Mae'n hawdd iawn osgoi gwneud ewyllys. Ond os byddwch yn marw heb ewyllys, efallai y bydd eich asedau'n cael eu dosbarthu yn unol â'r gyfraith yn hytrach na'ch dymuniadau. Gallai hyn olygu y bydd eich partner yn derbyn llai, neu bod yr arian yn mynd i aelodau'r teulu nad ydynt o bosibl angen yr arian.
Mae llawer o resymau ariannol da dros wneud ewyllys:
Os nad oes gennych ewyllys mae rheolau ar gael ar gyfer penderfynu pwy sy'n etifeddu'ch asedau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol: Dim ond yng Nghymru a Lloegr y mae'r darpariaethau a ganlyn yn berthnasol. Mae'r gyfraith yn wahanol os byddwch chi'n marw a chithau heb wneud ewyllys yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon
Bydd popeth yn mynd i'ch gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil.
Ni fydd eich gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil yn cael popeth yn awtomatig, er y byddant yn derbyn:
Bydd gweddill yr ystâd yn cael ei rannu fel a ganlyn:
Os nad ydych wedi priodi nac yn bartneriaid sifil cofrestredig, fyddwch chi ddim yn cael cyfran o ystâd eich partner yn awtomatig os bydd yn marw heb wneud ewyllys.
Os nad ydynt wedi darparu ar eich cyfer mewn rhyw ffordd arall, eich unig ddewis yw gwneud hawliad dan Ddeddf Etifeddu (Darpariaeth i Deulu a Dibynyddion) 1975. Gweler yr adran isod 'Os ydych yn teimlo nad ydych wedi derbyn darpariaeth ariannol resymol'.
Dosberthir yr ystâd fel a ganlyn:
Bydd yn cymryd mwy o amser i gael trefn ar eich materion os nad oes gennych ewyllys. Gallai hyn beri mwy o loes i'ch perthnasau a'ch dibynyddion hyd nes y gallant dynnu arian o'ch ystâd.
Os teimlwch nad ydych wedi derbyn darpariaeth ariannol resymol gan yr ystâd, efallai y gallwch hawlio dan Ddeddf Etifeddu (Darpariaeth i Deulu a Dibynyddion) 1975 - ar waith yng Nghymru a Lloegr. I wneud hawliad, rhaid i chi fod â math arbennig o berthynas gyda'r ymadawedig, megis plentyn, gŵr neu wraig, partner sifil, dibynnydd neu berson a oedd yn cyd-fyw ag ef neu hi.
Os oeddech yn byw gyda'r ymadawedig fel partner ond heb fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd yn rhaid i chi ddangos eich bod wedi'ch 'cynnal naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr ymadawedig' - gall profi hyn fod yn anodd os oedd y ddau ohonoch wedi cyfrannu at eich bywyd gyda'ch gilydd.
Bydd angen i chi hawlio o fewn chwe mis i ddyddiad y Grant Llythyrau Gweinyddu.
Mae hwn yn faes eithaf cymhleth ac efallai na fydd hawliad yn llwyddiannus. Fe'ch cynghorir i gael cyngor gan gyfreithiwr. Byddent yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.
Yn yr achos hwn, ni fydd unrhyw Dreth Etifeddu i'w thalu fel arfer oherwydd bod gŵr, gwraig neu bartner sifil yn cael eu hystyried yn 'fuddiolwyr eithriedig'. Ond cofiwch y bydd eu hystâd yn werth mwy pan fyddant yn marw, ac felly efallai y bydd yn rhaid talu mwy o Dreth Etifeddu bryd hynny.
Fodd bynnag, os ydych â'ch domisil (eich cartref parhaol) yn y DU pan fyddwch yn marw, ond nad yw eich partner priod neu bartner sifil, gallwch ond gadael £55,000 iddynt yn ddi-dreth
Gallwch adael hyd at £312,000 yn ddi-dreth i unrhyw un yn eich ewyllys, nid dim ond eich partner priod neu bartner sifil (blwyddyn dreth 2008-2009). Felly gallech, er enghraifft, roi rhywfaint o'ch ystâd i rywun arall neu i ymddiriedolaeth deulu. Wedyn mae Treth Etifeddu ar gyfradd o 40 y cant yn daladwy ar unrhyw swm yr ydych yn ei adael ar ben hwn.
Nid oes Treth Etifeddu'n daladwy ar unrhyw arian neu asedau y byddwch yn eu gadael i un o elusennau cofrestredig y DU - mae'r trosglwyddiadau hyn wedi'u heithrio.
Yn ogystal â gwneud ewyllys, gallwch ddefnyddio ymddiriedolaeth deulu i rannu'ch asedau yn ôl eich dymuniad chi. Fe allwch drefnu yn eich ewyllys i asedau penodol gael eu trosglwyddo i ymddiriedolaeth neu i ymddiriedolaeth ddechrau pan fydd manylion yr ystâd wedi'u terfynu. Gallwch hefyd ddefnyddio ymddiriedolaeth i ofalu am asedau yr ydych am eu trosglwyddo i fuddiolwyr na allant reoli eu materion ariannol ar y pryd (naill ai oherwydd eu hoed neu oherwydd anabledd).
Gallwch ddefnyddio gwahanol fathau o ymddiriedolaethau yn dibynnu ar yr hyn yr ydych eisiau'i wneud a'r amgylchiadau. Mae sefydlu ymddiriedolaeth yn gymhleth ac felly bydd rhaid i chi gael cyngor arbenigol, felly dim ond os oes gennych ystâd fawr y mae hyn yn werth ei wneud. Os disgwyliwch i'r ymddiriedolaeth fod yn atebol i dalu treth ar incwm neu enillion, dylech roi gwybod i Ymddiriedolaethau Cyllid a Thollau EM cyn gynted ag y bydd yr ymddiriedolaeth wedi'i sefydlu. Ar gyfer y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau, bydd Treth Etifeddiaeth yn cael ei chodi ar unwaith os bydd y trosglwyddiad yn mynd â chi dros y trothwy Treth Etifeddiaeth. Codir Treth Etifeddiaeth hefyd pan fydd asedau'n gadael yr ymddiriediaeth. Darllenwch ein herthyglau cysylltiedig i gael gwybod mwy.
Mae Cyngor Ar Bopeth (CAB) yn cynnig cyngor am sut i wneud ewyllys. Gallwch ddarllen eu harweiniad hwylus sy'n cynnwys: