Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth sy'n digwydd i ddyledion pan fydd rhywun yn marw?

Pan fydd rhywun yn marw, mae unrhyw ddyledion sydd ganddynt yn cael eu talu o'u 'hystâd' (yr arian a'r eiddo y maent yn eu gadael ar ôl). Dim ond os oedd gennych gytundeb neu fenthyciad ar y cyd y byddwch yn gyfrifol am eu dyledion os byddwch wedi darparu gwarant benthyciad – nid ydych yn gyfrifol yn awtomatig am ddyledion gŵr, gwraig neu bartner sifil.

Yr ystâd

Mae ystâd unigolyn yn cynnwys eu harian parod (gan gynnwys arian yswiriant) a buddsoddiadau, eiddo a meddiannau.

Ar ôl i rywun farw, bydd eu hystâd yn cael ei drin gan un 'sgutor' - neu fwy nag un - neu gan 'weinyddwr' os nad oedd ewyllys. Fel arfer, mae'r rhain yn berthynas neu'n gyfaill ac/neu'n dwrnai.

Os yw'r ystâd yn werth mwy na swm penodol, bydd yn rhaid i'r gweithredwr neu'r gweinyddwr gael caniatâd arbennig - a elwir yn 'brofiant' neu'n 'llythyrau gweinyddu' - er mwyn delio â materion ariannol yr unigolyn. Mae hyn yn cynnwys talu eu dyledion.

Beth fydd yn digwydd os nad oes digon o arian i dalu'r holl ddyledion?

Dan amgylchiadau fel hyn, rhaid i'r ystâd dalu unrhyw ddyledion sy'n weddill yn nhrefn eu blaenoriaeth cyn rhoi unrhyw beth i bobl a enwir yn yr ewyllys, neu nes bod yr arian yn dirwyn i ben. Defnyddiwch y ddolen isod a sgroliwch i lawr i gael gwybod mwy.

Dyledion os oeddech chi'n berchen ar gartref gyda'ch gilydd

Os oeddech chi'n gydberchennog ar gartref ac nad oes digon o arian yn unman arall yn yr ystâd i dalu dyledion yr ymadawedig, yna, mae'n bosib y byddai'n rhaid gwerthu'ch cartref. Bydd y dewisiadau sydd gennych er mwyn osgoi gorfod gwerthu'n dibynnu ar p'un ai 'tenantiaid ar y cyd' ynteu cyd-denantiaid oeddech chi.

'Tenantiaid ar y cyd'

Os oeddech chi'n denantiaid ar y cyd, yna roeddech chi'n berchen ar ran benodol o'r eiddo. Daw'r gyfran fu'n eiddo i'r sawl a fu farw'n rhan o'u hystâd a'i throsglwyddo i bwy bynnag a nodir yn eu hewyllys. Ond os oes dyledion gan y sawl a fu farw, rhaid talu'r rheini'n gyntaf o'r gyfran honno. Er mwyn osgoi gorfod gwerthu'r cartref rhaid i chi a/neu unrhyw un sydd i fod i etifeddu'r ail gyfran geisio negodi gyda'r bobl y mae arian yn ddyledus iddynt ('y credydwyr') a dod o hyd i'r arian angenrheidiol.

'Cyd-denantiaid'

Os oeddech chi'n gyd-denantiaid, roeddech yn berchen ar yr eiddo i gyd gyda'ch gilydd ac felly bydd cyfran y sawl sydd wedi marw'n cael ei throsglwyddo'n awtomatig i chi.

Ond er ei fod bellach yn rhan o'ch ystâd chi, allwch chi ddim anwybyddu'r dyledion. Gall credydwyr wneud cais am 'Orchymyn Gweinyddu Ansolfedd' o fewn pum mlynedd i farwolaeth dyledwr. Gall hyn olygu bod yr eiddo'n cael ei rannu yn ei hanner a bod rhaid i rywun werthu. Felly, mae'n well i chi geisio dod i gytundeb â'r bobl y mae arian yn ddyledus iddynt, a cheisio'u talu eich hun.

Gallwch gael gwybod os ydych yn berchen ar yr eiddo fel 'tenantiaid ar y cyd' neu 'gyd denantiaid' yn y Trosglwyddiad neu'r Brydles a gawsoch wrth brynu'r eiddo neu mewn Dogfen Ymddiriedolaeth neu Ewyllys. Hefyd, mae'n bosib y gall y gofrestrfa tir roi awgrym i chi ond ni all y Gofrestrfa Tir roi cyngor i chi ar ba fath o berchnogaeth rydych wedi'i dewis.

