Wrth nesáu at oed Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch gymryd camau syml i sicrhau eich bod yn cael Pensiwn y Wladwriaeth ac unrhyw fudd-daliadau cysylltiedig ag oed y gall fod gennych yr hawl iddynt. Hefyd, bydd rhaid i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth i sicrhau eich bod yn cael cynnydd yn y lwfansau a'ch bod yn talu'r swm iawn o dreth.
Bedwar mis cyn ichi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn derbyn llythyr yn nodi'r dewisiadau sydd gennych o ran pryd i hawlio eich Pensiwn ac yn eich gwahodd i'w hawlio.
Os na fyddwch yn clywed dim, ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 300 1084. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 1.00 pm ar ddydd Sadwrn. Hefyd, gallwch lwytho ffurflen gais oddi ar wefan Y Gwasanaeth Pensiwn.
Bydd angen ichi anfon y ffurflen i'ch canolfan bensiynau agosaf. Gallwch chwilio am hon ar-lein neu yn eich llyfr ffôn lleol dan 'Pension Service'.
Os ydych yn 60 neu fwy, efallai fod gennych hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf tuag at gost eich biliau gwresogi. Yn y rhan fwyaf o achosion, telir hwn yn awtomatig, ond gallwch ganfod a oes gennych hawl i daliad drwy ffonio'r llinell gymorth ar 0845 915 1515. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.30 am a 4.30 pm.
O 60 oed ymlaen, mae gennych hawl i incwm wythnosol o £124.05 o leiaf os ydych yn sengl a £189.35 os oes gennych bartner. Os yw eich incwm o dan hwn, gall Credyd Pensiwn ddarparu'r gwahaniaeth.
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch llinell gais Credyd Pensiwn ar 0800 991 234 (am ddim) neu ffôn testun ar 0800 169 0133. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn. Neu gallwch lwytho ffurflen oddi ar y we a'i phostio i'ch canolfan bensiynau yn ddi-dâl.
Efallai eich bod yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer o'r Gronfa Gymdeithasol os ydych yn derbyn Credyd Pensiwn .
Efallai byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm, a bod unrhyw rai o'r canlynol yn berthnasol:
Telir Taliadau Tywydd Oer yn ystod cyfnodau o dywydd oer iawn er mwyn helpu gyda'r costau gwresogi ychwanegol. Gwneir y taliadau'n awtomatig ac felly does dim angen i chi hawlio.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai fod gennych hawl i fudd-daliadau eraill pan fyddwch yn ymddeol, megis Lwfans Gofalwr, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor.
Fel arfer bydd eich cyflogwr neu eich darparwr pensiwn yn hysbysu Cyllid a Thollau EM pan fyddwch yn ymddeol. Ond er mwyn osgoi oedi a allai olygu eich bod yn talu gormod neu rhy ychydig o dreth, mae'n well i chithau hefyd gysylltu â hwy.
Os ydych yn hunangyflogedig ac ar fin ymddeol, rhaid i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth eich hun.
Bydd angen ichi gadarnhau'r wybodaeth ganlynol:
Os oes gennych incwm o ffynonellau eraill, megis buddsoddiadau, gallwch holi hefyd a oes angen ichi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad os nad ydych yn gwneud hynny eisoes.
Os na fyddwch yn cysylltu â'ch Swyddfa Dreth, efallai y byddant yn anfon ffurflen P161 atoch i gadarnhau'r manylion a roddwyd gan eich cyflogwr a darparwr eich pensiwn.
Telir Pensiwn y Wladwriaeth ichi heb i dreth gael ei didynnu. Ond gyda phensiynau eraill mae'r dreth wedi'i didynnu fel arfer cyn ichi eu derbyn. Dyna pam ei bod yn bwysig dweud wrth y Swyddfa Dreth faint yr ydych yn ei dderbyn gan bob pensiwn a phryd y dechreuodd y taliadau. Os ydych yn talu treth, bydd angen ichi dalu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth