Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Taliad Niwed Trwy Frechiad

Os ydych chi'n ddifrifol anabl o ganlyniad i frechiad rhag clefydau penodol, mae'n bosibl y cewch chi Daliad Niwed trwy Frechiad, taliad untro di-dreth o £120,000.

Pwy gaiff hawlio?

Mae'n bosibl y cewch chi Daliad Niwed trwy Frechiad os ydych yn ddifrifol anabl a bod eich anabledd wedi'i achosi gan frechiad rhag unrhyw un o'r clefydau canlynol:

  • diphtheria
  • tetanws
  • y pas
  • poliomyelitis
  • y frech goch
  • clwy'r pennau
  • rubella (y Frech Almaenig)
  • tiwberciwlosis (TB/y diciâu)
  • haemophilus influenzae math B (HIB)
  • meningococaidd grŵp C (meningitis C)
  • heintiad niwmococol
  • y frech wen (hyd at 1 Awst 1971)  
  • fiws papiloma dynol

Mae'n bosibl eich bod wedi cael brechiad cyfun rhag nifer o'r clefydau a restrir, er enghraifft DTP (diptheria, tetanws a'r pas) neu MMR (y frech goch, clwy'r pennau a'r frech Almaenig).

Mae'n bosibl hefyd y gallwch chi gael y taliad os tybir eich bod yn ddifrifol anabl oherwydd:

  • naill ai bod eich mam wedi'i brechu rhag un o'r clefydau yn y rhestr pan oedd yn feichiog
  • neu eich bod wedi bod mewn cysylltiad corfforol clos gyda rhywun sydd wedi'i frechu rhag poliomyelitis drwy gael brechlyn trwy'r geg

Beth yw 'anabledd difrifol'?

Mesurir anabledd ar ffurf canran, ac ystyr 'anabledd difrifol' yw anabledd o 60 y cant o leiaf. Gallai hyn fod yn anabledd meddyliol neu'n anabledd corfforol.

Er enghraifft, fel arfer, ystyrir bod colli'r golwg neu'r clyw'n llwyr yn anabledd o 100 y cant.

Pryd a ble y cafwyd y brechiad - y rheolau

Er mwyn bod yn gymwys, fel arfer rhaid i chi fod wedi cael y brechiad cyn eich pen-blwydd yn 18 oed - oni bai mai brechiad rhag poliomyelitis, rubella, grŵp c meningococcaidd neu firws papiloma dynol oedd hwn, neu mai brechiad yn ystod heintiad o glefyd yn y DU neu Ynys Manaw.

Rhaid i chi fod wedi cael y brechiad yn y DU neu ar Ynys Manaw.

Os rhoddwyd y brechiad y tu allan i'r DU, mae'n bosibl y gallech ddal i gael taliad os rhoddwyd ef fel rhan o driniaeth feddygol y Lluoedd Arfog.

Pryd i hawlio

Os byddwch chi'n hawlio ar ran plentyn, rhaid i chi ddisgwyl iddynt fod yn ddwy oed o leiaf.

Rhaid hawlio erbyn y dyddiad diweddaraf o'r ddau hyn:

  • erbyn neu cyn pen-blwydd y person anabl yn 21 oed (neu os ydynt wedi marw, y dyddiad y byddent wedi cyrraedd 21 oed)
  • o fewn chwe blynedd i ddyddiad y brechiad

Faint fyddwch chi'n ei gael?

£120,000 yn ddi-dreth.

Sut mae'n cael ei dalu

Telir yr arian yn syth i chi, neu, os ydych chi dan 18 oed neu'n methu rheoli'ch materion chi'ch hun, telir yr arian i ymddiriedolwyr.

Os ydych chi'n byw gyda'ch teulu, mae'n bosibl y penodir eich rhieni'n ymddiriedolwyr.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Gall eich Taliad Niwed trwy Frechiad effeithio ar fudd-daliadau a hawliadau eraill, megis:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Gyngor 
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Bydd yr effaith gaiff y taliad yn dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys a fydd y taliad yn cael ei roi mewn cronfa ymddiriedolaeth a'r taliadau'n cael eu gwneud ohoni.

Dylech roi gwybod i'r swyddfa sy'n delio â'ch hawliad am fudd-dal neu gredyd treth os cewch chi Daliad Niwed trwy Frechiad a byddan nhw'n gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi.

Sut i hawlio

Gallwch gysylltu â'r Uned Taliadau Niwed Trwy Frechiad i ofyn am ffurflen hawlio:

Vaccine Damage Payment Unit

Palatine House, Lancaster Road

Preston, PR1 1HB

Ffôn 01772 899 944

Ffôn testun 01772 562 202

Gallwch hefyd ddefnyddio RNID Typetalk.

Mae llinellau ar agor rhwng 8.30 am a 5.30 pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Neu gallwch lwytho ffurflen i'w hargraffu oddi ar y we a'i llenwi.

Os ydych o dan 18, dylai eich rhiant neu eich gwarcheidwad hawlio ar eich rhan.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi anfon y ffurflen hawlio?

Unwaith i'r Uned Taliadau Niwed trwy Frechiad dderbyn eich hawliad, bydd yn gofyn am dystiolaeth feddygol gan y meddygon neu'r ysbytai sy'n ymwneud â'ch triniaeth.

Bydd hawliad yn llwyddiannus os derbynnir:

  • bod eich anabledd wedi'i achosi gan frechiad
  • bod y lefel o anabledd y gellir ei phriodoli'n uniongyrchol i'r brechiad yn 60 y cant o leiaf

Anfonir llythyr atoch i ddweud beth yw canlyniad yr hawliad.

Sut i apelio

Os gwrthodir eich hawliad a'ch bod yn anghytuno â'r penderfyniad, cewch ofyn i'r Uned Taliadau Niwed trwy Frechiad edrych arno eto, neu cewch apelio i dribiwnlys apêl annibynnol.

Os tybiwch fod y wybodaeth berthnasol heb ei hystyried neu os daw gwybodaeth newydd i'r golwg, cewch ofyn i'r Uned Taliadau Niwed trwy Frechiad ailystyried eu penderfyniad.

Taliad Niwed Trwy Frechiad – Ffilmiau gydag Iaith Arwyddion Prydain ac is-deitlau

Ffilm byr ynghylch Taliad Niwed Trwy Frechiad – a gyflwynir yn Iaith Arwyddion Prydain a chydag is-deitlau – gellir lwytho o Directgov. Mae’r wybodaeth ar gael ar DVD hefyd, a gallwch ofyn am gael copi trwy’r post.

Allweddumynediad llywodraeth y DU