Gallwch weld copi neu lwytho un i lawr o Arweiniad 18 i’r Cyhoedd - Y Gofrestrfa Tir - Perchen eiddo ar y cyd i gael rhagor o wybodaeth.

Sut y telir gwahanol ddyledion

Morgeisi

Os oedd y sawl roddodd fenthyg y morgais i chi wedi mynnu bod rhywun yn codi yswiriant bywyd, fe all hynny dalu cyfanswm y benthyciad. Os nad oes yswiriant - neu os oedd ail forgeisi heb eu gwarchod gan yswiriant - mae'n bosib y bydd rhaid gwerthu'r eiddo.

Ôl-ddyledion rhent

Os ydych chi'n gyd-denant mewn eiddo ar rent, rhaid i chi dalu unrhyw ôl-ddyledion rhent.

Trethi dŵr

Mae unrhyw un sy'n dal i fyw yn y cartref yn gyfrifol am unrhyw ôl-ddyledion ac am daliadau parhaus hyd yn oed os nad yw eu henw ar y bil.

Y Dreth Gyngor

Mae unrhyw un sy'n dal i fyw yn y cartref yn gyfrifol am unrhyw ôl-ddyledion ac am daliadau parhaus hyd yn oed os nad yw eu henw ar y bil. (Ond mae gostyngiad o 25 y cant ar gael am fod yr unig oedolyn yn y tŷ.) Ni fydd rhaid talu'r Dreth Gyngor os yw'r tŷ yn wag.

Biliau tanwydd

Os ydych wedi bod yn byw yn yr eiddo gyda rhywun arall, fe allech fod yn gyfrifol am dalu ôl-ddyledion biliau tanwydd. Cysylltwch â'r National Debtline am gyngor - mae'r manylion isod.

Hur bwrcas (cytundebau HP)

Nid yw'r prynwr yn berchen ar yr eiddo nes bod y taliad diwethaf wedi'i wneud. Ond os bydd traean o'r cytundeb wedi'i dalu, rhaid i'r gwerthwr gael gorchymyn llys i gael y nwyddau'n ôl.

Cyn dychwelyd y nwyddau neu cyn gwneud taliadau, edrychwch i weld a oedd cynllun gwarchod taliadau. Hefyd, cysylltwch â'r National Debtline i gael cyngor.

Benthyciadau personol, cardiau credyd a dyledion credyd

Rhaid talu'r dyledion eraill cyn ad-dalu'r dyledion hyn. Os delir cardiau ar y cyd, bydd un o'r deiliaid yn gyfrifol am unrhyw ddyledion - ond edrychwch i weld a oes gennych gynllun gwarchod taliadau.

Dyledion treth a gordalu budd-daliadau

Byddai unrhyw dreth sy'n ddyledus neu unrhyw fudd-daliadau neu bensiynau a ordalwyd yn cael eu talu o'r ystâd. Cysylltwch â'r swyddfa berthnasol cyn gynted ag y bo modd er mwyn osgoi gordalu budd-daliadau a gweld a oes treth yn ddyledus. Fe gewch hyd i'r manylion cysylltu ar y gwaith papur perthnasol, neu fe allwch chwilio ar-lein.

Gweld a oes gennych yswiriant i dalu'ch dyledion

Dylech bob amser edrych yn ofalus i weld a yw dyledion yr ymadawedig wedi'u gwarchod:

  • y morgais wedi'i warchod rhag bod rhywun yn marw
  • taliadau benthyciadau personol neu gardiau credyd wedi'u gwarchod
  • 'marwolaeth tra'n gwasanaethu' gan bensiwn (taliad unswm os bydd y person yn marw cyn oedran tynnu pensiwn)

Ble i gael help a chyngor

Mae cyngor annibynnol ar gael am ddim am ddyled gan nifer o sefydliadau:

Llinell Gymorth Dyledion Cenedlaethol

Mae'r National Debtline yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim ar sut i ddelio â phroblemau dyled i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallwch ffonio eu llinell gymorth neu lwytho taflenni ffeithiau i lawr am ddim oddi ar eu gwefan.

Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)

Mae eich canolfan CAB leol yn darparu gwybodaeth a chyngor am ddim am broblemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill. Mae cyfeiriad eich canolfan CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.

Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS)

Mae gan y CCCS linell gymorth hefyd sy'n cynnig cyngor annibynnol a diduedd am ddim i bobl sydd â phroblemau gyda dyled:

Additional links

Cadw eich cartref

Cael cyngor am gynlluniau cymorth morgais a chymorth eraill

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 - canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Peidiwch â chael eich cnoi...

A ydych chi wedi cael cynnig benthyciad gan siarcod benthyg? Gallwch roi gwybod am fenthycwyr sydd heb drwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU