Mae yswiriant cyffredinol yn cynnwys y rhan fwyaf o yswiriannau ac eithrio yswiriant bywyd. Gallwch chwilio o gwmpas am yswiriant cyffredinol a'i brynu'n uniongyrchol, neu gael cyngor yn ei gylch. Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoli'r rhan fwyaf o werthiannau yswiriant cyffredinol ac yswiriant gwarchodaeth pur. Golyga hyn bod cwmnïau yn gorfod dilyn rheolau a safonau penodol wrth ddelio gyda chi.
Dim ond ar ôl digwyddiad sydd wedi'i yswirio y bydd yswiriant cyffredinol yn talu allan. Mae'n cynnwys:
Gyda chymaint o gynigion yswiriant ar y farchnad mae'n werth siopa o gwmpas. Mae pwyntiau allweddol i'w cymharu yn cynnwys:
Pan fyddwch yn cysylltu â brocer yswiriant byddwch yn cael dwy ddogfen bwysig gyda'r symbol 'Ffeithiau allweddol'.
Bydd un yn eich helpu i gymharu'r math o wasanaeth y bydd gwahanol froceriaid yn ei ddarparu (cyngor a gwybodaeth), cynnyrch pwy fyddant yn ei ddewis a sut byddant yn codi tâl.
Bydd y ddogfen 'Ffeithiau allweddol' ar wahân yn crynhoi gwybodaeth bwysig am y polisi yswiriant y maent yn ei awgrymu neu'n darparu gwybodaeth amdano.
Gallwch ganfod a yw cwmni neu unigolyn wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol drwy ddefnyddio gwasanaeth gwirio cwmnïau ar-lein yr Awdurdod.
Gallwch brynu yswiriant ar ôl cael cyngor, neu'n seiliedig ar wybodaeth ar ôl chwilio o gwmpas. Darllenwch ein herthygl berthnasol er mwyn deall beth yw'r gwahaniaeth rhwng prynu gyda chyngor a heb gyngor a'r manteision ac anfanteision sy'n gysylltiedig â hynny.