Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ymddeol yn gynnar - yr effaith ar eich pensiwn

Os byddwch chi'n ymddeol yn gynnar neu'n rhoi'r gorau i'ch gwaith oherwydd i chi golli'ch swydd, oherwydd afiechyd, neu am resymau eraill, mae'n bosib y bydd hynny'n effeithio ar Bensiwn y Wladwriaeth a phensiynau eraill y mae gennych yr hawl iddynt. Mae angen i chi wybod beth yw'r holl ddewisiadau sydd gennych ar gyfer pensiynau er mwyn sicrhau bod gennych ddigon i fyw arno ar ôl ymddeol.

Oed ymddeol a hawlio'ch pensiwn

Pan gyrhaeddwch oed Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ddewis peidio â chymryd y pensiwn yn syth. Ar hyn o bryd yw 65 ar gyfer dynion a 60 ar gyfer merched a anwyd ar neu ar ôl 5 Ebrill 1950; bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn codi o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020. Bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu i ddynion a merched o 65 i 68 oed rhwng 2024 a 2046.

Ar hyn o bryd, y cynharaf y gallwch dderbyn pensiwn cwmni neu bersonol yw 50 – ond mae hyn yn dibynnu ar eich rheolau cynllun pensiwn. O 2010, mae’r oed hwn yn codi i 55.
Os ydych yn dioddef o iechyd gwael ac nad oes disgwyl i chi fyw yn hwy na blwyddyn, gallwch ymddeol ar unrhyw amser a chymryd i fyny at 100 y ganran o’ch cronfa pensiwn fel swm un-taliad am ddim. Er hyn, os ydych yn briod neu bod gennych bartner sifil, bydd rhaid i’r cynllun gadw 50 y ganran o’r gronfa pensiwn i ddarparu ar gyfer pensiwn y goroeswr/wraig.

Effaith ymddeol yn gynnar ar Bensiwn y Wladwriaeth

Os ydych yn ymddeol cyn oed derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, ni fyddwch yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth yn syth ac efallai y byddwch yn derbyn llai pan fyddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth na phetaech wedi parhau i weithio. Y rheswm dros hyn yw eich bod yn cael Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol trwy gronni digon o 'flynyddoedd cymwys'. Blwyddyn gymwys yw blwyddyn dreth lle rydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) neu lle rydych yn cael eich trin fel petaech wedi talu cyfraniadau YG neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG. Os ydych yn ymddeol yn gynnar, ni fydd gennych gymaint o flynyddoedd cymwys.

Cynyddu'ch cyfraniadau YG

Ar hyn o bryd gallwch roi hwb i'ch cofnod Cyfraniadau YG mewn sawl ffordd:

  • os ydych o dan 60, gallwch dalu cyfraniadau YG gwirfoddol
  • os ydych yn ddyn dros 60 efallai fod gennych hawl i gredydau cyfraniadau YG hyd nes ichi gyrraedd 65
  • os byddwch yn gwneud gwaith rhan amser neu waith achlysurol ac yn talu cyfraniadau YG arno, efallai y bydd hwn yn ychwanegu at eich cofnod o gyfraniadau.

Gall eich swyddfa treth leol eich cynghori am gyfraniadau YG.

Cael rhagolwg o'r Pensiwn gewch chi gan y Wladwriaeth

I gael gwybod faint y byddwch yn ei dderbyn os byddwch yn ymddeol yn gynnar, gallwch gael rhagolwg o'r Pensiwn a gewch gan y Wladwriaeth. Gall hyn fod o gymorth i chi benderfynu beth i'w wneud ynghylch eich Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Pryd y gallaf gymryd fy mhensiwn personol neu gwmni?

Bydd angen ichi holi ynghylch eich dewisiadau ar gyfer ymddeol yn gynnar gyda chynllun pensiwn eich cwmni, eich cynllun pensiwn personol neu eich cynllun pensiwn cyfranddeiliaid - mae'r rheolau'n amrywio o ran a allwch chi a phryd y gallwch chi ymddeol.  Er enghraifft, mae nifer o gynlluniau yn galluogi am ymddeoliad cynnar ar sail iechyd gwael neu os nad ydych yn gallu cario ymlaen â’ch swydd oherwydd nam meddyliol neu gorfforol.

