Efallai y gallwch gael y Pensiwn Anabledd Rhyfel os ydych chi wedi cael anaf neu anabledd o ganlyniad i ryfel neu i wasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi (EM).
Mae'n bosib y gallwch gael Pensiwn Anabledd Rhyfel os cawsoch anaf neu anabledd drwy wasanaethu yn Lluoedd Arfog EM, gan gynnwys:
neu
gallwch hawlio os cawsoch eich anafu neu ddod yn anabl wrth wasanaethu fel gwirfoddolwr amddiffyn sifil neu fel rhan o'r LlF, y gwasanaeth morol cynorthwyol neu wylwyr y glannau ac y cawsoch eich anafu neu ddod yn anabl oherwydd:
neu
os oeddech yn ystod yr Ail Ryfel Byd:
Allwch chi ddim hawlio Pensiwn Anabledd Rhyfel os ydych yn dal i wasanaethu yn Lluoedd Arfog EM.
Os ydych chi'n dal i wasanaethu, mae'n bosib y gallwch gael cymorth ariannol dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog.
Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar faint eich anabledd.
Gofynnir i chi lenwi ffurflen hawlio am eich anabledd cyn i Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog archwilio'ch cofnod gwasanaethu. Yna, bydd cynghorwyr meddygol Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog yn penderfynu pa mor ddifrifol yw eich anabledd ar ôl gweld eich cofnodion meddygol.
Bydd eich asesiad yn cael ei gyfrifo fel canran.
Os yw'r ganran yn un o'r isod:
Mae'r tâl cydnabod yn dibynnu ar faint eich anabledd ac am ba hyd yr ydych yn debygol o fod yn anabl. Ond, os mai byddardod synwyrnerfol a achoswyd gan sun sydd gennych, a bod yr asesiad yn penderfynu bod y ganran yn is na 20 y cant, chewch chi ddim tâl cydnabod.
Gellir cael lwfansau ychwanegol ar ben y Pensiwn Anabledd Rhyfel hefyd. Er enghraifft, gall eich oed, anghenion gofal a symudedd, neu golli enillion effeithio ar y swm a gewch.
Telir y Pensiwn Anabledd Rhyfel yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r arian, bydd modd anfon siec y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Gall budd-daliadau eraill y gallwch eu derbyn, megis Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Byw i'r Anabl neu Gymhorthdal Incwm, effeithio ar faint o Bensiwn Anabledd Rhyfel a gewch.
I gael rhagor o wybodaeth am ba fudd-daliadau y gall hyn effeithio arnynt, holwch yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Gallwch gysylltu ag Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog i gael ffurflen hawlio a chymorth i'w llenwi:
Ffoniwch 0800 169 2277
Ffôn testun 0800 169 3458
Mae llinellau ar agor rhwng 8.15 am a 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.15 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener.
Gallwch gael ffurflen hefyd yn eich Swyddfa Gwasanaeth Lles Pensiynwyr Rhyfel agosaf. Gallwch ddod o hyd iddynt yn eich llyfr ffôn lleol dan y testun 'Veterans Agency'.
Neu gallwch lwytho ffurflen oddi ar wefan Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog i wrthod eich cais am Bensiwn Anabledd Rhyfel, gallwch ofyn iddynt am esboniad ac ailasesu'ch cais.
Os ydych yn dal i fod yn anhapus, byddant yn dweud wrthych sut i apelio.
Gallwch gael cymorth rhad ac am ddim gydag apêl drwy gysylltu ag un o'r canlynol: