Bydd troseddwyr yn dyfeisio mathau newydd o dwyll yn rheolaidd er mwyn ceisio dwyn eich arian oddi arnoch; bob blwyddyn bydd oddeutu 28 miliwn o ddefnyddwyr yn cael eu targedu yn y DU, ac fe gollir £1 biliwn. Er bod y dulliau'n newid o bryd i'w gilydd, yr un peth mae'n rhaid i chi ei wneud i'ch gwarchod eich hun - bod yn effro a chymryd ychydig o gamau syml.
Cynllun anghyfreithlon i ddwyn eich arian yw sgam. Fe allan nhw fod ar sawl ffurf, gan gynnwys llythyrau, negeseuon e-bost, galwadau ffôn a negeseuon testun.
Bydd llawer o sgamiau'n dibynnu arnoch chi'n rhoi gwybodaeth neu'n cael eich perswadio i roi gwybodaeth y byddwch fel arfer yn ei chadw'n gyfrinachol. Er mwyn gwarchod eich hun, byddwch wastad yn ofalus wrth roi gwybodaeth bersonol i unrhyw un nad ydych chi'n eu 'nabod (neu unrhyw un nad ydych wedi cael sicrwydd pwy ydyn nhw) nac i unrhyw gwmni neu unigolyn rydych chi'n amheus ohonynt.
Mae sawl sefydliad yn darparu gwybodaeth am y sgamiau sydd ar led ar hyn o bryd ac yn cynnig cyngor o bryd am yr hyn y dylech ei wneud os ydych chi'n amau bod rhywun wedi'ch targedu. Dyma nhw:
Mae'r FSA yn cynnig gwybodaeth am y sgamiau ariannol sydd ar led ar hyn o bryd a beth i ochel rhagddo.
Dyma rai o'r sgamiau mwyaf cyffredin:
Mae'r Swyddfa Masnachu Teg yn cynnig rhestr gynhwysfawr o wahanol fathau o sgamiau (buddsoddi a chyffredinol) a chyngor am sut i 'nabod sgam.
Gwasanaeth a gefnogir gan y llywodraeth yw Consumer Direct. Mae'n cynnig help a chyngor am ddim i ddefnyddwyr. Mae'n cynnig amrywiaeth o wybodaeth am sut i ganfod sgam neu dwyll a'u hosgoi.
Corff sy'n gweithio gyda'r heddlu, siopwyr a sefydliadau, megis Crimestoppers, yw Card Warch, a'i nod yw helpu i frwydro yn erbyn twyll gyda chardiau plastig. Mae eu gwefan yn cynnwys gwybodaeth am sgamiau sy'n targedu pobl sy'n defnyddio cardiau.
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn darged i sgam neu i chi gael eich dal, cysylltwch â Consumer Direct i gael cyngor ar 08454 04 05 06 (8.00 am tan 6.30 pm dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00 am tan 1.00 pm ar ddydd Sadwrn).
Os ydych chi'n darged i sgam buddsoddi neu wedi cael eich dal, dylech hefyd gysylltu â'r FSA ar 0845 606 1234 (minicom/ffôn testun 08457 300 104). Mae'r llinellau ar agor o 8.00 am tan 6 pm.
Os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn defnyddio'ch manylion personol i ddwyn arian o'ch cyfrif neu i agor cyfrifon twyllodrus yn eich enw chi (dwyn eich manylion personol) cysylltwch â'r heddlu ar unwaith. Mae'n ddoeth hefyd cysylltu â CIFAS (Gwasanaeth Atal Twyll y DU) sy'n cynnig Gwasanaeth Cofrestru Gwarchodol i'ch gwarchod rhag troseddwyr sy'n ceisio defnyddio'ch enw a'ch cyfeiriad i gael credyd neu nwyddau eraill yn eich enw.
Os tybiwch fod rhywun wedi dwyn eich manylion personol neu wybodaeth am eich cyfrif cofiwch: