Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Paratoi ar gyfer llifogydd

Defnyddiwch y canllaw hwn i baratoi eich teulu a'ch cartref os cewch lifogydd. Cael gwybod ble i gael gwybodaeth am rybuddion llifogydd yn eich ardal, a ble i gael cyfarpar gwarchod rhag llifogydd.

Cynllunio ar gyfer llifogydd

Os ydych yn poeni am lifogydd yn eich ardal gallwch baratoi drwy:

  • sicrhau eich bod yn gwybod am unrhyw rybuddion llifogydd
  • edrych ar eich polisi yswiriant
  • gwybod sut i ddiffodd eich cyflenwadau nwy, trydan a dŵr
  • paratoi pecyn o eitemau hanfodol
  • trefnu sut i aros mewn cysylltiad ag aelodau o'ch teulu rhag ofn y cewch eich gwahanu
  • meddwl pa eitemau personol y gallwch eu symud yn awr a pha eitemau y byddech am eu symud yn ystod llifogydd
  • prynu cyfarpar gwarchod rhag llifogydd

Bydd y canllaw canlynol yn eich tywys drwy bob cam.

Gweld a yw eich ardal mewn perygl o gael llifogydd

Gallwch gael gwybod am beryglon llifogydd yn eich ardal, cofrestru am rybuddion llifogydd cynnar os ydych yn byw mewn ardal risg uchel o safbwynt llifogydd, a gweld pa rybuddion llifogydd sydd mewn grym yng Nghymru a Lloegr unrhyw adeg. Darperir yr holl wybodaeth hon gan Asiantaeth yr Amgylchedd, sef corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am eich helpu i baratoi ar gyfer llifogydd.

Defnyddio'r map rhybudd llifogydd
Gallwch deipio eich cod post ar y map rhybudd llifogydd isod i gael gwybodaeth am unrhyw beryglon llifogydd yn eich ardal.

Cofrestru i gael rhybuddion ar gyfer ardaloedd risg uchel o safbwynt llifogydd
Os ydych yn byw mewn ardal risg uchel o safbwynt llifogydd, gallwch ffonio a chofrestru ar gyfer gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol ar 0845 988 1188. Os ydych yn gymwys, yna gallwch gael rhybuddion llifogydd yn gynnar dros y ffôn, neges destun, e-bost, ffacs neu beiriant galw.

Rhybuddion llifogydd mewn grym yng Nghymru a Lloegr
Os hoffech weld pa rybuddion llifogydd sydd mewn grym ledled Cymru a Lloegr, dilynwch y ddolen isod.

Gwybodaeth arall am lifogydd
Gallwch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd ar:

  • Dudalen Teletext 159, Tudalen BBC Ceefax 419 a Thudalen Digital Ceefax 405
  • rhagolygon y tywydd, newyddion a bwletinau teithio lleol

Edrych ar eich yswiriant cartref

Edrychwch ar eich polisi yswiriant adeiladau a chynnwys er mwyn:

  • cadarnhau bod gennych yswiriant ar gyfer llifogydd
  • cael gwybod os cewch eitemau personol newydd yn lle'r rhai a ddifrodir (polisi 'newydd yn lle hen)
  • sicrhau nad ydych wedi rhoi amcangyfrif rhy isel o werth cynnwys eich cartref

Ceir gwybodaeth ar y daflen isod gan Asiantaeth yr Amgylchedd am sut y gall byw mewn ardal risg uchel o safbwynt llifogydd effeithio ar eich yswiriant.

Diffodd cyflenwadau nwy, trydan a dŵr

Os nad ydych yn siŵr sut i ddiffodd eich cyflenwad nwy, dŵr neu drydan, dylech holi eich cyflenwr am gyngor. Mae rhoi sticeri ar ba dapiau a switsys y dylid eu diffodd mewn llifogydd yn ei gwneud yn haws cofio ac yn cyflymu'r broses.

Paratoi pecyn o eitemau hanfodol

Bydd yr eitemau canlynol, wedi'u cadw gyda'i gilydd mewn man y gellir ei gyrraedd yn hawdd, yn eich helpu i ymdopi mewn llifogydd:

  • copïau o'ch dogfennau yswiriant cartref
  • tortsh a batris sbâr
  • radio batri neu wynt
  • dillad a blancedi cynnes, sy'n gwrthsefyll dŵr
  • pecyn cymorth cyntaf a chyflenwadau unrhyw bresgripsiynau ar eich cyfer chi a'ch teulu
  • dŵr potel a bwyd nad yw'n darfod
  • pethau i ofalu am eich babi

Cadw mewn cysylltiad

Dylech chi a'ch teulu gytuno ar sut y byddwch yn cysylltu â'ch gilydd a lle byddwch yn mynd - rhag ofn i chi gael eich gwahanu yn ystod llifogydd - sicrhewch eich bod yn cadw rhestr o rifau cyswllt pwysig gyda chi bob amser.

Symud eich eiddo

Sicrhewch eich bod yn symud eich eiddo teuluol gwerthfawr i fan diogel cyn llifogydd. Mae hefyd yn bwysig meddwl pa bethau eraill yr hoffech eu symud i le diogel cyn llifogydd megis:

  • anifeiliaid anwes
  • ceir
  • dodrefn a chyfarpar trydanol
  • dodrefn gardd a phlanhigion mewn potiau

Cyfarpar gwarchod rhag llifogydd

Mae amryw o gynhyrchion gwarchod rhag llifogydd y gallwch eu prynu a all helpu i atal llifogydd rhag difrodi eich cartref a'ch eiddo. Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr i osod y rhain pan gewch rybudd llifogydd. Unwaith y bydd dŵr llifogydd wedi draenio, dylech dynnu'r cyfarpar gwarchod rhag llifogydd er mwyn helpu i sychu eich cartref.

Mathau o gyfarpar gwarchod rhag llifogydd

Gall y cyfarpar isod helpu i warchod eich cartref rhag difrod gwaethaf llifogydd. Gall Asiantaeth yr Amgylchedd roi rhestr o amddiffynfeydd symudol ar gyfer eich cartref, ynghyd â rhestr o'u cyflenwyr. Chwiliwch am y Nod Barcud gan Sefydliad Safonau Prydain (BSI) sy'n symbol ansawdd cydnabyddedig ar gyfer nwyddau a brynir.

Bagiau tywod
Efallai y bydd eich cyngor yn darparu bagiau tywod yn ystod llifogydd i'ch helpu i warchod eich cartref. Fodd bynnag, gallai'r cyflenwad fod yn brin felly mae'n syniad da:

  • prynu eich tywod a'ch bagiau eich hun
  • llenwi cas gobennydd a bagiau plastig â phridd


Ar ôl llifogydd, gall carthion fod yn y rhain felly dylech fod yn ofalus os byddwch yn dod i gysylltiad â nhw.

Byrddau llifogydd
Gosodir y rhain ar fframiau o amgylch ffenestri a drysau. Gallwch olchi, storio a defnyddio'r rhain eto.

Gorchuddion plastig i selio briciau aer
Gall y rhain atal dŵr llifogydd rhag dod i mewn drwy eich briciau aer.

Mwy o gyfarpar gwarchod rhag llifogydd
Mae mwy o bethau y gallwch eu gwneud yn eich cartref a fydd ei gwneud yn haws ac yn rhatach clirio ar ôl llifogydd. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch dudalen 8 a 9 o'r daflen ganlynol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU