Wrth i chi ddynesu at ymddeol bydd angen i chi edrych ar amrywiaeth o ffynonellau i amcangyfrif faint o incwm fydd gennych. Mae hyn yn cynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, cynlluniau pensiwn personol neu bensiwn cwmni (galwedigaethol), budd-daliadau'r Wladwriaeth y gallech fod yn gymwys i'w cael wrth ymddeol a'ch cynilion neu'ch buddsoddiadau.
Os oes gennych hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, gallwch ei hawlio pan gyrhaeddwch oed Pensiwn y Wladwriaeth - hyd yn oed os parhewch i weithio. Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar hyn o bryd yw 65 ar gyfer dynion a 60 ar gyfer merched a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950. Bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth i ferched a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950 yn codi o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020.
Bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu i ddynion a merched o 65 i 68 oed rhwng 2024 a 2046.
Mae Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth yn £95.25 yr wythnos yn 2009/2010.
Efallai bod gennych hawl i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth hefyd (a elwir hefyd yn 'Ail Bensiwn y Wladwriaeth' a'r cynllun Pensiwn ar sail Enillion y Wladwriaeth, neu SERPS, yn flaenorol).
Mae Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi amcangyfrif o faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech dderbyn ar oed Pensiwn y Wladwriaeth wedi’i seilio ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol mor belled â thybiaethau wedi’u gwneud o amgylch unrhyw gyfraniadau byddwch efallai yn gwneud yn y dyfodol cyn i chi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.
Cofiwch nad oes yn rhaid ichi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, pa un a ydych yn parhau i weithio neu beidio. Os byddwch yn gohirio ei hawlio, gallwch ddewis derbyn swm wythnosol uwch neu un cyfandaliad.
Rhaid i ymddiriedolwyr neu reolwyr cynlluniau pensiwn personol a rhai cwmni anfon datganiad atoch am eich pensiwn yn flynyddol.
Os oes gennych fudd-dal pensiwn cwmni diffiniedig (yn berthnasol i gyflog) gallwch wneud cais am gyfriflen flynyddol ond bydd rhai cwmnïau yn eu danfon i chi’n awtomatig. Os oes gennych gyfraniad pensiwn cwmni diffiniedig (ddim yn berthnasol i gyflog) mae’n rhaid i chi dderbyn cyfriflen flynyddol. Ar gyfer cynlluniau cyfraniadau diffiniedig, gall y gyfriflen hwn gynnwys rhagolwg o faint y gallech ei gael pan fyddwch yn ymddeol. Os na roddir rhagolwg gallwch ofyn am un.
Bydd faint a gewch o'ch pensiwn personol ac unrhyw bensiwn cwmni nad yw'n gysylltiedig â chyflog ('pwrcasu arian') yn dibynnu'n bennaf ar:
Bydd faint a gewch o bensiwn cwmni sy'n gysylltiedig â chyflog yn dibynnu ar:
Pa fath bynnag o gynllun yr ydych yn aelod ohono, efallai y gallwch gymryd rhan o'r gronfa fel taliad unswm di-dreth. Ond, os gwnewch chi hyn, bydd yn effeithio ar faint eich pensiwn.
Mae’r gwasanaeth Olrhain Pensiwn Personol yn wasanaeth am ddim a bydd efallai yn gallu eich cynorthwyo os ydych wedi colli cysylltiad â chynllun pensiwn personol neu bensiwn cwmni.
Gallwch ffonio’r Gwasanaeth Olrhain Pensiwn ar 0845 6002 537 (+44 191 218 2466 o'r tu allan i'r DU) neu ffôn testun 0845 3000 169. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:00 am a 6:00 pm.
Gallwch hefyd lenwi ffurflen olrhain ar wefan Y Gwasanaeth Pensiwn.
Mae'r llywodraeth yn cynnig gwahanol fathau o gymorth ariannol i bobl sydd wedi ymddeol - mae'n werth canfod a fyddwch yn gymwys i'w derbyn. Mae rhai yn gysylltiedig ag incwm, ac eraill ddim.
Mae Credyd Pensiwn yn arbennig o bwysig os ydych yn 60 neu fwy ac yn byw ym Mhrydain Fawr. Mae'n sicrhau isafswm cyflog wythnosol ichi (yn 2008-2009) o:
Os yw eich incwm ar ôl ymddeol yn llai na hyn, gallwch gael taliadau ychwanegol i'ch codi i'r lefelau hyn.
Efallai fod gennych hawl i fudd-daliadau cysylltiedig ag incwm eraill gan gynnwys:
Mae rhai budd-daliadau ar gael ta beth yw eich incwm, yn cynnwys Taliadau Tywydd Gaeaf, taliadau anabledd, lwfans gweini a budd-daliadau profedigaeth.
Gall y cynilion a buddsoddiadau hir dymor sydd gyda chi ddarparu incwm ychwanegol yn eich ymddeoliad, ond rhaid cofio:
Wrth i chi adolygu neu gymryd allan buddsoddiadau a chynilion, mae'n werth ystyried cael cyngor wrth ymgynghorwr ariannol awdurdodedig - ceir llai o amddiffyniad os ydych yn prynu heb gael cyngor.
Cofiwch, pan fyddwch yn ymddeol y byddwch yn dal i dalu Treth Incwm os yw eich incwm trethadwy yn fwy na'ch lwfansau. Mae incwm o bensiynau (gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth) yn drethadwy hefyd. Ond mae eich lwfans personol yn cynyddu a does dim rhaid talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, hyd yn oed os byddwch yn dal i weithio.