Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth yw morgais?

Benthyciad yw morgais yr ydych yn ei gymryd i brynu eiddo. Mae'r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu'n cynnig morgeisi, yn ogystal â chwmnïau benthyca morgeisi arbenigol. Os byddwch yn newid eich benthyciwr, ond ddim yn symud cartref, cyfeirir ato fel 'ailforgais' (remortgage).

Dewis morgais - ble i ddechrau

Gallwch gael morgais yn uniongyrchol oddi wrth y benthyciwr (banciau, cymdeithasau adeiladu a benthycwyr morgeisi arbenigol), neu gallwch ddefnyddio brocer morgeisi. Gallwch brynu ar sail 'gwybodaeth' yn unig neu gael cyngor ac argymhelliad ynghylch morgais sy'n addas i'ch anghenion penodol chi.

Dulliau ad-dalu

Mae dwy brif ffordd o dalu'ch morgais yn ôl - morgais 'ad-dalu' a morgais 'llog yn unig'. Gyda morgais ad-dalu, rydych yn gwneud ad-daliadau'n fisol am gyfnod cytunedig (y 'cyfnod') hyd nes eich bod wedi talu'r holl fenthyciad a'r llog yn ôl.

Gyda morgais llog yn unig rydych yn gwneud ad-daliadau misol am gyfnod cytunedig ond dim ond y llog ar eich benthyciad y bydd hwn yn ei dalu (mae morgeisi gwaddol yn gweithio fel hyn). Bydd angen ichi hefyd fel arfer dalu i gynllun cynilo neu gynllun buddsoddi arall a fydd, gobeithio, yn talu'r benthyciad ar ddiwedd y cyfnod.

Nodweddion hyblyg

Mae rhai morgeisi'n cynnig opsiynau i amrywio eich taliadau misol, neu i gyfuno eich cyfrif morgais gyda chynilion ac incwm arall - morgeisi hyblyg, morgeisi cyfrif cyfredol a morgeisi 'gwrthbwyso' yw'r enw ar y rhain.

Cyfraddau llog

Fe welwch hefyd fod ystod o gyfraddau llog i ddewis ohonynt. Er enghraifft, mae cyfraddau 'amrywiol' a 'thracio' yn newid gyda chyfraddau Banc Lloegr, gosodir cyfraddau 'sefydlog' am nifer penodedig o flynyddoedd, ac mae gan gyfraddau 'wedi'u capio' gyfradd llog amrywiol gyda throthwy fel na fydd eich taliadau'n mynd yn uwch na swm penodol.

Yswiriant

Efallai y bydd benthyciwr yn mynnu eich bod yn prynu yswiriant bywyd a fydd yn ad-dalu'ch morgais petaech yn marw. Gallwch hefyd gael yswiriant i ddiogelu eich incwm neu dim ond eich taliadau morgais petaech yn dod yn wael neu'n anabl, neu'n colli eich swydd.

‘Moneymadeclear’ gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

Mae gwefan Moneymadeclear yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn lle delfrydol i gael gwybod mwy am forgeisi a phrynu tŷ, pa un a ydych yn prynu am y tro cyntaf neu’n chwilio am eich morgais nesaf.

Allweddumynediad llywodraeth y DU