Os byddwch chi'n dychwelyd i weithio ar ôl bod ar fudd-daliadau, bydd rhai o'r budd-daliadau hynny'n dod i ben ar unwaith fel mater o drefn. Bydd rhai'n parhau am gyfnod byr ar ôl i chi ddechrau gweithio i'ch helpu drwy'r cyfnod pontio. Mae'n bosib y cewch fudd-daliadau eraill unwaith y dechreuwch chi weithio.
Os oeddech chi'n cael help gyda'ch costau tai pan oeddech chi'n ddi-waith, fe allech chi barhau i'w gael am hyd at bedair wythnos ar ôl i chi ddechrau yn eich swydd newydd. Mae angen i chi fod wedi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Gymhorthdal Incwm am o leiaf 26 wythnos yn ddi-dor cyn i chi ddechrau gweithio.
Dyma rai o’r budd-daliadau:
Does dim rhaid i chi wneud cais am daliadau estynedig Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor, ond rhaid i chi roi gwybod i'r Ganolfan Byd Gwaith ac i'ch awdurdod lleol am newid yn eich amgylchiadau.
O fis Hydref 2008 ymlaen, pan ddaw eich Budd-dal Tai/Budd-dal y Dreth Gyngor Estynedig i ben does dim rhaid i chi wneud hawliad newydd ar gyfer Budd-dal Tai/Budd-dal y Dreth Gyngor mewn gwaith. Bydd eich awdurdod lleol yn ystyried a oes gennych hawl i Fudd-dal Tai/Budd-dal y Dreth Gyngor mewn gwaith yr un pryd ag y byddant yn penderfynu a ydych wedi diwallu'r amodau i gael taliad estynedig.
Taliad di-dreth a delir unwaith yn unig yw'r Grant Swydd ac mae'n bosib y cewch chi hwn wrth ddechrau gweithio'n llawn amser (o leiaf 16 awr yr wythnos). Fe allech ei gael os ydych wedi bod yn cael un neu ragor o'r budd-daliadau hyn am o leiaf 26 wythnos cyn i chi ddechrau gweithio:
Os oes gennych bartner a'u bod yn dechrau gweithio dros 24 awr, gan olygu nad yw'r uned deuluol yn gallu hawlio budd-daliadau, gallant fod yn gymwys i gael taliad grant swydd. Bydd faint o Grant Swydd a gewch chi'n dibynnu ar eich amgylchiadau:
Telir y Grant Swydd i chi'n awtomatig pan fyddwch chi'n dechrau yn eich swydd newydd.
Mae Credyd Dychwelyd i Waith yn rhoi cymorth ariannol yn ystod eich blwyddyn gyntaf o waith os oes gennych, neu rydych wedi cael, cyflwr iechyd neu anabledd ac wedi hawlio budd-dal perthnasol. Mae’n rhaid i chi wneud cais o fewn pum wythnos o ddechrau gweithio.
Mae’n daliad di-dreth o £40 yr wythnos a delir yn uniongyrchol i chi ar ben eich cyflog, am hyd at 52 wythnos, os:
Os ydych yn hunangyflogedig dylai eich incwm disgwyliedig o fasnachu llai treuliau a ganiateir fod yn £15,000 neu lai y flwyddyn. Mae eich incwm yn cynnwys unrhyw gyflog neu dyniadau cyflog.
Gall rhieni sy’n magu plant fod yn gymwys i Gredyd Mewn Gwaith yn hytrach na Chredyd Dychwelyd i Waith.
Er gwaetha'r enw, mae credyd treth yn daliad rheolaidd - nid credyd yn erbyn eich bil treth mohono. Mae naw o bob deg teulu sydd â phlant yn gymwys i gael Credyd Treth Plant. Os ydych chi'n gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos a'ch bod ar incwm isel, mae'n bosib y gallwch chi gael Credyd Treth Gwaith hefyd.