Os ydych chi'n rhiant sydd wedi colli gŵr, gwraig neu bartner sifil a bod gennych blentyn neu berson ifanc (16 neu dan 20 oed) sy'n dibynnu arnoch a'ch bod yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer, mae'n bosib y gallwch chi hawlio'r Lwfans Rhiant Gweddw.
Mae'n bosib y cewch y Lwfans Rhiant Gweddw os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:
Mae’n bosibl y gallwch chi hefyd hawlio Lwfans Rhiant Gweddw:
Chewch hi ddim hawlio:
£95.25 yr wythnos yw lwfans sylfaenol cyfredol Lwfans Rhiant Gweddw. Mae'n bosib y bydd gennych hawl i gael pensiwn ychwanegol.
Mae'r Lwfans Rhiant Gweddw yn cael ei dalu i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol.
Os ydych yn ddall neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r arian, anfonir siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Os ydych chi eisoes yn cael un o'r budd-daliadau canlynol, mae'n bosibl y bydd eich taliadau'n newid unwaith i chi ddechrau cael Lwfans Rhiant Gweddw:
Bydd y swyddfa sy'n delio â'ch hawliad yn esbonio sut mae hyn yn gweithio.
Os ydych yn o leiaf 45 oed ond dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bod eich Lwfans Rhiant Gweddw yn dod i ben o fewn 52 wythnos o'ch profedigaeth, mae'n bosib y cewch Lwfans Profedigaeth.
Cewch archebu pecyn hawlio Budd-daliadau Profedigaeth, ffurflen BB1, dros y ffôn gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf. Mae nodiadau gyda'r pecyn hefyd sy'n eich helpu i lenwi'r ffurflen gais.
Llwytho ffurflen hawlio i'w hargraffu a'i llenwi
Neu fe allwch lwytho'r ffurflen hawlio oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Ar ôl llenwi'r ffurflen, anfonwch hi i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf cyn gynted â phosib.
Dim ond am dri mis y gellir ôl-ddyddio'r hawliadau ac fe'u dyddir pan fydd y swyddfa'n eu derbyn, felly os oedwch chi, mae'n bosib y collwch chi'ch budd-dal.
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu â'ch swyddfa Nawdd Cymdeithasol leol os bydd eich amgylchiadau'n newid, er enghraifft:
Bydd rhaid i chi brofi pwy ydych chi wrth wneud cais. Hefyd, bydd rhaid i chi ateb cwestiynau am eich amgylchiadau a'ch cefndir a dangos dogfennau swyddogol i brofi'r wybodaeth honno.