Pan fydd eich gwraig, partner neu bartner sifil yn rhoi genedigaeth i blentyn neu'n mabwysiadu plentyn, mae'n bosibl y gallech gael Tâl Tadolaeth Statudol a delir gan eich cyflogwr i'ch helpu i gael amser o'r gwaith.
Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Tadolaeth Statudol rhaid i'r canlynol i gyd fod yn wir amdanoch chi:
Os ydych chi'n ennill £90 yr wythnos neu fwy ar gyfartaledd (cyn treth), telir y Tâl Mabwysiadu Statudol, sef, £123.06 am un neu ddwy wythnos ddilynol neu 90 y cant o'ch enillion wythnosol ar gyfartaledd os yw hynny'n llai.
Bydd eich cyflogwr yn talu'r Tâl Tadolaeth Statudol i chi yn yr un ffordd ac ar yr un pryd ag y byddwch chi'n cael eich cyflog arferol.
Bydd eich Tâl Tadolaeth Statudol yn cael ei drin fel petai'n gyflog arferol, ac felly, bydd treth ac Yswiriant Gwladol yn cael ei dynnu oddi arno fel arfer.
I hawlio Tâl Tadolaeth Statudol rhaid i chi hefyd ddweud wrth eich cyflogwr pa bryd rydych chi'n bwriadu bod yn absennol a hynny erbyn y 15fed wythnos cyn dyddiad tebygol geni'r babi, neu o fewn saith niwrnod i'r adeg pan fydd eich gwraig, eich partner neu bartner sifil yn cael gwybod gan yr asiantaeth fabwysiadu bod plentyn ar gael iddynt.
Os byddwch yn newid eich meddwl, rhaid i chi roi 28 diwrnod o rybudd.
Mae'n bosibl y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi am ffurflen hunan-dystysgrifo SC3 - dod yn rhiant - sy'n cadarnhau bod gennych yr hawl i'r tâl.
Cewch ddewis pa bryd i ddechrau cael eich Tâl Tadolaeth Statudol. Gall y cyfnod absenoldeb ddechrau unrhyw ddiwrnod o'r wythnos
Cewch gymryd naill ai un wythnos neu ddwy wythnos ar ôl ei gilydd, ond nid diwrnodau nawr ac yn y man.
Os oes gennych fwy nag un swydd, mae'n bosibl y gallwch chi gael Tâl Tadolaeth Statudol gan bob cyflogwr.
All eich cyflogwr ddim talu Tâl Tadolaeth Statudol i chi am unrhyw wythnos pan fyddwch chi'n gweithio.