Budd-dal i helpu pobl sy'n gofalu am rywun ag anabledd yw'r Lwfans Gofalwr. Does dim rhaid i chi fod yn perthyn i'r person yr ydych yn gofalu amdano, na byw gydag ef neu hi.
Canllaw yn unig yw'r wybodaeth yn yr adran hon. Gall yr Uned Lwfans Gofalwr - a fydd yn delio gyda'ch hawliad - ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych am hawlio a chael y Lwfans Gofalwr.
Cewch gael Lwfans Gofalwr os ydych chi'n 16 oed neu drosodd a'ch bod yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun.
Dylent fod yn cael un o'r canlynol:
Chewch chi ddim cael Lwfans Gofalwr os ydych chi mewn addysg amser llawn sy'n golygu 21 awr yr wythnos neu fwy o astudio, neu os ydych chi'n ennill mwy nag £95 yr wythnos ar ôl gwneud didyniadau penodol (er enghraifft Treth Incwm).
Mae'r Lwfans Gofalwr yn cael ei dalu'n uniongyrchol i unrhyw gyfrif o'ch dewis chi sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol ar gyfer budd-daliadau. Gall hwn fod yn gyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol.
Efallai y gallwch drefnu i rywun arall gasglu'r Lwfans Gofalwr ar eich rhan. I gael cymorth gyda hyn, cysylltwch â'ch banc, eich cymdeithas adeiladu neu ddarparwr cyfrif arall, er enghraifft undeb credyd.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael eich talu drwy ffyrdd eraill, cysylltwch â'r Uned Lwfans Gofalwr - ceir y manylion yn yr adran 'Sut i hawlio'.
Os byddwch yn cael Lwfans Gofalwr efallai y bydd yn effeithio ar fudd-daliadau, lwfansau, pensiynau a hawliadau eraill rydych chi, neu'r person rydych chi'n gofalu amdano, yn eu derbyn.
Y gyfradd wythnosol yw £53.10. Bydd y swm hwn yn lleihau yn ôl maint rhai budd-daliadau eraill rydych yn eu derbyn, yn cynnwys Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych yn derbyn £53.10 neu fwy yr wythnos o fudd-daliadau penodol eraill, chewch chi ddim Lwfans Gofalwr hefyd.
Mae'n bosibl y gallwch chi gael swm ychwanegol ar gyfer eich gŵr, eich gwraig, eich partner sifil neu rywun arall sy'n byw gyda chi sy'n gofalu am unrhyw blant sy'n ddibynnol arnoch
Gallwch ofyn am ffurflen hawlio dros y ffôn neu drwy gysylltu â'r Uned Lwfans Gofalwr neu eich swyddfa budd-daliadau leol.
Neu gallwch hawlio ar-lein, isod.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid - neu amgylchiadau'r person rydych chi'n gofalu amdano/i - fe all hynny effeithio ar eich hawl i gael y Lwfans Gofalwr neu effeithio ar y swm a gewch chi.
Er enghraifft, os bydd eich incwm neu'ch amgylchiadau gwaith yn newid, os byddwch chi'n mynd i fyd addysg amser llawn neu'n cymryd hoe o'ch gwaith gofalu.
Os ydych yn derbyn Lwfans Gofalwr ac yn symud i fyw i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu’r Swistir, mae’n bosib y byddwch yn parhau i’w dderbyn o dan amgylchiadau penodol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy
Os ydych eisoes yn byw mewn gwlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewrop neu’r Swistir, mae’n bosib y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Byw i’r Anabl (elfen gofal yn unig) o dan amgylchiadau penodol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.
Gellir llwytho ffilm fer ynghylch y Lwfans Gofalwr - sy'n cael ei chyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain, ac sy'n cynnwys sylwebaeth ac is-deitlau - oddi ar wefan Directgov. Hefyd gallwch weld tair ffilm ynghylch budd-daliadau anabledd, gan gynnwys y Lwfans Byw i’r Anabl. Mae'r wybodaeth ar gael ar DVD hefyd, a gallwch ofyn am gael copi trwy'r post.