Os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd efallai y gallwch chi gael Budd-dal Analluogrwydd, sef taliad wythnosol ar gyfer pobl sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth - sef 60 i fenywod a 65 i ddynion ar hyn o bryd.
Cyflwynwyd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar 27 Hydref 2008.
Mae’n cymryd lle’r Budd-dal Analluogrwydd, a delir oherwydd afiechyd neu anabledd, ar gyfer hawlwyr newydd yn unig. Os ydych eisoes yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd, byddwch yn dal i’w gael.
Efallai y gallwch gael Budd-dal Analluogrwydd os oes un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
Mae’n rhaid eich bod hefyd wedi bod:
neu rhaid i chi:
Gall byw neu weithio dramor effeithio ar eich hawliad am Fudd-dal Analluogrwydd. Ond efallai y gallwch ei hawlio os ydych naill ai:
Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Analluogrwydd er nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol os bydd y canlynol yn berthnasol:
Os ydych yn y Lluoedd Arfog neu os ydych yn byw ac yn gweithio yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE), mae'n bosibl y cewch eich trin fel petaech chi'n dal i breswylio yn y DU.
Mae Budd-dal Analluogrwydd yn cael ei dalu yn ôl tair cyfradd wythnosol:
Y symiau wythnosol ar hyn o bryd
| Cyfradd wythnosol | Swm | Swm os ydych dros oed Pensiwn y Wladwriaeth |
|---|---|---|
| tymor byr (cyfradd is) | £67.75 | £86.20 |
| tymor byr (cyfradd uwch) | £80.15 | £89.80 |
| hirdymor - cyfradd sylfaenol | £89.80 | nid ydych yn gymwys am gyfradd hirdymor sylfaen IB |
Efallai y gallwch gael budd-dal ychwanegol, 'ychwanegiad oedran', gyda'r Budd-dal Analluogrwydd hirdymor os oeddech o dan 45 pan aethoch yn rhy sâl neu'n rhy anabl i weithio.
Efallai y gallwch gael budd-dal ychwanegol ar gyfer eich partner neu'ch partner sifil neu'r person sy'n gofalu am eich plentyn.
Mae Budd-dal Analluogrwydd yn cael ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, gellir anfon eich taliad gyda siec a'i chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
O Ebrill 2009 mae’r Canolfan Byd Gwaith yn cyflwyno newidiadau i’r diwrnod a pha mor aml yr ydych yn cael eich talu Budd-dal Analluogrwydd. Gall y newidiadau symud y diwrnod yr ydych yn cael eich talu, bydd y diwrnod hwn yn cael ei benderfynu gan eich rhif Yswiriant Gwladol. Mae’r newidiadau hefyd yn golygu y byddwch yn cael eich talu o leiaf bob dwy wythnos. Dilynwch y ddolen isod am fwy o wybodaeth.
Pan fyddwch yn gwneud hawliad am Fudd-dal Analluogrwydd, byddwch fel arfer yn cael Asesiad Galluogrwydd Personol.
Fel rhan o'r asesiad hwn, efallai y bydd meddyg yn argymell i chi fynychu archwiliad meddygol.
Os ydych yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd efallai y byddwch yn gallu gwneud rhai mathau o waith - o fewn terfynau. Gelwir hyn yn 'Waith a Ganiateir'. Ond os ydych yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd a chyflog, gallai hyn effeithio ar fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm, fel Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor.
Gallwch hawlio Budd-dal Analluogrwydd drwy wneud un o'r canlynol:
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol os bydd eich amgylchiadau'n newid - er enghraifft:
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'ch Canolfan Byd Gwaith leol.
Os ydych yn cael eich gwrthod Budd-dal Analluogrwydd neu os oes gennych gwestiynau ynghylch eich taliad, gallwch ofyn i’r swyddfa a bu’n delio â’ch hawl i edrych ar ei phenderfyniad eto.
Os ydych dal yn anhapus gyda’r canlyniad, gallwch apelio.
Os ydych chi'n gyfrifol am o leiaf un plentyn neu eich bod ar incwm isel, mae'n bosib y gallwch gael Credyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith.
Gallwch archebu pecyn hawlio dros y ffôn drwy ffonio un o'r llinellau cymorth canlynol.
Os ydych yn byw yn Lloegr, yr Alban neu Gymru ffoniwch 0845 300 3900, ffôn testun 0845 300 3909.
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch 0845 603 2000, ffôn testun 0845 607 6078.
Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 8.00 pm.
Neu gallwch gael gafael ar ffurflen hawlio o'ch Ganolfan Ymholiadau Cyllid a Thollau EM neu swyddfa'ch Canolfan Byd Gwaith agosaf.