Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth sy'n digwydd os bydd rhywun yn eich amau o dwyll budd-dal?

Os bydd rhywun yn eich amau o gyflawni twyll budd-dal, gall swyddogion ymweld â chi, neu gellir gofyn i chi fynychu cyfweliad i drafod eich hawliad. Gellir atal eich budd-dal tra cynhelir ymchwiliad i'r mater. Os digwydd hyn, dylech dderbyn llythyr yn dweud hynny wrthych.

Beth yw twyll budd-dal?

Os byddwch yn fwriadol yn peidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau personol, neu os byddwch yn anonest am wybodaeth sy'n cefnogi'ch hawliad, fe gewch eich trin fel rhywun sy'n cyflawni twyll budd-dal. Os cewch eich erlyn am dwyll budd-dal, gallwch wynebu dirwy neu ddedfryd o garchar.

Enghreifftiau o dwyll budd-dal

Mae twyll budd-dal yn drosedd, a gellir ei gyflawni mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • hawlio a methu â datgan eich gwaith cyflogedig
  • hawlio a methu â datgan gwaith cyflogedig eich partner
  • hawlio fel person sengl tra eich bod yn byw gyda phartner neu bartner sifil
  • hawlio o gyfeiriad nad ydych yn byw ynddo
  • peidio â datgelu faint o incwm, cynilion a chyfalaf sydd gennych

Gordalu budd-daliadau

Os byddwch yn derbyn gormod o fudd-dal, gelwir hyn yn 'ordalu'. Caiff ei drin fel twyll dan yr amodau canlynol:

  • os gwnaethoch ddal gwybodaeth yn ôl oddi wrth eich swyddfa budd-daliadau
  • os gwnaethoch roi gwybodaeth ffug a allai olygu eich bod yn derbyn budd-daliadau nad oes gennych hawl iddynt

Rhoi gwybod os bydd amgylchiadau'n newid

Bydd angen i chi ddweud wrth eich swyddfa budd-daliadau am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau cyn gynted â phosib. Byddan nhw'n dweud wrthych a fydd yn effeithio ar eich budd-dal ai peidio.

Gall rhai newidiadau olygu bod gennych yr hawl i fudd-daliadau newydd neu ychwanegol, ond gall eraill olygu nad ydych yn gymwys i gael budd-daliadau rhagor, neu y dylech gael llai. Mae'n bosib y byddwch yn derbyn gormod o fudd-dal os na fydd y swyddfa budd-daliadau'n gwybod am eich amgylchiadau newydd.

Os byddwch yn fwriadol yn peidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau personol, fe gewch eich trin fel rhywun sy'n cyflawni twyll budd-dal. Os cewch eich erlyn am dwyll budd-dal, gallech wynebu dirwy neu ddedfryd o garchar.

Beth sy'n digwydd ar ôl ymchwiliad

Unwaith y bydd swyddogion wedi casglu ffeithiau am eich achos, gwneir penderfyniad ynghylch a ddylid cymryd camau pellach ai peidio. Os bydd tystiolaeth eich bod yn cyflawni twyll budd-dal, gall unrhyw un o'r canlynol ddigwydd:

  • gellir eich erlyn
  • gellir gofyn i chi dalu cosb yn lle wynebu erlyniad
  • gellir lleihau neu dynnu eich budd-dal
  • gofynnir i chi ad-dalu'r budd-dal a ordalwyd

Colli Budd-daliadau

Os cewch eich dyfarnu'n euog o ddau drosedd twyll budd-dal, efallai y gwelwch fod eich hawl i rai budd-daliadau yn is neu wedi'i thynnu am gyfnod gwahardd.

Gelwir hyn yn gosb 'Dau Gyfle', ac fe gewch wybod os yw'n berthnasol i'ch budd-daliadau chi.

Budd-daliadau cosbadwy

Gelwir budd-daliadau y gellir eu tynnu neu eu lleihau yn y modd hwn yn fudd-daliadau cosbadwy, ac maent yn cynnwys:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Budd-dal Tai

Budd-daliadau anghymwyso

Nid yw budd-daliadau anghymwyso'n gosbadwy ar eu pennau eu hunain, ond gall dau drosedd twyll sy'n ymwneud â nhw arwain at gosb Dau Gyfle yn erbyn budd-daliadau eraill. Dyma rai enghreifftiau:

  • Pensiwn Ymddeol
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Lwfans Gweini
  • Budd-dal Plant

Nid yw rhai budd-daliadau, megis Credydau Treth a Thâl Salwch Statudol, yn rhan o'r broses gosb Dau Gyfle o gwbl. I gael gwybod ar gyfer pa fudd-daliadau y mae'n berthnasol, ewch i wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a darllenwch Atodiad 1.

Ble i gael cyngor

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch eich budd-daliadau, hawliad budd-daliadau neu ymchwiliad, mae'n syniad da cysylltu â'ch swyddfa budd-daliadau. Efallai eich bod wedi gwneud camgymeriad gwirioneddol, neu'n ansicr a ydy rhywbeth yn berthnasol i'ch achos penodol chi.

Os ydych chi'n poeni am gael eich amau o dwyll, efallai y dymunwch gael cyngor annibynnol gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.

Cyngor cyfreithiol

Os byddwch yn wynebu erlyniad ar gyfer twyll budd-dal, neu y bydd gofyn i chi dalu cosb yn lle wynebu erlyniad, mae'n syniad da ceisio cyngor cyfreithiol gan dwrnai, neu siarad â chynghorydd profiadol.

Mae cyfeirlyfr y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn darparu manylion yr holl gyfreithwyr, asiantaethau cynghori a darparwyr gwybodaeth yng Nghymru a Lloegr sy'n dal ei nod ansawdd neu sydd wedi ymrwymo iddo.

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed ynghylch eich budd-daliadau

Mae gennych hawl i ddadlau neu apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad am fudd-daliadau, gan gynnwys penderfyniadau a wnaethpwyd ar sail canlyniadau ymchwiliad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU