Mae'r llywodraeth yn eich annog i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad drwy roi gostyngiad treth i chi ar gyfraniadau pensiwn. Mae gostyngiad treth yn lleihau eich bil treth neu'n cynyddu eich cronfa bensiwn.
Mae'r ffordd yr ydych yn cael gostyngiad treth ar gyfraniadau pensiwn yn dibynnu p’un ai i gynllun pensiwn cwmni, cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus neu gynllun pensiwn personol yr ydych yn talu.
Fel arfer bydd eich cyflogwr yn tynnu'r cyfraniadau pensiwn o'ch cyflog cyn didynnu treth (ond nid cyfraniadau Yswiriant Gwladol). Dim ond ar yr hyn sydd ar ôl y byddwch chi'n talu treth. Felly p'un ai a ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol neu'r gyfradd uwch fe gewch y gostyngiad llawn yn syth.
Fodd bynnag, mae rhai cyflogwyr yn defnyddio'r un ffordd o dalu cyfraniadau pensiwn ag y mae'r rhai sy'n talu i gynlluniau pensiwn personol yn ei defnyddio - darllenwch ragor yn yr adran ar 'Bensiynau personol'.
Os ydych chi'n feddyg teulu neu'n ddeintydd a'ch bod yn cyfrannu at gynllun gwasanaeth cyhoeddus, cewch eich trethu fel pe baech yn hunangyflogedig ar gyfer rhan o'ch enillion, felly dylech hawlio gostyngiad treth drwy'ch ffurflen dreth Hunanasesu.
Byddwch yn talu Treth Incwm ar eich enillion cyn unrhyw gyfraniad pensiwn, ond bydd y talwr pensiwn yn hawlio treth yn ôl gan y llywodraeth ar y gyfradd sylfaenol o 20 y cant. Yn ymarferol, golyga hyn eich bod yn cael £100 yn eich cronfa bensiwn am bob £80 y byddwch yn ei dalu i mewn i'ch pensiwn, . Os ydych chi'n talu treth ar y gyfradd uwch, gallwch hawlio'r gwahaniaeth drwy'ch ffurflen dreth neu drwy wneud cais i Gyllid a Thollau EM dros y ffôn neu mewn llythyr.
Blwydd-daliadau ymddeol
Yn wahanol i ddarparwyr pensiwn personol, nid yw'r rhan fwyaf o ddarparwyr blwydd-daliadau ymddeol - cynlluniau pensiwn personol a sefydlwyd cyn Gorffennaf 1988 - yn cynnig cynllun 'gostyngiad yn y ffynhonnell' lle gallant hawlio treth yn ôl ar y gyfradd sylfaenol. Yn hytrach, bydd angen i chi hawlio'r gostyngiad treth sy'n ddyledus i chi drwy'ch ffurflen dreth, neu os na fyddwch chi'n cwblhau ffurflen dreth, drwy ffonio neu ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM.
Effaith cyfraniadau pensiwn ar lwfansau ar sail oed
Os ydych chi'n derbyn Lwfans Personol ar sail oed neu Lwfans Pâr Priod bydd Cyllid a Thollau EM yn tynnu'r swm yr ydych yn ei gyfrannu, ynghyd â threth ar y gyfradd sylfaenol, o gyfanswm eich incwm, ac yn defnyddio'r ffigur newydd i gyfrifo gwerth eich lwfansau. Efallai y bydd hyn yn effeithio ar y lwfansau gan eu cynyddu, os oedd eich incwm yn uwch na'r 'terfyn incwm' perthnasol.
Mae terfynau ar faint o ostyngiad treth y gallwch ei gael - darllenwch fwy yn yr adran 'Terfynau i’r gostyngiadau treth'.
Os nad ydych chi'n talu treth gallwch ddal i dalu i mewn i gynllun pensiwn personol a manteisio ar y gostyngiad treth ar y gyfradd sylfaenol (20 y cant) ar y £2,880 cyntaf a dalwch mewn blwyddyn. Yn ymarferol, os byddwch chi'n talu £2,880 i mewn, bydd y llywodraeth yn ychwanegu at hynny i'w wneud yn £3,600.
Nid oes gostyngiad treth ar gyfer cyfraniadau sy'n uwch na'r swm hwn.
Gallwch roi arian ym mhensiwn personol rhywun arall – er enghraifft, eich gŵr, eich gwraig, eich partner sifil, eich plant neu eich wyrion. Ychwanegir gostyngiad treth ato yn ôl y gyfradd sylfaenol, ond ni fydd hyn yn effeithio ar eich bil treth chi. Os nad oes ganddynt incwm, gallwch dalu hyd at £2,880 y flwyddyn - sy'n tyfu i £3,600 gyda'r gostyngiad treth.
Os yw rheolau'r cynllun pensiwn yn caniatáu hynny, efallai y gallech roi arian yng nghynllun cwmni rhywun arall hefyd. Chewch chi ddim gostyngiad treth ar eich cyfraniad ond gall y person arall gael gostyngiad un ai drwy eu ffurflen dreth neu drwy wneud cais i Gyllid a Thollau EM dros y ffôn neu drwy lythyr.
Cewch gynilo cymaint ag y dymunwch mewn unrhyw faint ac unrhyw fath o gynlluniau pensiwn cofrestredig a chael gostyngiad treth ar gyfraniadau o hyd at 100 y cant o'ch enillion (eich cyflog ac unrhyw incwm arall yr ydych yn ei ennill) bob blwyddyn, cyn belled â’ch bod yn talu’r cyfraniad cyn eich bod yn 75 oed. Ond bydd 'lwfans blynyddol' ar y swm y byddwch yn ei gynilo bob blwyddyn ar gyfer pensiwn.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2008-09 y lwfans blynyddol yw £235,000. Byddwch yn talu treth ar gyfradd o 40 y cant ar unrhyw gyfraniadau a wnewch sydd dros y lwfans blynyddol.
Nid yw'r gronfa bensiwn yn talu treth ar incwm buddsoddi nac incwm enillion cyfalaf.
Hefyd, pan fydd eich pensiwn yn aeddfedu gallwch gymryd hyd at 25 y cant ohono fel taliad unswm di-dreth, ar yr amod bod rheolau’ch cynllun pensiwn yn caniatáu hynny, eich bod o dan 75 a bod cyfanswm eich cynilion o fewn y 'lwfans oes' ar gyfer y flwyddyn pan fyddwch chi'n cymryd eich budd. Ar gyfer blwyddyn dreth 2008-09 mae hwn yn £1.65 miliwn.
Codir treth ar gyfandaliadau neu incwm a dynnir o enillion os ydynt yn uwch na’r lwfans oes.
Fel arfer, dim ond os ydych yn tynnu'n ôl o gynllun cwmni o fewn dwy flynedd i ddechrau gwneud taliadau y gallwch gael eich cyfraniadau pensiwn wedi'u had-dalu. Efallai y bydd rhai digwyddiadau’n lleihau’r terfyn amser. Tynnir treth ar gyfradd o 20 y cant ar gyfer ad-daliadau hyd at £10,800 ac ar gyfradd o 40 y cant ar unrhyw arian uwchben hyn. Bydd gweinyddwr y cynllun yn tynnu'r dreth cyn gwneud yr ad-daliad.