyngor cyffredinol gan y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau ar 0845 601 2923 (ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu holwch gynghorydd pensiynau.

Buddsoddiadau mwy hyblyg mewn cynllun pensiwn

Erbyn Ebrill 2006, gall cynlluniau pensiwn penodol ddarparu dewis ehangach o fuddsoddiadau, yn amodol ar rai amodau. Holwch ymgynghorydd pensiynau i gael gwybod mwy.

Mwy o ddewisiadau o ran sut a phryd y gallwch gymryd eich pensiwn

Mae mwy o ddewis nawr am sut a phryd y cewch gymryd eich buddion - fel y'u disgrifir isod. Ond cofiwch fod yn rhaid i gynlluniau pensiwn gydymffurfio â rheolau cynlluniau unigol ac felly bydd angen ichi holi gweinyddwr eich pensiwn i weld beth a ganiateir gan eich cynllun penodol chi.

Mwy o ffyrdd o gymryd incwm o'ch pensiwn

Mae yna nawr bedwar dewis:

  • cymryd pensiwn cynllun - pensiwn wedi'i sicrhau am oes a delir o asedau'r cynllun
  • prynu blwydd-dal (buddsoddiad sy'n darparu incwm rheolaidd ichi am oes)
  • tynnu incwm yn uniongyrchol o'ch cronfa bensiwn, fel 'pensiwn heb ei sicrhau ' cyn 75 oed
  • tynnu incwm yn uniongyrchol o'ch cronfa bensiwn, fel 'pensiwn wedi'i sicrhau mewn ffordd arall' (alternatively secured pension - ASP) o 75 oed ymlaen

Taliad unswm di-dreth mwy hael

Mae pob math o gynllun pensiwn nawr yn gallu talu taliad unswm di-dreth o hyd at 25 y cant o werth eich buddion cyhyd â fod darpariaeth yn rheolau’r cynllun - hyd at uchafswm cyffredinol o 25 y cant o'r Lwfans Oes. Ni fydd taliadau unswm di-dreth ar gael unwaith y byddwch wedi cyrraedd 75 oed.

I gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd o dynnu'ch pensiwn o fis Ebrill 2006 ewch i wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA).

Gweithio a chael arian o'ch pensiwn cwmni

Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn cwmni, ni fydd yn rhaid ichi bellach adael eich swydd i dderbyn pensiwn.

Mae'n bosib nawr y byddwch yn gallu dewis derbyn y cyfan neu ran o'ch pensiwn a chithau'n dal i weithio'n llawn amser neu'n rhan amser i'r un cyflogwr, yn dibynnu ar reolau'ch cynllun pensiwn chi.

Newidiadau i oedrannau pensiwn

Erbyn Ebrill 2010, bydd yr isafswm oed ar gyfer cymryd eich pensiwn cwmni neu bensiwn personol wedi codi o 50 i 55.

Fodd bynnag, dan rai amgylchiadau, efallai y cewch eich pensiwn cyn ichi gyrraedd 55, er enghraifft os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd afiechyd. Bydd gweinyddwr eich pensiwn yn gallu dweud wrthych beth a ganiateir gan eich cynllun.

Rhwng 2010 a 2020, bydd yr oed ar gyfer derbyn Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer merched yn codi'n raddol o 60 i 65.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU