Mae benthyciadau, gorddrafftiau a phrynu ar gredyd i gyd yn ffyrdd o gael benthyg arian. Mae gwahanol ffyrdd o gael benthyg arian yn gweddu i wahanol bobl a gwahanol sefyllfaoedd. Sut bynnag y byddwch yn dewis cael benthyg arian, mae'n bwysig eich bod yn sicrhau y gallwch fforddio'r ad-daliadau.
Cyn i chi benderfynu cael benthyg arian mae'n bwysig eich bod yn hollol siur y byddwch yn gallu ad-dalu'r arian yn y dyfodol. Bydd cyfrifiannell cyllideb yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn eich cynorthwyo i edrych ar eich incwm ochr yn ochr â'ch treuliau er mwyn i chi gael gweld faint o arian fydd gennych dros ben ar ddiwedd pob mis i ad-dalu arian a fenthycwyd. Os canfyddwch eich bod eisoes yn gwario mwy na'ch incwm neu'n agos iawn at wneud hynny, meddyliwch yn ofalus a allwch chi fforddio i gael benthyg mwy o arian.
Cofiwch hefyd y gallai ad-dalu benthyciadau a chardiau credyd fod yn broblem os, er enghraifft, y bydd cyfraddau llog yn codi neu os byddwch yn colli eich swydd. Bydd prawf rhyngweithiol yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn eich helpu i weld a oes gennych broblemau neu a ydych yn debygol o gael problemau gyda chael benthyg arian.
Gyda benthyciad wedi ei warantu, mae gan y benthyciwr yr hawl i fynnu bod yr ased a ddefnyddiwyd i sicrhau eich benthyciad yn cael ei werthu os nad ydych yn llwyddo i ad-dalu. Gelwir y math mwyaf cyffredin o fenthyciad wedi ei warantu yn 'dâl pellach ymlaen llaw' a chaiff ei wneud yn erbyn eich cartref trwy gael benthyg arian ychwanegol at eich morgais. (Mae'r morgais ei hun yn fenthyciad wedi ei warantu.) Gan fod benthyciadau wedi eu gwarantu yn llai o risg o safbwynt y benthyciwr byddant fel arfer yn rhatach na benthyciadau heb sicrwydd.
Mae benthyciadau wedi eu gwarantu yn fwyaf addas ar gyfer cael benthyg symiau mawr o arian dros gyfnod hirach, er enghraifft ar gyfer gwneud gwelliannau yn y cartref.
Golyga benthyciad 'heb ei warantu' fod y benthyciwr yn dibynnu ar eich addewid i dalu'r arian yn ôl. Maent yn cymryd mwy o risg na gyda benthyciad 'wedi'i warantu', felly tuedda cyfraddau llog benthyciadau heb eu gwarantu fod yn uwch. Byddwch fel arfer yn gwneud taliadau sefydlog dros gyfnod penodedig ac efallai y cosbir chi os byddwch eisiau ad-dalu'r benthyciad yn fuan. Mae benthyciadau heb eu gwarantu yn aml yn ddrytach ac yn llai hyblyg na benthyciadau wedi'u gwarantu, ond gallant fod yn addas os mai benthyciad tymor byr y dymunwch ei gael (rhwng un a phum mlynedd).
'Mudiadau ariannol cydfuddiannol' yw undebau credyd sy'n eiddo i'w haelodau ac a redir gan yr aelodau ar gyfer eu haelodau. Unwaith y dangoswch eich bod yn gynilwr dibynadwy, byddant hefyd yn rhoi benthyg arian i chi - ond dim ond swm y gwyddant y gallwch fforddio ei ad-dalu. Mae gan aelodau rhywbeth yn gyffredin, megis byw yn yr un ardal, yr un man gwaith, aelodau o gymdeithas dai neu debyg.
Mae gorddrafftiau'n debyg i 'rwyd ddiogelwch' ar eich cyfrif cyfredol; byddant yn caniatáu i chi gael benthyg arian hyd at swm penodol pan nad oes arian yn eich cyfrif a gallant fod yn ddefnyddiol i ymdrin â phroblemau llif arian tymor byr. Mae cael benthyg arian gyda gorddrafftiau yn fwy hyblyg na gyda benthyciad oherwydd y gallwch eu had-dalu pan fydd hynny'n gyfleus i chi. Er hyn, nid ydynt yn addas ar gyfer cael benthyg symiau mawr o arian dros gyfnod hir oherwydd y bydd y gyfradd llog fel rheol yn uwch na gyda benthyciad personol. Mae'n rhaid i chi gael cyfrif banc er mwyn cael gorddrafft.
Mae prynu ar gredyd yn ddull o gael benthyg arian. Gall hyn gynnwys talu am nwyddau neu wasanaethau gan ddefnyddio cardiau credyd neu dan fath arall o gytundeb credyd. Darllenwch 'Prynu ar gredyd: opsiynau, manteision ac anfanteision' - dan 'Yn yr adran hon' ar waelod y dudalen - er mwyn cael gwybod mwy