Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grant Swydd

Un taliad di-dreth yw'r Grant Swydd pan fyddwch chi neu'ch partner neu bartner sifil yn dechrau gweithio a'r budd-daliadau yn dod i ben.

Pwy sy'n gymwys?

Gallwch hawlio Grant Swydd os byddwch yn derbyn swydd amser llawn (o leiaf 16 awr yr wythnos) a chithau'n disgwyl i'r gwaith bara am bum wythnos o leiaf. Rhaid eich bod hefyd wedi hawlio un o'r budd-daliadau canlynol am 26 wythnos o leiaf cyn dechrau ar eich swydd newydd:

  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Taliadau Lwfans y Fargen Newydd/Canolfan Byd Gwaith lle mae'r lwfans yn seiliedig ar y Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Analluogrwydd neu'r Lwfans Anabledd Difrifol
  • Taliadau Ardal Gyflogaeth lle mae'r lwfans yn seiliedig ar y Lwfans Ceisio Gwaith

Mae'n bosibl hefyd y cewch chi Grant Swydd os bydd eich partner neu bartner sifil yn dechrau gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos, ac o ganlyniad i hyn - bod eich budd-dal chi yn dod i ben.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Bydd cyfanswm y Grant Swydd a gewch chi'n dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • £100 i bobl sengl a chyplau a phartneriaethau sifil heb blant
  • £250 i rieni unigol a chyplau a phartneriaethau sifil â phlant

Yr effaith ar fudd-daliadau neu gredydau treth

Mae'r Grant Swydd yn ddi-dreth ac nid yw'n effeithio ar unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth eraill y gallech fod â'r hawl iddynt unwaith i chi ddechrau gweithio.

Os byddwch chi'n gymwys i gael Grant Swydd, byddwch chi hefyd yn gymwys i gael y Budd-dal Treth Gyngor Estynedig a'r Budd-dal Tai Estynedig.

Sut i hawlio

Byddwch yn cael y Grant Swydd fel mater o drefn, ar yr amod eich bod yn gymwys. Ond rhaid i chi ddweud wrth eich Canolfan Byd Gwaith eich bod yn dechrau gweithio. Fe gewch eich talu yn yr un ffordd ag yr oeddech chi'n derbyn eich budd-daliadau.

Sut i apelio

Allwch chi ddim apelio.

Ond os gwrthodwyd Grant Swydd i chi neu os ydych chi'n meddwl eich bod wedi derbyn y swm anghywir, gallwch ofyn i'r swyddfa a fu'n delio gyda'ch hawliad edrych eto ar eu penderfyniad.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

Sefydlwyd y Grant Swydd ar gyfer hawliadau newydd o 25 Hydref 2004 ymlaen yn lle'r Bonws Dychwelyd i'r Gwaith a'r Parhad i'r Budd-dal Rhiant Unigol.

Os ydych chi dan 25 oed ac yn gymwys i gael y Lwfans Ceisio Gwaith, nod y Fargen Newydd i Bobl Ifanc yw eich helpu chi i fynd yn ôl i'r gwaith drwy gael hyfforddiant a phrofiad gwaith.

Os nad ydych chi'n siŵr pa fudd-daliadau y mae gennych chi'r hawl iddynt, byddai'n syniad da cael sgwrs â rhywun yn eich Canolfan Byd Gwaith leol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU