Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (CBC) yw un o'r darparwyr cynilion a buddsoddiadau mwyaf yn y DU. Caiff ei gefnogi gan Drysorlys EM, felly bydd unrhyw arian y byddwch yn ei fuddsoddi yn gwbl ddiogel. Caiff CBC ei gydnabod yn bennaf am Fondiau Premiwm, ond mae hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyfrifon a buddsoddiadau eraill.
Mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn sefydliadau preifat. Pan fyddwch yn arbed arian gyda banc neu gymdeithas adeiladu, caiff eich arian fel arfer ei ailfuddsoddi er mwyn gwneud elw, a gaiff wedyn ei rannu rhwng cyfranddalwyr y sefydliad a/neu'r aelodau.
Mae CBC yn adran o'r llywodraeth sy'n cynnig cynlluniau cynilo a buddsoddi i'r cyhoedd. Nid yw yr un fath â chynilo gyda banc neu gymdeithas adeiladu. Rydych yn benthyca eich arian i'r llywodraeth yn hytrach, er mwyn ariannu gwariant cyhoeddus. Gan fod Trysorlys EM yn cefnogi CBC, gallwch fod yn dawel eich meddwl bod eich holl gyfalaf yn gwbl ddiogel, faint bynnag y byddwch yn ei fuddsoddi.
Mae CBC yn cynnig unarddeg o wahanol gynhyrchion ar hyn o bryd. Mae’r rhain wedi’u rhannu’n gategorïau fel a ganlyn:
Mae rhai o gynhyrchion CBC yn ddi-dreth. Golyga hyn nad oes yn rhaid i chi dalu Treth Incwm y DU na Threth Enillion Cyfalaf ar unrhyw log neu wobrau a gewch.
Ar hyn o bryd, mae’r rhain fel a ganlyn:
Cyfrifon cynilo
Mwy o wybodaeth
Mae nifer y cynhyrchion sydd ar gael a'u manylion yn newid o bryd i'w gilydd. Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ymweld â gwefan CBC isod, neu drwy gael taflenni o Swyddfa'r Post ac mewn rhai siopau WHSmith.
Os ydych yn credu bod gennych fuddsoddiad nad yw'n cael ei werthu gan CBC bellach ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, yna ewch i'r dudalen 'Cynhyrchion nad ydynt ar werth bellach' ar wefan CBC isod.
Neu, gallwch ffonio CBC ar 0845 964 5000 - mae'r llinellau ar agor saith niwrnod yr wythnos, rhwng 7.00am a hanner nos. Ni fydd galwadau'n costio mwy na 4c y funud o linell gyffredin BT, gall cyfraddau darparwyr eraill amrywio. Gall galwadau gael eu recordio.
Os ydych yn chwilio am rywle i gynilo sy'n sicrhau bod eich cynilion yn ddiogel, gallai CBC fod yn ddewis da. Fodd bynnag, efallai y dylech ystyried dewisiadau cynilo a buddsoddi eraill os byddai'n well gennych fentro mwy am y cyfle i gael mwy o arian yn ôl.
Beth bynnag fo'ch amgylchiadau, mae'n bwysig eich bod yn ystyried yr holl ddewisiadau sydd ar gael cyn penderfynu lle i roi eich cynilion. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch ag ymgynghorydd ariannol annibynnol.
Os byddwch yn penderfynu nad ydych am gynilo gyda CBC, ewch i wefan CBC a defnyddiwch eu canllaw ar-lein i helpu i ddod o hyd i'r cynnyrch cynilion gorau ar eich cyfer chi.
Gallwch hefyd ffonio llinell ymholiadau cwsmeriaid CBC ar 0845 964 5000, rhwng 7.00 am a hanner nos, saith niwrnod yr wythnos. Ni fydd galwadau'n costio mwy na 4c y funud o linell gyffredin BT, gall cyfraddau darparwyr eraill amrywio. Gall galwadau gael eu recordio.
Gallwch agor cyfrif neu fuddsoddi: