Efallai yr ydych am roi arian i'ch plant neu eich wyrion i'w hannog i gynilo neu i roi celc iddynt pan fyddant yn gadael cartref. Os ydych yn rhoi arian i'ch plant, neu'n ei fuddsoddi ar eu cyfer, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y llog.
Does dim terfyn ar faint y gallwch ei roi neu ei fuddsoddi ar gyfer eich plant neu'ch wyrion. Ond mae'n bosibl y bydd y llog yn cael ei drethu fel eich incwm chi:
Mae gan bob rhiant derfyn ar wahân o £100. Felly, os bydd y ddau riant yn cyfrannu'r un swm, gallai eich plentyn cael llog o £200 y flwyddyn heb i'r naill na'r llall ohonoch orfod talu treth arno.
Mae terfyn ar wahân o £100 ar gyfer pob llysriant hefyd
Dim ond i rieni a llysrieni y mae'r terfyn o £100 yn berthnasol. Gallwch roi gymaint ag y dymunwch i'ch wyrion neu i blant pobl eraill - ni fydd y llog yn cael ei drethu fel eich incwm chi. Fodd bynnag, efallai y bydd y plant yn gorfod talu treth etifeddu ar y swm y byddant yn ei dderbyn a thalu treth ar y llog o'r incwm o'u cynilion.
Mae gan eich plant lwfans di-dreth personol bob blwyddyn (£6,475 ar gyfer blwyddyn dreth 2009-2010). Gallant gael y swm incwm hwn (yn cynnwys llog) yn y flwyddyn heb orfod talu unrhyw dreth.
Gall rhiant wneud cais i log o gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu eu plentyn gael ei dalu heb i dreth gael ei didynnu ohono:
Gallwch wneud cais gan ddefnyddio ffurflen R85 Cyllid a Thollau EM. Ond yn gyntaf dylech lenwi'r Daflen gymorth ar gyfer ffurflen R85. Unwaith i chi sicrhau bod gan eich plentyn hawl i gael llog heb dalu treth arno, rhowch y ffurflen wedi'i llenwi i'r banc neu'r gymdeithas adeiladu.
Os byddwch yn rhoi arian i'ch plant neu'ch wyrion (neu i blant yr ydych yn gofalu amdanynt) gall eithriadau i'r Dreth Etifeddu olygu nad oes yn rhaid talu treth arno. Os byddwch yn marw o fewn saith mlynedd i roi'r arian, efallai y bydd rhywfaint o Dreth Etifeddu i'w thalu.
Mae nifer o gynlluniau cynilo di-dreth y gallech eu defnyddio ar gyfer eich plant.
Os ganed eich plentyn ar neu ar ôl 1 Medi 2002 ac os yw'n gymwys i gael Budd-dal Plant, yn byw yn y DU ac nid yn destun i gyfyngiad mewnfudo, byddwch yn cael taleb £250 gan y llywodraeth (£500 os nad yw eich incwm yn fwy na'r terfyn ar gyfer Credyd Treth Plant) i sefydlu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Unwaith y byddwch wedi sefydlu'r gronfa, gall unrhyw un ychwanegu hyd at uchafswm o £1,200 y flwyddyn ynddi. Ni fydd treth i'w thalu ar unrhyw log nac enillion.
Gallwch fuddsoddi rhwng £25 a £3,000 am bum mlynedd. Mae'r llog a'r bonws sydd wedi'i warantu yn ddi-dreth i chi a'ch plant.
Mae cynnyrch cynilo eraill ar gael y gallech eu hystyried ar gyfer plant. Gan nad yw'r rhain wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant mewn rhai achosion bydd rhaid i chi reoli'r cyfrif hyd nes i'r plentyn gyrraedd oed penodol.
Gallwch fuddsoddi rhwng £100 a £15,000 am dair i bum mlynedd. Gwarentir bod gwerth eich buddsoddiad yn symud yn unol â chwyddiant ac fe warentir y gyfradd llog. Nid ydych yn talu unrhyw dreth.
Gallwch brynu rhwng £100 a £30,000 gwerth o Fondiau Premiwm. Ni fyddwch yn cael unrhyw log, ond mae pob bond yn cael ei rhoi mewn i gystadleuaeth bob mis ac mae’r gwobrau yn ddi-log.
Gallwch ddefnyddio ymddiriedolaeth deulu i ofalu am arian a darparu incwm i blant nad ydynt yn gallu rheoli eu materion eu hunain.
Mae sefydlu ymddiriedolaeth yn waith cymhleth. Bydd angen i chi gael cyngor arbenigol a rhoi gwybod i'ch Swyddfa Dreth os ydych yn sefydlu ymddiriedolaeth.