Os ydych chi’n sâl neu’n anabl o ganlyniad i glefyd neu fyddardod a achoswyd gan fathau penodol o waith, efallai y gallwch hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol oherwydd clefydau a byddardod.
Gallwch hawlio os oeddech wedi'ch cyflogi mewn swydd a berodd i chi ddioddef o unrhyw un o'r canlynol:
Gallwch gael rhestr lawn o afiechydon gan eich Canolfan Darparu Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ranbarthol.
Allwch chi ddim hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os oeddech yn hunangyflogedig mewn gwaith a achosodd eich clefyd neu'ch byddardod.
Bydd eich amgylchiadau personol, gan gynnwys eich oed a pha mor ddifrifol yw eich anabledd - a asesir gan eich meddyg ar raddfa o un i 100 y cant - yn effeithio ar lefel y budd-dal y gallwch ei gael.
Arweiniad yn unig yw'r holl symiau hyn:
| Difrifoldeb yr anabledd, yn ôl yr asesiad | Dros 18 oed (swm wythnosol) | Dan 18 oed heb ddibynyddion (swm wythnosol) |
|---|---|---|
| 100% | £143.60 | £88.05 |
| 90% | £129.24 | £79.25 |
| 80% | £114.88 | £70.44 |
| 70% | £100.52 | £61.64 |
| 60% | £86.16 | £52.83 |
| 50% | £71.80 | £44.03 |
| 40% | £57.44 | £35.22 |
| 30% | £43.08 | £26.42 |
| 20% | £28.72 | £17.61 |
Mae'r Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol a budd-daliadau cysylltiedig yn cael eu talu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, neu Swyddfa'r Post®.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r arian, gellir anfon siec atoch i'w chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn budd-daliadau eraill os ydych yn anabl oherwydd clefyd neu fyddardod ond gall hyn olygu eich bod yn cael llai o fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm gan gynnwys Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm a Budd-dal Treth Cyngor.
Rhowch wybod i'ch swyddfa budd-daliadau os ydych yn derbyn y Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol a'r budd-daliadau cysylltiedig.
Gallwch hawlio hwn os bu farw eich gwraig neu eich gŵr cyn 11 Ebrill 1988 o ganlyniad i ddamwain neu glefyd diwydiannol.
Holwch yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu nawdd cymdeithasol leol am fanylion.
Telir y budd-dal ar brif gyfradd uwch ac is o £95.25 a £28.58.
Gallwch hawlio am glefydau a/neu fyddardod os asesir eich anabledd ar lefel 100 y cant a bod angen gofal a sylw dyddiol arnoch.
Mae'r gyfradd Lwfans Gweini Cyson y byddwch yn ei derbyn yn seiliedig ar asesiad o'ch anghenion.
|
Lefel yr anabledd a aseswyd |
Swm wythnosol |
|---|---|
|
Cyfradd eithriadol |
£115.00 |
|
Cyfradd ganolradd |
£86.25 |
|
Cyfradd uchaf arferol |
£57.50 |
|
Cyfradd ran amser |
£28.75 |
Gallwch hawlio £57.50 a delir yn ychwanegol i'r cyfraddau Lwfans Gweini Cyson, os cewch eich asesu ar gyfradd ganolradd neu eithriadol y Lwfans Gweini Cyson, a bod angen gofal a sylw cyson a pharhaus arnoch.
Gallwch hawlio am y gyfradd wythnosol uchaf o £57.44 ar gyfer hawliadau sy'n ymwneud â damweiniau cyn 1 Hydref 1990.
Gallech fod yn gymwys am y gyfradd wythnosol uchaf o £14.36 (yn lle'r Lwfans Enillion Is pan fyddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth).
Dylech hawlio'r Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol yn syth neu gallech golli'r budd-dal.
Gallwch gael ffurflen hawlio gan eich Canolfan Darparu Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ranbarthol neu gallwch lwytho ffurflen hawlio Anabledd Anafiadau Diwydiannol oddi ar y we.
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch taliadau os byddwch chi neu rywun yr ydych yn hawlio drostynt:
Gan amlaf, byddwch chi neu'r person yr ydych yn gofalu amdano yn dal i gael y Budd-dal Anabledd Anafiadau Difrifol - hyd yn oed os byddwch yn mynd dramor am byth. Ond os mai dros dro y byddwch yn aros dramor, fel arfer dim ond am y tri mis cyntaf y cewch y taliadau. Cewch ragor o wybodaeth gan y swyddfa sy'n delio gyda'r taliad.
Gallwch hefyd gael cyngor o'r Swyddfa Rhanbarthol Anabledd neu'r Canolfan Pensiynau Rhyngwladol.
Gallech gael y Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (damweiniau) hefyd os ydych chi'n anabl o ganlyniad i ddamwain yn y gwaith.
Os ydych yn dioddef o glefydau penodol efallai hefyd y cewch daliad dan Ddeddf Newmoconiosis (Iawndal Gweithwyr) 1979.