Nod y Gronfa Byw'n Annibynnol (1993) yw eich helpu chi, os ydych chi'n anabl, i fyw'n annibynnol gartref yn hytrach na mewn cartref gofal preswyl. Gallwch ddefnyddio arian y Gronfa i gyflogi pobl i roi gofal personol a domestig i chi yn eich cartref eich hun.
Gallwch wneud cais i'r Gronfa Byw'n Annibynnol:
Yr uchafswm yw £455 yr wythnos.
Mae'r swm y byddwch yn ei dderbyn wedi'i seilio ar gost y gofal sydd ei angen arnoch, fesul awr neu fesul wythnos.
Bydd y cyfalaf sydd gennych a'ch incwm, a budd-daliadau a chostau eraill hefyd yn effeithio ar faint gewch chi.
Caiff taliadau'r Gronfa Byw'n Annibynnol eu talu'n syth i unrhyw gyfrif o'ch dewis chi sy'n derbyn taliadau budd-daliadau. Gall hwn fod yn gyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, gellir anfon siec atoch i'w chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Chaiff taliadau'r Gronfa hon ddim effaith ar eich budd-daliadau eraill. Y rheswm dros hyn yw bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i ofalu amdanoch, ac felly, nid yw'n cael ei ystyried yn incwm.
Ond, bydd y Gronfa Byw'n Annibynnol yn ystyried hanner y Lwfans Byw i'r Anabl a'r Premiwm Anabledd Difrifol wrth wneud yr asesiad ariannol.
Gallwch ddefnyddio arian y Gronfa Byw'n Annibynnol i dalu am gyflogi asiantaeth gofal neu gynorthwy-ydd(wyr) personol i'ch helpu gyda thasgau personol a domestig gan gynnwys:
Efallai y gallwch chi gael gofal personol ar gyfer yr adegau pan fyddwch chi'n cymdeithasu neu yn y gwaith.
Gallwch ofyn i adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol am ffurflen gais Cronfa Byw'n Annibynnol.
Neu gallwch lwytho ffurflen gais oddi ar wefan Cronfeydd Byw'n Annibynnol. Mae'r ffurflen yn cynnwys nodiadau i'ch helpu ac mae'n dweud i le y dylech ei hanfon.
Os penderfynir y gallech fod yn gymwys i gael taliad, bydd un o weithwyr cymdeithasol y gronfa'n dod i'ch gweld. Yna, bydd yn cysylltu â gweithiwr cymdeithasol eich awdurdod lleol i drefnu amser hwylus i ddod i'ch gweld ac asesu'ch anghenion gyda'i gilydd.
Dylech roi gwybod i'r Gronfa Byw'n Annibynnol cyn gynted ag y bo modd os bydd eich amgylchiadau'n newid oherwydd fe allai hynny olygu bod eich taliadau wythnosol yn cynyddu neu'n lleihau.
Gallwch ffonio'r Gronfa Byw'n Annibynnol ar 0845 601 8815, ffôn testun 0845 601 8816.
Mae'r llinellau ar agor:
Dydd Llun i ddydd Mercher rhwng 9.00 am a 4.30 pm
Dydd Iau rhwng 9.00 am a 2.00 pm a rhwng 3.30 pm a 4.30 pm
Dydd Gwener rhwng 9.00 am a 4.00 pm.
Os ydych chi'n anhapus am benderfyniad neu ddyfarniad gan y Gronfa Byw'n Annibynnol, cewch ofyn am 'adolygu penderfyniad' drwy gysylltu â'r Gronfa o fewn pedair wythnos i'r penderfyniad.
Gallwch ffonio'r Gronfa Byw'n Annibynnol ar 0845 601 8815, ffôn testun 0845 601 8816.
Bob dwy flynedd, bydd y Gronfa Byw'n Annibynnol yn edrych eto ar eich amgylchiadau i weld a ydy lefel eich taliadau'n dal i fod yn iawn.
Bydd asesydd o'r Gronfa Byw'n Annibynnol a'ch gweithiwr cymdeithasol o'r awdurdod lleol neu reolwr gofal yn ymweld â chi i gynnal yr arolwg hwn. Cewch ofyn hefyd am gael ffrind, perthynas neu eich cynorthwy-ydd personol yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw.