Mae yswiriant bywyd yn cynnwys 'math sy'n ymwneud â buddsoddi' ac yswiriant 'cyfnod'. Mae yswiriant math buddsoddi yn cynnwys polisïau sy'n talu allan ar ddyddiad penodol ar ôl i chi farw. Bydd yswiriant cyfnod yn talu taliad unswm os byddwch yn marw cyn dyddiad
Gydag yswiriant bywyd sy'n ymwneud â buddsoddi byddwch fel rheol yn cyfrannu at bolisi yn fisol. Dim ond ar ôl i chi farw y bydd ambell bolisi yn talu. Bydd rhai eraill yn talu swm o arian ar ddyddiad penodol neu ar ôl marwolaeth. Mae'r swm y bydd polisïau sy'n ymwneud â buddsoddi yn eu talu yn dibynnu ar berfformiad y buddsoddiadau yn y gronfa yswiriant.
Gall yswiriant sy'n ymwneud â buddsoddi fod yn ddrud o'i gymharu â buddsoddiadau traddodiadol. Cewch wybod mwy ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
Mae yswiriant cyfnod fel rheol yn ffordd ratach o warchod eich dibynyddion be baech chi'n marw, gyda'r taliadau misol yn gyffredinol yn llawer is.
Mae'r polisi yn gwarantu talu swm penodol os byddwch yn marw o fewn cyfnod penodol (y 'cyfnod'), ond ni thelir unrhyw swm os byddwch chi'n byw y tu hwnt i'r cyfnod hwnnw. Gallai'r cyfnod fod, er enghraifft, yn nifer y blynyddoedd sy'n weddill ar eich morgais neu nifer y blynyddoedd sydd ar ôl nes bydd eich plant yn medru cynnal eu hunain yn ariannol.
Weithiau, gelwir yswiriant cyfnod yn yswiriant 'gwarchod yn unig'.
P'un ai yswiriant bywyd sy'n ymwneud â buddsoddi ynteu yswiriant cyfnod yr ydych yn ei brynu, mae'n werth siopa o gwmpas. Mae pwyntiau allweddol i'w hystyried yn cynnwys:
Mae'n bosib y bydd ffactorau eraill i'w hystyried, yn dibynnu ar y math o yswiriant rydych yn ei brynu.
Dogfennau 'Ffeithiau allweddol' i'ch helpu i siopa o gwmpas
Caiff cwmnïau neu froceriaid sy'n gwerthu yswiriant bywyd eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Yn unol â rheolau'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol rhaid iddynt ddarparu dogfennau 'Ffeithiau allweddol' a 'Nodweddion allweddol' safonol i'ch helpu i siopa o gwmpas. Bydd y dogfennau hyn yn eich helpu i gymharu'r canlynol: y gwasanaeth y byddant yn ei gynnig (cyngor neu wybodaeth yn unig, cynnyrch pwy fyddant yn ei ddewis o fewn y farchnad a faint o dâl y byddant yn ei godi) nodweddion allweddol unrhyw bolisi yswiriant y byddant yn ei awgrymu neu'n darparu gwybodaeth yn ei gylch
Gallwch ganfod a yw cwmni neu unigolyn wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol drwy ddefnyddio gwasanaeth gwirio cwmnïau ar-lein yr Awdurdod.
Gallwch brynu yswiriant ar ôl cael cyngor, neu'n seiliedig ar wybodaeth yn unig ar ôl chwilio o gwmpas. Darllenwch ein herthygl berthnasol er mwyn deall beth yw'r gwahaniaeth rhwng prynu gyda chyngor a heb gyngor a'r manteision ac anfanteision sy'n gysylltiedig â hynny.