Effaith ymddeol yn gynnar ar drefniadau 'pwrcasu arian'

Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn personol, cynllun pensiwn cyfranddeiliaid neu gynllun pwrcasu arian pensiwn galwedigaethol (cwmni), dyma'r prif bwyntiau i'w cofio:

  • byddwch wedi talu i mewn am lai o flynyddoedd, felly bydd eich cronfa bensiwn yn llai
  • bydd angen i'ch cronfa bensiwn ddarparu incwm ichi dros gyfnod hwy, ac felly bydd y pensiwn yr ydych yn ei dderbyn yn llai

Enghraifft

Os dechreuoch dalu i mewn i'ch pensiwn yn 35 oed a chyda disgwyliad oes o 85 yna:

  • os byddwch yn ymddeol yn 55 rhaid i'r gronfa a gronnwyd dros 20 mlynedd bara am 30 mlynedd
  • os byddwch yn ymddeol yn 65 rhaid i'r gronfa a gronnwyd dros 30 mlynedd bara am 20 mlynedd

Fodd bynnag, os ydych yn ymddeol yn gynnar oherwydd afiechyd a'ch salwch yn debygol o gael effaith ar eich disgwyliad oes, mae rhai darparwyr yn fodlon cynyddu'ch pensiwn i roi ystyriaeth i'ch salwch.

Effaith ymddeol yn gynnar ar gynlluniau 'cyflog terfynol'

Gyda'r cynlluniau hyn, mae'r pensiwn a gewch wrth ymddeol wedi'i seilio fel arfer ar ffracsiwn o'ch cyflog wedi'i luosi gan nifer y blynyddoedd yr oeddech yn aelod o'r cynllun. Felly, os ydych yn ystyried ymddeol yn gynnar, byddwch mae'n debyg yn derbyn llai o bensiwn.

Enghraifft os ydych yn ymddeol yn gynnar

Os dechreuoch chi dalu i mewn i'ch pensiwn yn 35, a'r pensiwn yn seiliedig ar 1/80 o'ch cyflog terfynol, yna:

  • byddai ymddeol yn 55 yn rhoi 20/80 o'ch cyflog terfynol
  • byddai ymddeol yn 65 yn rhoi 30/80 o'ch cyflog terfynol

Pwyntiau i'w hystyried am eich pensiwn cwmni

Mae'r rhain yn faterion cymhleth ac efallai y byddai o fudd ichi gael cyngor annibynnol.

  • efallai na fydd cynllun eich cwmni'n gadael ichi ymddeol yn gynnar
  • os byddwch yn ymddeol oherwydd afiechyd efallai bod darpariaethau arbennig yn rheolau'r cynllun sy'n fodd i chwyddo'r pensiwn
  • os yw eich swydd yn cael ei dileu gyda phensiwn, gallech ddewis peidio â'i gymryd a gadael iddo gronni - cymharwch unrhyw drefniant ymddeol yn gynnar arbennig gyda'r posibiliadau eraill
  • os ydych yn gobeithio dod o hyd i waith arall - holwch ynghylch y rheolau ar gyfer trosglwyddo eich hen bensiwn i gynllun pensiwn cyflogwr newydd - cysylltwch â gweinyddwr eich cynllun pensiwn
  • os ydych wedi cael sawl swydd, bydd angen manylion eich holl hawliau pensiwn arnoch

Diffyg yn y pensiwn - yr opsiynau a chael cyngor

Os na fydd eich pensiwn yn ddigon ar eich cyfer ar ôl ymddeol, dyma rai opsiynau i feddwl amdanynt:

  • prynu blynyddoedd ychwanegol mewn cynllun cyflog terfynol (os caniateir hyn)
  • defnyddio Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVCs) neu fuddsoddiadau treth-effeithlon megis Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) i ategu eich pensiwn
  • cynyddu eich cyfraniadau i gynllun personol hyd at y terfynau a ganiateir
  • defnyddio rheolau cario yn ôl a chario ymlaen sy'n eich galluogi i wneud cyfraniadau ychwanegol ar gyfer blynyddoedd yn y gorffennol a'r dyfodol
  • olrhain hawliau pensiwn o swyddi blaenorol

Yn y sefyllfa hon, mae'n bwysig cael cyngor yn gynnar gan gynghorydd ariannol cymeradwy.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU