Rhaid i gwmni sy'n gwerthu cynnyrch a gwasanaethau ariannol ddilyn rheolau a safonau penodol sy'n cael eu pennu gan y gyfraith a chan y rheoleiddwyr ariannol perthnasol. Bwriad y rhain yw gwarchod hawliau defnyddwyr. Os nad yw cwmni'n cadw at y rheolau, gallwch gwyno amdano. Bydd gennych fwy o hawliau os cawsoch chi gyngor ariannol.
Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yw corff gwarchod ariannol y DU. Fe'i sefydlwyd gan y llywodraeth i helpu i reoleiddio gwasanaethau ariannol yn y DU ac i warchod hawliau defnyddwyr. Yr Awdurdod sy'n pennu'r rheolau y mae'r rhan fwyaf o fusnesau ym maes gwasanaethau ariannol yn gorfod eu dilyn.
Mae'n ofynnol bod cwmnïau a reoleiddir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol:
Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn darparu taflenni ffeithiau a gwybodaeth rhad ac am ddim am amrywiaeth o gynnyrch ariannol. Mae'r wybodaeth yn cynnwys manylion ynghylch beth y dylai cynghorwyr ariannol ei roi i chi ac am y cwestiynau y dylech chi eu gofyn. I gael gwybod mwy, ewch i wefan yr Awdurdod.
Sut i ganfod a yw cwmni wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol
I weld a yw cwmni wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, gallwch ddefnyddio'r 'Gwasanaeth Gwirio Cwmnïau' ar wefan yr Awdurdod.
Y Swyddfa Masnachu Teg yw'r awdurdod trwyddedu ar gyfer busnesau credyd defnyddwyr. Mae'n gwarchod buddiannau defnyddwyr drwy fonitro pa mor addas yw'r rheini sydd â thrwyddedau neu'r rheini sy'n gwneud cais am drwyddedau. Mae busnesau credyd defnyddwyr yn cynnwys cynghorwyr ariannol, broceriaid a chanolwyr eraill, yn ogystal â'r rheini sy'n helpu pobl â phroblemau dyledion neu sy'n rhoi cyngor ar eu sefyllfa gredyd.
Mae'r Swyddfa Masnachu Teg hefyd yn gorfodi'r Ddeddf Credyd Defnyddwyr a rheoliadau, ar y cyd â Gwasanaethau Safonau Masnach Awdurdodau Lleol.
Mae'n ofynnol bod cwmnïau sydd wedi'u trwyddedu gan y Swyddfa Masnachu Teg:
Sut mae cael gwybod a oes gan gwmni drwydded credyd defnyddwyr
I gael gwybod a yw cwmni neu unigolyn wedi'i drwyddedu gan y Swyddfa Masnachu Teg, gallwch chwilio ar-lein drwy'r Gofrestr Credyd Defnyddwyr ar wefan y Swyddfa Masnachu Teg.
Mae'r Bwrdd Safonau a Chod Bancio (Banking Code and Standards Board) yn sicrhau bod banciau a chymdeithasau adeiladu yn cydymffurfio â'r Cod Bancio (cod gwirfoddol ar gyfer delio gyda chwsmeriaid).
Er enghraifft, dylent wneud y canlynol:
Drwy fynd at gwmni awdurdodedig am gyngor, fe gewch rywfaint o warchodaeth. Er enghraifft, rhaid i gwmnïau sydd wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol lynu wrth y rheolau a'r safonau gofynnol a bennir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Hefyd, os yw cwmni sydd wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rhoi cyngor i chi a bod y cyngor hwnnw'n wallus ac ystyried eich amgylchiadau, ceir system i ddatrys cwynion ac, os oes angen, i unioni'r cam a wnaethpwyd.
Ceir gwarchodaeth debyg yng nghyswllt cwmnïau sydd wedi'u trwyddedu gan y Swyddfa Masnachu Teg.
Pan fyddwch chi'n prynu heb gael cyngor, chi sy'n gyfrifol am eich penderfyniad ac os digwydd i'r cynnyrch fod yn anaddas, ni fydd eich dadl dros gwyno mor gryf.
Mae'n bwysig peidio â chamgymryd 'gwybodaeth' am gynnyrch gyda 'chyngor'.
Mae hysbysebion, cylchgronau a gwefannau cwmnïau yn rhoi manylion am eu cynnyrch, ond nid ydynt yn gyfystyr â rhoi cyngor personol i chi. I gael gwybod ai gwybodaeth ynteu gyngor yr ydych yn ei gael, darllenwch y ddogfen 'Ffeithiau Allweddol am ein gwasanaeth' (yn unol â rheolau'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, rhaid i gwmnïau roi'r daflen hon i chi cyn i chi brynu) a holwch y person yr ydych yn delio ag ef hefyd. Nid oes rhaid i gwmnïau gynnig cyngor.
Os nad ydych chi'n fodlon gyda chynnyrch neu wasanaeth ariannol yr ydych wedi'i brynu, mae gennych hawl i gwyno. Yn y lle cyntaf, dylech gwyno wrth y cwmni wnaeth werthu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth i chi. Os ydych chi'n dal yn anhapus, mae'n bosib y gallwch gael cymorth gan gynllun cwynion annibynnol, megis y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol neu'r Ombwdsmon Pensiynau. Fel arfer, pan fydd pethau wedi mynd i'r pen yr eir â chwmni i'r llys.
Gweler 'Yn yr adran hon' isod am fwy o wybodaeth ynghylch sut i wneud cwyn.
Cyn y gall sefydliad gadw eich manylion ar ffeil, rhaid iddynt gofrestru dan y Ddeddf Diogelu Data. Gallwch hefyd ofyn am gael gweld pa wybodaeth sydd ganddynt amdanoch chi.
Cyn y cewch brynu cynnyrch ariannol, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi ddarparu gwybodaeth bendant am eich amgylchiadau ariannol.
Os ydych yn gwneud cais am fenthyciad neu forgais, efallai y bydd angen i'r cwmni hefyd wneud prawf credyd drwy un o dair asiantaeth archwilio credyd y DU. Mae hyn yn golygu y byddant yn edrych ar eich hanes credyd, sy'n helpu'r cwmni i benderfynu a ydynt am roi benthyciad neu forgais i chi ai peidio. Mae gennych hawl i wybod pa wybodaeth a gedwir amdanoch chi, ac i gywiro'r wybodaeth honno os yw'n anghywir.