Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Byw i'r Anabl

Budd-dal di-dreth yw'r Lwfans Byw i'r Anabl sydd ar gael i blant neu oedolion a bod angen cymorth arnynt gyda gofal personol neu os ydynt yn cael trafferth i gerdded oherwydd eu bod yn anabl yn gorfforol neu'n feddyliol.

Canllaw yn unig yw'r wybodaeth yn yr adran hon. Gall y swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hawlio a derbyn y Lwfans Byw i'r Anabl.

Pwy all gael Lwfans Byw i'r Anabl?

Efallai y cewch Lwfans Byw i'r Anabl os:

  • oes gennych anabledd corfforol neu feddyliol, neu'r ddau
  • yw eich anabledd mor ddifrifol fel bo angen cymorth arnoch i ofalu amdanoch eich hun, neu os oes gennych anawsterau cerdded, neu'r ddau
  • ydych chi dan 65 pan fyddwch yn hawlio

Os ydych chi'n 65 oed neu'n fwy, efallai y cewch Lwfans Gweini.

Gallwch gael Lwfans Byw i'r Anabl os ydych yn gweithio neu beidio.

Fel arfer nid effeithir arno gan unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych.

Rheolau arbennig - os nad oes gwella arnoch

Os oes gennych glefyd cynyddol ac nad oes disgwyl i chi fyw'n hwy na chwe mis arall, mae 'na reolau arbennig i'ch helpu i gael y Lwfans Gweini yn gyflym ac yn rhwydd.

Archwiliadau meddygol

Fel arfer ni fydd angen archwiliad meddygol arnoch pan fyddwch yn hawlio Lwfans Byw i'r Anabl. Ond, os gofynnir i chi gael archwiliad, gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen isod.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Mae dwy ran i'r Lwfans Byw i'r Anabl a elwir yn 'elfennau':

  • elfen ofal - os oes angen help arnoch i ofalu amdanoch chi'ch hun neu oruchwyliaeth i'ch cadw'n ddiogel
  • elfen symudedd - os na allwch chi gerdded neu os oes angen help arnoch i symud o gwmpas

Dim ond un elfen y bydd gan rai pobl yr hawl iddi tra bydd gan eraill hawl i'r ddwy elfen.

Telir yr elfen ofal a'r elfen symudedd ar wahanol gyfraddau yn dibynnu ar sut y mae'r anabledd yn effeithio arnoch.

Sut mae'n cael ei dalu

Fel arfer mae'r Lwfans Byw i'r Anabl yn cael ei dalu'n uniongyrchol i unrhyw gyfrif o'ch dewis chi sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol ar gyfer budd-daliadau. Gall hwn fod yn fanc, yn gymdeithas adeiladu neu'n ddarparwr cyfrif arall.

Efallai y gall rhywun arall fynd i gasglu'ch Lwfans Byw i'r Anabl ar eich rhan. I gael cymorth gyda hyn, cysylltwch â'ch banc, eich cymdeithas adeiladu neu'ch darparwr cyfrif arall.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael eich talu drwy ffyrdd eraill, cysylltwch â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad - ceir manylion yn yr adran 'Cyfraddau a sut i hawlio'.

Yr effaith ar fudd-daliadau a hawliadau eraill

Os byddwch chi'n dechrau cael Lwfans Byw i'r Anabl, efallai y bydd yn cynyddu'r budd-daliadau eraill y mae gennych chi'r hawl i'w cael, er enghraifft:

  • Cymhorthdal Incwm  
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Gyngor
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant

Mae'r Lwfans Byw i'r Anabl yn cael ei anwybyddu fel incwm wrth gyfrifo'r budd-daliadau cysylltiedig ag incwm hyn a chredydau treth.

Cyfraddau a sut i hawlio

Hawliwch yn syth - os na wnewch chi, efallai y byddwch chi'n colli budd-dal.

Gallwch gael pecyn hawlio drwy:

  • ffonio'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau
  • cysylltu gyda'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol leol
  • llwytho'r ffurflen oddi ar y wefan hon

Isod, cewch wybod mwy am 'Gyfraddau a sut i hawlio' - Lwfans Gweini (adran pobl anabl).

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

I gael y Lwfans Byw i'r Anabl, rhaid i chi fod ym Mhrydain Fawr yn gyffredinol, neu gael eich trin fel petaech yn byw yma, a bodloni rhai amodau eraill o ran eich preswyliaeth a phresenoldeb.

Hefyd, gall newidiadau i'ch amgylchiadau effeithio ar faint o Lwfans Byw i'r Anabl gewch chi neu a fyddwch chi'n ei gael o gwbl. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys cyfnod mewn ysbyty neu os bydd eich anabledd yn gwella neu'n gwaethygu.

Lwfans Byw i’r Anabl – Ffilmiau gydag Iaith Arwyddion Prydain ac is-deitlau

Ffilm byr ynghylch budd-daliadau anabledd – sydd wedi ei chyflwyno mewn Iaith Arwyddion Prydain, ei hadrodd a chydag is-deitlau – gellir ei llwytho o Directgov. Maer’ wybodaeth ar gael ar DVD hefyd, a gallwch ofyn am gael copi trwy’r post.

Allweddumynediad llywodraeth y DU